Effesiaid 1:4-5
Effesiaid 1:4-5 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Hyd yn oed cyn i’r byd gael ei greu, cawson ni’n dewis ganddo i fod mewn perthynas â’r Meseia, ac i fod yn lân a di-fai yn ei olwg. Yn ei gariad trefnodd Duw ymlaen llaw i ni gael ein mabwysiadu i’w deulu. Iesu y Meseia wnaeth hyn yn bosib; roedd wrth ei fodd yn gwneud hynny!
Effesiaid 1:4-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Cyn seilio'r byd, fe'n dewisodd yng Nghrist i fod yn sanctaidd ac yn ddi-fai ger ei fron mewn cariad. O wirfodd ei ewyllys fe'n rhagordeiniodd i gael ein mabwysiadu yn blant iddo'i hun trwy Iesu Grist
Effesiaid 1:4-5 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Megis yr etholodd efe ni ynddo ef cyn seiliad y byd, fel y byddem yn sanctaidd ac yn ddifeius ger ei fron ef mewn cariad: Wedi iddo ein rhagluniaethu ni i fabwysiad trwy Iesu Grist iddo ei hun, yn ôl bodlonrwydd ei ewyllys ef