Effesiaid 1:20-23
Effesiaid 1:20-23 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
wnaeth godi’r Meseia yn ôl yn fyw a’i osod i eistedd yn y sedd anrhydedd ar ochr dde Duw yn y byd nefol. Mae’n llawer uwch nag unrhyw un arall sy’n teyrnasu neu’n llywodraethu, ac unrhyw rym neu awdurdod arall sy’n bod. Does gan neb na dim deitl tebyg iddo – yn y byd yma na’r byd sydd i ddod! Mae Duw wedi rhoi popeth dan ei awdurdod. Mae wedi’i wneud e yn ben ar y cwbl – er lles yr eglwys. Yr eglwys ydy ei gorff e – mae’n llawn ohono fe sy’n llenwi’r bydysawd cyfan â’i bresenoldeb.
Effesiaid 1:20-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
y grymuster hwnnw a gyflawnodd yng ngrym ei nerth yng Nghrist pan gyfododd ef oddi wrth y meirw, a'i osod i eistedd ar ei ddeheulaw yn y nefolion leoedd, ymhell uwchlaw pob tywysogaeth ac awdurdod a gallu ac arglwyddiaeth, a phob teitl a geir, nid yn unig yn yr oes bresennol, ond hefyd yn yr oes sydd i ddod. Darostyngodd Duw bob peth dan ei draed ef, a rhoddodd ef yn ben ar bob peth i'r eglwys; yr eglwys hon yw ei gorff ef, a chyflawniad yr hwn sy'n cael ei gyflawni ym mhob peth a thrwy bob peth.
Effesiaid 1:20-23 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yr hon a weithredodd efe yng Nghrist, pan ei cyfododd ef o feirw, ac a’i gosododd i eistedd ar ei ddeheulaw ei hun yn y nefolion leoedd, Goruwch pob tywysogaeth, ac awdurdod, a gallu, ac arglwyddiaeth, a phob enw a enwir, nid yn unig yn y byd hwn, ond hefyd yn yr hwn a ddaw: Ac a ddarostyngodd bob peth dan ei draed ef, ac a’i rhoddes ef yn ben uwchlaw pob peth i’r eglwys, Yr hon yw ei gorff ef, ei gyflawnder ef, yr hwn sydd yn cyflawni oll yn oll.