Effesiaid 1:4-7
Effesiaid 1:4-7 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Hyd yn oed cyn i’r byd gael ei greu, cawson ni’n dewis ganddo i fod mewn perthynas â’r Meseia, ac i fod yn lân a di-fai yn ei olwg. Yn ei gariad trefnodd Duw ymlaen llaw i ni gael ein mabwysiadu i’w deulu. Iesu y Meseia wnaeth hyn yn bosib; roedd wrth ei fodd yn gwneud hynny! Clod i Dduw am yr haelioni anhygoel mae wedi’i ddangos tuag aton ni! – ei anrheg i ni yn y Mab mae’n ei garu. Cawson ni’n gollwng yn rhydd am fod marwolaeth ei fab ar y groes wedi gwneud maddeuant ein pechodau yn bosib. Dyna lle dŷn ni’n gweld mor anhygoel o hael mae Duw wedi bod tuag aton ni!
Effesiaid 1:4-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Cyn seilio'r byd, fe'n dewisodd yng Nghrist i fod yn sanctaidd ac yn ddi-fai ger ei fron mewn cariad. O wirfodd ei ewyllys fe'n rhagordeiniodd i gael ein mabwysiadu yn blant iddo'i hun trwy Iesu Grist, er clod i'w ras gogoneddus, ei rad rodd i ni yn yr Anwylyd. Ynddo ef y mae i ni brynedigaeth trwy ei waed, sef maddeuant ein camweddau; dyma fesur cyfoeth y gras
Effesiaid 1:4-7 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Megis yr etholodd efe ni ynddo ef cyn seiliad y byd, fel y byddem yn sanctaidd ac yn ddifeius ger ei fron ef mewn cariad: Wedi iddo ein rhagluniaethu ni i fabwysiad trwy Iesu Grist iddo ei hun, yn ôl bodlonrwydd ei ewyllys ef, Er mawl gogoniant ei ras ef, trwy yr hwn y gwnaeth ni yn gymeradwy yn yr Anwylyd: Yn yr hwn y mae i ni brynedigaeth trwy ei waed ef, sef maddeuant pechodau, yn ôl cyfoeth ei ras ef