Pregethwr 5:1-2
Pregethwr 5:1-2 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Gwylia beth rwyt ti’n ei wneud wrth fynd i addoli Duw. Dos yno i wrando, ddim i gyflwyno offrwm ffyliaid, oherwydd dydy’r rheiny ddim yn gwybod eu bod nhw’n gwneud rhywbeth o’i le. Paid bod yn rhy barod dy dafod, ac ar ormod o frys i ddweud dy farn wrth Dduw. Mae Duw yn y nefoedd a tithau ar y ddaear. Dylet ti bwyso a mesur dy eiriau.
Pregethwr 5:1-2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gwylia dy droed pan fyddi'n mynd i dŷ Dduw. Y mae'n well nesáu i wrando nag offrymu aberth ffyliaid, oherwydd nid ydynt hwy'n gwybod eu bod yn gwneud drwg. Paid â bod yn fyrbwyll â'th enau na bod ar frys o flaen Duw. Y mae Duw yn y nefoedd, ac yr wyt ti ar y ddaear, felly bydd yn fyr dy eiriau.
Pregethwr 5:1-2 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Gwylia ar dy droed pan fyddych yn myned i dŷ DDUW, a bydd barotach i wrando nag i roi aberth ffyliaid; canys ni wyddant hwy eu bod yn gwneuthur drwg. Na fydd ry brysur â’th enau, ac na frysied dy galon i draethu dim gerbron DUW: canys DUW sydd yn y nefoedd, a thithau sydd ar y ddaear; ac am hynny bydded dy eiriau yn anaml.