Pregethwr 1:13-18
Pregethwr 1:13-18 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma fi’n mynd ati o ddifrif i astudio ac edrych yn fanwl ar bopeth sy’n digwydd yn y byd. Mae’n waith caled, wedi’i roi gan Dduw i’r ddynoliaeth. Edrychais ar bopeth oedd yn cael ei wneud ar y ddaear, a dod i’r casgliad fod dim atebion slic – mae fel ceisio rheoli’r gwynt. Does dim modd sythu rhywbeth sydd wedi’i blygu, na chyfrif rhywbeth sydd ddim yna! Meddyliais, “Dw i’n fwy llwyddiannus ac yn ddoethach na neb sydd wedi teyrnasu yn Jerwsalem o mlaen i. Mae gen i ddoethineb a gwybodaeth.” Dyma fi’n mynd ati o ddifrif i geisio deall gwerth doethineb, a deall pam mae pobl yn gwneud pethau mor hurt a ffôl. Ond dw i wedi dod i’r casgliad ei bod yn dasg amhosib, fel ceisio rheoli’r gwynt. Po fwya’r doethineb, mwya’r dolur; mae gwybod mwy yn arwain i fwy o boen calon.
Pregethwr 1:13-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Rhoddais fy mryd ar astudio a chwilio, trwy ddoethineb, y cyfan sy'n digwydd dan y nef. Gorchwyl diflas yw'r un a roddodd Duw i bobl ymboeni yn ei gylch. Gwelais yr holl bethau a ddigwyddodd dan yr haul, ac yn wir nid yw'r cyfan ond gwagedd ac ymlid gwynt. Ni ellir unioni yr hyn sydd gam, na chyfrif yr hyn sydd ar goll. Dywedais wrthyf fy hun, “Llwyddais i ennill mwy o ddoethineb nag unrhyw frenin o'm blaen yn Jerwsalem; cefais brofi llawer o ddoethineb a gwybodaeth.” Rhoddais fy mryd ar ddeall doethineb a gwybodaeth, ynfydrwydd a ffolineb, a chanfûm nad oedd hyn ond ymlid gwynt. Oherwydd y mae cynyddu doethineb yn cynyddu gofid, ac ychwanegu gwybodaeth yn ychwanegu poen.
Pregethwr 1:13-18 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac a roddais fy mryd ar geisio a chwilio trwy ddoethineb, am bob peth a wnaed dan y nefoedd: y llafur blin yma a roddes DUW ar feibion dynion i ymguro ynddo. Mi a welais yr holl weithredoedd a wnaed dan haul; ac wele, gwagedd a gorthrymder ysbryd yw y cwbl. Ni ellir unioni yr hyn sydd gam, na chyfrif yr hyn sydd ddiffygiol. Mi a ymddiddenais â’m calon fy hun, gan ddywedyd, Wele, mi a euthum yn fawr, ac a gesglais ddoethineb tu hwnt i bawb a fu o’m blaen i yn Jerwsalem; a’m calon a ddeallodd lawer o ddoethineb a gwybodaeth. Mi a roddais fy nghalon hefyd i wybod doethineb, ac i wybod ynfydrwydd a ffolineb: mi a wybûm fod hyn hefyd yn orthrymder ysbryd. Canys mewn llawer o ddoethineb y mae llawer o ddig: a’r neb a chwanego wybodaeth, a chwanega ofid.