Pregethwr 2:18-23
Pregethwr 2:18-23 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Rôn i’n casáu’r ffaith fy mod i wedi gweithio mor galed i gael pethau ar y ddaear yma, ac wedyn fod rhaid i mi adael y cwbl i’r un fyddai’n dod ar fy ôl i. A phwy a ŵyr fydd y person hwnnw’n ddoeth neu’n ffŵl? Ond bydd e’n dal i reoli’r holl gyfoeth dw i wedi gweithio mor galed amdano a defnyddio fy noethineb i’w gael. Dydy hyn chwaith yn gwneud dim sens! Rôn i’n hollol ddigalon wrth feddwl am bopeth roeddwn i wedi’i gyflawni ar y ddaear. Mae rhywun yn gweithio’n galed ac yn defnyddio’i holl ddoethineb a’i wybodaeth a’i allu i gael y cwbl, ac wedyn mae’n ei basio ymlaen i rywun sydd wedi gwneud dim i’w ennill. Dydy’r peth yn gwneud dim sens ac mae’n hollol annheg. Beth mae rhywun yn ei ennill ar ôl yr holl ymdrech diddiwedd? Dim ond pryder a rhwystredigaeth drwy’r dydd, ac wedyn methu ymlacio yn y nos hyd yn oed! Dydy e’n gwneud dim sens!
Pregethwr 2:18-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr oeddwn yn casáu'r holl lafur a gyflawnais dan yr haul, gan y bydd yn rhaid imi ei adael i'r un a ddaw ar fy ôl; a phwy sy'n gwybod ai doeth ynteu ffôl fydd hwnnw? Ac eto, ef fydd yn rheoli'r holl lafur a gyflawnais mewn doethineb dan yr haul. Y mae hyn hefyd yn wagedd. Yna euthum i anobeithio'n llwyr am yr holl lafur a gyflawnais dan yr haul. Oherwydd y mae'r sawl a lafuriodd yn ddoeth a deallus a chyda medr yn gadael ei eiddo i un na lafuriodd amdano. Y mae hyn hefyd yn wagedd ac yn flinder mawr. Beth a gaiff neb am yr holl lafur a'r ymdrech a gyflawnodd dan yr haul? Oherwydd y mae ei holl ddyddiau yn ofidus, a'i orchwyl yn boenus; a hyd yn oed yn y nos nid oes gorffwys i'w feddwl. Y mae hyn hefyd yn wagedd.
Pregethwr 2:18-23 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ie, cas gennyf fy holl lafur yr ydwyf fi yn ei gymryd dan haul; am fod yn rhaid i mi ei adael i’r neb a fydd ar fy ôl i. A phwy a ŵyr ai doeth ai annoeth fydd efe? eto efe a fydd feistr ar fy holl lafur yr hwn a gymerais, ac yn yr hwn y bûm ddoeth dan haul. Dyma wagedd hefyd. Am hynny mi a droais i beri i’m calon anobeithio o’r holl lafur a gymerais dan yr haul. Canys y mae dyn yr hwn y mae ei lafur yn bwyllog, yn synhwyrol, ac yn uniawn: ac y mae yn ei adael yn rhan i’r neb ni lafuriodd wrtho. Hyn hefyd sydd wagedd, a gorthrymder mawr. Canys beth sydd i ddyn o’i holl lafur a gorthrymder ei galon, yr hwn a gymerodd efe dan haul? Canys ei holl ddyddiau sydd orthrymder, a’i lafur yn ofid: ie, ni chymer ei galon esmwythdra y nos. Hyn hefyd sydd wagedd.