Deuteronomium 9:5
Deuteronomium 9:5 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Does gan y peth ddim byd i’w wneud â’ch daioni chi a’ch moesoldeb chi. Na, y ffaith fod y bobl sy’n byw yno mor ddrwg, sy’n cymell yr ARGLWYDD eich Duw i’w gyrru nhw allan o’ch blaenau chi, a hefyd achos ei fod am gadw’r addewid wnaeth e i’ch hynafiaid chi, i Abraham, Isaac a Jacob.
Deuteronomium 9:5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Nid oherwydd dy gyfiawnder a'th uniondeb yr wyt yn mynd i feddiannu eu gwlad, ond oherwydd drygioni'r cenhedloedd hyn y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn eu gyrru allan o'th flaen, ac er mwyn cadarnhau'r gair a dyngodd i'th dadau, Abraham, Isaac a Jacob.
Deuteronomium 9:5 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Nid am dy gyfiawnder di, nac am uniondeb dy galon, yr wyt ti yn myned i feddiannu eu tir hwynt: ond am annuwioldeb y cenhedloedd hyn y bwrw yr ARGLWYDD dy DDUW hwynt allan o’th flaen di, ac er cyflawni’r gair a dyngodd yr ARGLWYDD wrth dy dadau, wrth Abraham, wrth Isaac, ac wrth Jacob.