Effesiaid 1:7-9
Effesiaid 1:7-9 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Cawson ni’n gollwng yn rhydd am fod marwolaeth ei fab ar y groes wedi gwneud maddeuant ein pechodau yn bosib. Dyna lle dŷn ni’n gweld mor anhygoel o hael mae Duw wedi bod tuag aton ni! Mae wedi tywallt ei haelioni arnon ni, ac wedi rhoi doethineb a synnwyr i ni. Mae wedi rhannu ei gynllun dirgel gyda ni. Roedd wrth ei fodd yn gwneud hyn! Mae wedi gwneud y cwbl drwy’r Meseia. Trefnu
Effesiaid 1:7-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ynddo ef y mae i ni brynedigaeth trwy ei waed, sef maddeuant ein camweddau; dyma fesur cyfoeth y gras a roddodd mor hael i ni, ynghyd â phob doethineb a dirnadaeth. Hysbysodd i ni ddirgelwch ei ewyllys, yn unol â'r bwriad a arfaethodd yng Nghrist
Effesiaid 1:7-9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yn yr hwn y mae i ni brynedigaeth trwy ei waed ef, sef maddeuant pechodau, yn ôl cyfoeth ei ras ef; Trwy yr hwn y bu efe helaeth i ni ym mhob doethineb a deall, Gwedi iddo hysbysu i ni ddirgelwch ei ewyllys, yn ôl ei fodlonrwydd ei hun, yr hon a arfaethasai efe ynddo ei hun