Pregethwr 7:8-12
Pregethwr 7:8-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Y mae diwedd peth yn well na'i ddechrau, ac amynedd yn well nag ymffrost. Paid â rhuthro i ddangos dig, oherwydd ym mynwes ffyliaid y mae dig yn aros. Paid â dweud, “Pam y mae'r dyddiau a fu yn well na'r rhai hyn?” Oherwydd ni ddangosir doethineb wrth ofyn hyn. Y mae cael doethineb cystal ag etifeddiaeth, ac yn fantais i'r rhai sy'n gweld yr haul. Y mae doethineb yn gystal amddiffyn ag arian; mantais deall yw bod doethineb yn rhoi bywyd i'w pherchennog.
Pregethwr 7:8-12 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Mae gorffen rhywbeth yn well na’i ddechrau,” ac “Mae amynedd yn well na balchder.” Paid gwylltio’n rhy sydyn; gwylltineb sydd yng nghalon ffyliaid. Paid gofyn, “Pam oedd pethau gymaint gwell ers talwm?” Dydy’r rhai doeth ddim yn meddwl felly. Mae doethineb, fel etifeddiaeth, yn beth da ac yn fanteisiol i bob person byw, oherwydd mae doethineb, fel arian, yn gysgod i’n cadw’n saff. Ond mantais doethineb ydy hyn: mae doethineb yn cadw’r doeth yn fyw.
Pregethwr 7:8-12 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Gwell yw diweddiad peth na’i ddechreuad: gwell yw y dioddefgar o ysbryd na’r balch o ysbryd. Na fydd gyflym yn dy ysbryd i ddigio: oblegid dig sydd yn gorffwys ym mynwes ffyliaid. Na ddywed, Paham y bu y dyddiau o’r blaen yn well na’r dyddiau hyn? canys nid o ddoethineb yr wyt yn ymofyn am y peth hyn. Da yw doethineb gydag etifeddiaeth: ac o hynny y mae elw i’r rhai sydd yn gweled yr haul. Canys cysgod yw doethineb, a chysgod yw arian: ond rhagoriaeth gwybodaeth yw bod doethineb yn rhoddi bywyd i’w pherchennog.