Deuteronomium 8:2-6
Deuteronomium 8:2-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Cofiwch yr holl ffordd yr arweiniodd yr ARGLWYDD eich Duw chwi yn ystod y deugain mlynedd hyn yn yr anialwch, gan eich darostwng a'ch profi er mwyn gwybod a oeddech yn bwriadu cadw ei orchmynion ai peidio. Darostyngodd chwi a dwyn newyn arnoch; yna fe'ch porthodd â manna, nad oeddech chwi na'ch hynafiaid yn gwybod beth oedd, er mwyn eich dysgu nad ar fara yn unig y bydd rhywun fyw, ond ar bopeth sy'n dod o enau'r ARGLWYDD. Ni threuliodd y dillad oedd amdanoch, ac ni chwyddodd eich traed yn ystod y deugain mlynedd hyn. Ystyriwch fod yr ARGLWYDD eich Duw yn eich disgyblu fel y mae tad yn disgyblu ei fab. Cadwch orchmynion yr ARGLWYDD eich Duw trwy rodio yn ei ffyrdd a'i barchu
Deuteronomium 8:2-6 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Peidiwch anghofio’r blynyddoedd dych chi wedi’u treulio yn yr anialwch. Roedd yr ARGLWYDD yn eich dysgu chi a’ch profi chi, i weld a oeddech chi wir yn mynd i wneud beth roedd e’n ddweud. Profodd chi drwy wneud i chi fynd heb fwyd, ac wedyn eich bwydo chi gyda’r manna (oedd yn brofiad dieithr iawn). Roedd e eisiau i chi ddeall mai nid bwyd ydy’r unig beth mae pobl angen i fyw. Maen nhw angen gwrando ar bopeth mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud. Am bedwar deg o flynyddoedd, wnaeth eich dillad chi ddim treulio, a wnaeth eich traed chi ddim chwyddo. “Dw i eisiau i chi ddeall fod yr ARGLWYDD eich Duw yn eich disgyblu chi fel mae rhieni’n disgyblu eu plentyn. Felly gwnewch beth mae e’n ddweud, byw fel mae e eisiau i chi fyw, a’i barchu.
Deuteronomium 8:2-6 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A chofia yr holl ffordd yr arweiniodd yr ARGLWYDD dy DDUW di ynddi y deugain mlynedd hyn, trwy’r anialwch, er mwyn dy gystuddio di, gan dy brofi, i wybod yr hyn oedd yn dy galon, a gedwit ti ei orchmynion ef, ai nas cedwit. Ac efe a’th ddarostyngodd, ac a oddefodd i ti newynu, ac a’th fwydodd â manna, yr hwn nid adwaenit, ac nid adwaenai dy dadau; fel y gwnâi efe i ti wybod nad trwy fara yn unig y bydd byw dyn, ond trwy bob gair a’r sydd yn dyfod allan o enau yr ARGLWYDD y bydd byw dyn. Dy ddillad ni heneiddiodd amdanat, a’th droed ni chwyddodd, y deugain mlynedd hyn. Cydnebydd dithau yn dy galon, fod yr ARGLWYDD dy DDUW yn dy ddysgu di, fel y dysg gŵr ei fab ei hun. A chadw orchmynion yr ARGLWYDD dy DDUW, i rodio yn ei ffyrdd, ac i’w ofni ef.