Pregethwr 2:12-16
Pregethwr 2:12-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna trois i edrych ar ddoethineb, ac ar ynfydrwydd a ffolineb. Beth rhagor y gall y sawl a ddaw ar ôl y brenin ei wneud nag sydd eisoes wedi ei wneud? Yna gwelais fod doethineb yn werthfawrocach nag ynfydrwydd, fel y mae goleuni yn werthfawrocach na thywyllwch. Y mae'r doeth â'i lygaid yn ei ben, ond y mae'r ffôl yn rhodio yn y tywyllwch; eto canfûm mai'r un peth yw tynged y ddau. Yna dywedais wrthyf fy hun, “Yr un peth a ddigwydd i mi ac i'r ffôl. Pa elw a gaf o fod yn ddoeth?” Yna dywedais, “Y mae hyn hefyd yn wagedd.” Oherwydd ni chofir am byth am y doeth mwy na'r ffôl, ond fe anghofir am y naill a'r llall fel yr â'r dyddiau heibio; yn wir, marw y mae'r doeth fel y ffôl.
Pregethwr 2:12-16 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Beth mwy fydd y brenin nesaf yn gallu ei wneud? Dim ond beth sydd wedi’i gyflawni eisoes! Dechreuais feddwl eto am y gwahaniaeth rhwng doethineb a’r pethau hurt a ffôl mae pobl yn eu gwneud. Des i’r casgliad fod mwy o bwynt i ddoethineb na ffolineb – mae fel y gwahaniaeth rhwng golau a thywyllwch. “Mae pobl ddoeth yn gwybod ble maen nhw’n mynd, ond mae ffyliaid yn cerdded mewn tywyllwch.” Ond wedyn, yr un dynged sy’n disgwyl y naill a’r llall. Meddyliais, “Yr un peth fydd yn digwydd i mi ac i’r ffŵl yn y diwedd! Felly beth ydy’r pwynt bod mor ddoeth?” Des i’r casgliad fod hyn hefyd yn gwneud dim sens. Fydd dyn doeth, fel y ffŵl, ddim yn cael ei gofio yn hir iawn. Byddan nhw wedi cael eu hanghofio yn y dyfodol. Mae’n ofnadwy! Mae’r doeth yn marw yn union yr un fath â’r rhai ffôl.
Pregethwr 2:12-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna trois i edrych ar ddoethineb, ac ar ynfydrwydd a ffolineb. Beth rhagor y gall y sawl a ddaw ar ôl y brenin ei wneud nag sydd eisoes wedi ei wneud? Yna gwelais fod doethineb yn werthfawrocach nag ynfydrwydd, fel y mae goleuni yn werthfawrocach na thywyllwch. Y mae'r doeth â'i lygaid yn ei ben, ond y mae'r ffôl yn rhodio yn y tywyllwch; eto canfûm mai'r un peth yw tynged y ddau. Yna dywedais wrthyf fy hun, “Yr un peth a ddigwydd i mi ac i'r ffôl. Pa elw a gaf o fod yn ddoeth?” Yna dywedais, “Y mae hyn hefyd yn wagedd.” Oherwydd ni chofir am byth am y doeth mwy na'r ffôl, ond fe anghofir am y naill a'r llall fel yr â'r dyddiau heibio; yn wir, marw y mae'r doeth fel y ffôl.
Pregethwr 2:12-16 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A mi a droais i edrych ar ddoethineb, ac ar ynfydrwydd a ffolineb: canys beth a wnâi y dyn a ddeuai ar ôl y brenin? y peth a wnaed eisoes. Yna mi a welais fod doethineb yn rhagori ar ffolineb, fel y mae goleuni yn rhagori ar dywyllwch. Y doeth sydd â’i lygaid yn ei ben; ond y ffôl a rodia yn y tywyllwch: ac eto mi a welais yr un ddamwain yn digwydd iddynt oll. Yna y dywedais yn fy nghalon, Fel y digwydd i’r ffôl, y digwydd i minnau; pa beth gan hynny a dâl i mi fod yn ddoeth mwyach? Yna y dywedais yn fy nghalon, fod hyn hefyd yn wagedd. Canys ni bydd coffa am y doeth mwy nag am yr annoeth yn dragywydd; y pethau sydd yr awr hon, yn y dyddiau a ddaw a ollyngir oll dros gof: a pha fodd y mae y doeth yn marw? fel yr annoeth.