Pregethwr 12:1-8
Pregethwr 12:1-8 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Cofia dy Grëwr tra rwyt yn ifanc, cyn i’r dyddiau anodd gyrraedd a’r blynyddoedd ddod pan fyddi’n dweud, “Dw i’n cael dim pleser ynddyn nhw.” Cyn i’r haul a golau’r lleuad a’r sêr droi’n dywyll, a’r cymylau’n dod yn ôl eto ar ôl y glaw: pan mae gwylwyr y tŷ yn crynu, a dynion cryf yn crymu; y rhai sy’n malu’r grawn yn y felin yn mynd yn brin, a’r rhai sy’n edrych drwy’r ffenestri yn colli eu golwg; pan mae’r drysau i’r stryd wedi cau, a sŵn y felin yn malu wedi tawelu; pan mae rhywun yn cael ei ddeffro’n gynnar gan gân aderyn er fod holl seiniau byd natur yn distewi; pan mae gan rywun ofn uchder ac ofn mynd allan ar y stryd; pan mae blodau’r pren almon yn troi’n wyn, y ceiliog rhedyn yn llusgo symud, a chwant rhywiol wedi hen fynd; pan mae pobl yn mynd i’w cartref tragwyddol, a’r galarwyr yn dod allan ar y stryd. Cyn i’r llinyn arian dorri ac i’r fowlen aur falu, a’r llestr wrth y ffynnon yn deilchion, a’r olwyn i’w godi wedi torri wrth y pydew. Pan mae’r corff yn mynd yn ôl i’r pridd fel yr oedd, ac anadl bywyd yn mynd yn ôl at Dduw, yr un a’i rhoddodd. Mae’n ddiystyr! – meddai’r Athro – Dydy’r cwbl yn gwneud dim sens!
Pregethwr 12:1-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Cofia dy Greawdwr yn nyddiau dy ieuenctid, cyn i'r dyddiau blin ddod, ac i'r blynyddoedd nesáu pan fyddi'n dweud, “Ni chaf bleser ynddynt.” Cofia amdano cyn tywyllu'r haul a'r goleuni, y lloer a'r sêr, a chyn i'r cymylau ddychwelyd ar ôl y glaw. Dyma'r dydd pan fydd ceidwaid y tŷ yn crynu, a dynion cryf yn gwargrymu; pan fydd y merched sy'n malu yn peidio â gweithio am eu bod yn ychydig, a phan fydd golwg y rhai sy'n edrych trwy'r ffenestri wedi pylu; pan fydd y drysau i'r stryd wedi cau, a sŵn y felin yn distewi; pan fydd rhywun yn cael ei ddychryn gan gân aderyn, am fod yr holl adar a ganai wedi distewi; pan fydd pobl yn ofni llecyn uchel a pheryglon ar y ffordd; pan fydd y pren almon yn gwynnu, a cheiliog rhedyn yn ymlusgo'n feichus, a'i chwant heb ei gyffroi; pan fydd rhywun ar fynd i'w gartref bythol, a'r galarwyr yn crynhoi yn y stryd. Cofia amdano cyn torri'r llinyn arian a darnio'r llestr aur, cyn malurio'r piser wrth y ffynnon a thorri'r olwyn wrth y pydew, cyn i'r llwch fynd yn ôl i'r ddaear lle bu ar y cychwyn, a chyn i'r ysbryd ddychwelyd at y Duw a'i rhoes. “Gwagedd llwyr,” meddai'r Pregethwr, “gwagedd yw'r cyfan.”
Pregethwr 12:1-8 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Cofia yn awr dy Greawdwr yn nyddiau dy ieuenctid, cyn dyfod y dyddiau blin, a nesáu o’r blynyddoedd yn y rhai y dywedi, Nid oes i mi ddim diddanwch ynddynt: Cyn tywyllu yr haul, a’r goleuni, a’r lleuad, a’r sêr, a dychwelyd y cymylau ar ôl y glaw: Yr amser y cryna ceidwaid y tŷ, ac y cryma y gwŷr cryfion, ac y metha y rhai sydd yn malu, am eu bod yn ychydig, ac y tywylla y rhai sydd yn edrych trwy ffenestri; A chau y pyrth yn yr heolydd, pan fo isel sŵn y malu, a’i gyfodi wrth lais yr aderyn, a gostwng i lawr holl ferched cerdd: Ie, yr amser yr ofnant yr hyn sydd uchel, ac yr arswydant yn y ffordd, ac y blodeua y pren almon, ac y bydd y ceiliog rhedyn yn faich, ac y palla chwant: pan elo dyn i dŷ ei hir gartref, a’r galarwyr yn myned o bob tu yn yr heol: Cyn torri y llinyn arian, a chyn torri y cawg aur, a chyn torri y piser gerllaw y ffynnon, neu dorri yr olwyn wrth y pydew. Yna y dychwel y pridd i’r ddaear fel y bu, ac y dychwel yr ysbryd at DDUW, yr hwn a’i rhoes ef. Gwagedd o wagedd, medd y Pregethwr; gwagedd yw y cwbl.