Pregethwr 12:2-5
Pregethwr 12:2-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Cofia amdano cyn tywyllu'r haul a'r goleuni, y lloer a'r sêr, a chyn i'r cymylau ddychwelyd ar ôl y glaw. Dyma'r dydd pan fydd ceidwaid y tŷ yn crynu, a dynion cryf yn gwargrymu; pan fydd y merched sy'n malu yn peidio â gweithio am eu bod yn ychydig, a phan fydd golwg y rhai sy'n edrych trwy'r ffenestri wedi pylu; pan fydd y drysau i'r stryd wedi cau, a sŵn y felin yn distewi; pan fydd rhywun yn cael ei ddychryn gan gân aderyn, am fod yr holl adar a ganai wedi distewi; pan fydd pobl yn ofni llecyn uchel a pheryglon ar y ffordd; pan fydd y pren almon yn gwynnu, a cheiliog rhedyn yn ymlusgo'n feichus, a'i chwant heb ei gyffroi; pan fydd rhywun ar fynd i'w gartref bythol, a'r galarwyr yn crynhoi yn y stryd.
Pregethwr 12:2-5 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Cyn i’r haul a golau’r lleuad a’r sêr droi’n dywyll, a’r cymylau’n dod yn ôl eto ar ôl y glaw: pan mae gwylwyr y tŷ yn crynu, a dynion cryf yn crymu; y rhai sy’n malu’r grawn yn y felin yn mynd yn brin, a’r rhai sy’n edrych drwy’r ffenestri yn colli eu golwg; pan mae’r drysau i’r stryd wedi cau, a sŵn y felin yn malu wedi tawelu; pan mae rhywun yn cael ei ddeffro’n gynnar gan gân aderyn er fod holl seiniau byd natur yn distewi; pan mae gan rywun ofn uchder ac ofn mynd allan ar y stryd; pan mae blodau’r pren almon yn troi’n wyn, y ceiliog rhedyn yn llusgo symud, a chwant rhywiol wedi hen fynd; pan mae pobl yn mynd i’w cartref tragwyddol, a’r galarwyr yn dod allan ar y stryd.
Pregethwr 12:2-5 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Cyn tywyllu yr haul, a’r goleuni, a’r lleuad, a’r sêr, a dychwelyd y cymylau ar ôl y glaw: Yr amser y cryna ceidwaid y tŷ, ac y cryma y gwŷr cryfion, ac y metha y rhai sydd yn malu, am eu bod yn ychydig, ac y tywylla y rhai sydd yn edrych trwy ffenestri; A chau y pyrth yn yr heolydd, pan fo isel sŵn y malu, a’i gyfodi wrth lais yr aderyn, a gostwng i lawr holl ferched cerdd: Ie, yr amser yr ofnant yr hyn sydd uchel, ac yr arswydant yn y ffordd, ac y blodeua y pren almon, ac y bydd y ceiliog rhedyn yn faich, ac y palla chwant: pan elo dyn i dŷ ei hir gartref, a’r galarwyr yn myned o bob tu yn yr heol