Effesiaid 1:18-19
Effesiaid 1:18-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Bydded iddo oleuo llygaid eich deall, a'ch dwyn i wybod beth yw'r gobaith sy'n ymhlyg yn ei alwad, beth yw cyfoeth y gogoniant sydd ar gael yn yr etifeddiaeth y mae'n ei rhoi i chwi ymhlith y saint, a beth yw aruthrol fawredd y gallu sydd ganddo o'n plaid ni sy'n credu
Effesiaid 1:18-19 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Dw i’n gweddïo y daw’r cwbl yn olau i chi. Dw i eisiau i chi ddod i weld yn glir a deall yn union beth ydy’r gobaith sydd ganddo ar eich cyfer, a gweld mor wych ydy’r lle bendigedig sydd ganddo i’w bobl. Dw i hefyd am i chi sylweddoli mor anhygoel ydy’r nerth sydd ar gael i ni sy’n credu. Dyma’r pŵer aruthrol
Effesiaid 1:18-19 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Wedi goleuo llygaid eich meddyliau; fel y gwypoch beth yw gobaith ei alwedigaeth ef, a pheth yw golud gogoniant ei etifeddiaeth ef yn y saint, A pheth yw rhagorol fawredd ei nerth ef tuag atom ni y rhai ŷm yn credu, yn ôl gweithrediad nerth ei gadernid ef