Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Deuteronomium 8:1-20

Deuteronomium 8:1-20 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

“Rhaid i chi gadw’r gorchmynion yma dw i’n eu rhoi i chi heddiw. Os gwnewch chi hynny, cewch fyw, bydd eich niferoedd chi’n tyfu, a chewch fynd i mewn i’r wlad wnaeth yr ARGLWYDD addo ei rhoi i’ch hynafiaid chi. “Peidiwch anghofio’r blynyddoedd dych chi wedi’u treulio yn yr anialwch. Roedd yr ARGLWYDD yn eich dysgu chi a’ch profi chi, i weld a oeddech chi wir yn mynd i wneud beth roedd e’n ddweud. Profodd chi drwy wneud i chi fynd heb fwyd, ac wedyn eich bwydo chi gyda’r manna (oedd yn brofiad dieithr iawn). Roedd e eisiau i chi ddeall mai nid bwyd ydy’r unig beth mae pobl angen i fyw. Maen nhw angen gwrando ar bopeth mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud. Am bedwar deg o flynyddoedd, wnaeth eich dillad chi ddim treulio, a wnaeth eich traed chi ddim chwyddo. “Dw i eisiau i chi ddeall fod yr ARGLWYDD eich Duw yn eich disgyblu chi fel mae rhieni’n disgyblu eu plentyn. Felly gwnewch beth mae e’n ddweud, byw fel mae e eisiau i chi fyw, a’i barchu. Mae’r ARGLWYDD eich Duw yn mynd â chi i wlad dda, sy’n llawn nentydd, ffynhonnau a ffrydiau o ddŵr yn llifo rhwng y bryniau. Gwlad lle mae digon o ŷd a haidd, gwinwydd, coed ffigys, pomgranadau, ac olewydd, a mêl hefyd. Felly fyddwch chi byth yn brin o fwyd yno. Ac mae digon o fwynau i’w cloddio o’r tir – haearn a chopr. Bydd gynnoch chi fwy na digon i’w fwyta, a byddwch yn moli’r ARGLWYDD eich Duw am roi gwlad mor dda i chi. “Gwnewch yn siŵr na fyddwch chi’n anghofio’r ARGLWYDD, nac yn peidio cadw’r gorchmynion, y canllawiau a’r rheolau dw i’n eu rhoi i chi heddiw. Pan fydd gynnoch chi fwy na digon i’w fwyta, tai braf i fyw ynddyn nhw, mwy o wartheg, defaid a geifr, digon o arian ac aur – yn wir, digon o bopeth – gwyliwch rhag i chi droi’n rhy hunanfodlon, ac anghofio’r ARGLWYDD eich Duw, wnaeth eich achub chi o wlad yr Aifft, lle roeddech chi’n gaethweision. Daeth yr ARGLWYDD â chi drwy’r anialwch mawr peryglus yna, oedd yn llawn nadroedd gwenwynig a sgorpionau. Roedd yn dir sych, lle doedd dim dŵr, ond dyma’r ARGLWYDD yn hollti craig, a gwneud i ddŵr bistyllio allan i chi ei yfed. Rhoddodd fanna i chi ei fwyta (profiad dieithr i’ch hynafiaid chi) er mwyn eich dysgu chi a’ch profi chi, a gwneud lles i chi yn y diwedd. Gwyliwch rhag i chi ddechrau meddwl, ‘Fi fy hun sydd wedi ennill y cyfoeth yma i gyd.’ Cofiwch mai’r ARGLWYDD eich Duw ydy’r un sy’n rhoi’r gallu yma i chi. Os cofiwch chi hynny, bydd e’n cadarnhau’r ymrwymiad wnaeth e ar lw i’ch hynafiaid chi. Mae wedi gwneud hynny hyd heddiw. “Ond rhaid i mi eich rhybuddio chi – os gwnewch chi anghofio’r ARGLWYDD, a mynd ar ôl duwiau eraill i’w haddoli nhw, bydd e’n eich dinistrio chi! Bydd yr un peth yn digwydd i chi ag sy’n mynd i ddigwydd i’r gwledydd dych chi ar fin ymladd yn eu herbyn nhw.

Deuteronomium 8:1-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Gofalwch gadw'r holl orchmynion yr wyf yn eu rhoi ichwi heddiw, er mwyn ichwi fyw a chynyddu a mynd i feddiannu'r wlad y tyngodd yr ARGLWYDD y byddai'n ei rhoi i'ch hynafiaid. Cofiwch yr holl ffordd yr arweiniodd yr ARGLWYDD eich Duw chwi yn ystod y deugain mlynedd hyn yn yr anialwch, gan eich darostwng a'ch profi er mwyn gwybod a oeddech yn bwriadu cadw ei orchmynion ai peidio. Darostyngodd chwi a dwyn newyn arnoch; yna fe'ch porthodd â manna, nad oeddech chwi na'ch hynafiaid yn gwybod beth oedd, er mwyn eich dysgu nad ar fara yn unig y bydd rhywun fyw, ond ar bopeth sy'n dod o enau'r ARGLWYDD. Ni threuliodd y dillad oedd amdanoch, ac ni chwyddodd eich traed yn ystod y deugain mlynedd hyn. Ystyriwch fod yr ARGLWYDD eich Duw yn eich disgyblu fel y mae tad yn disgyblu ei fab. Cadwch orchmynion yr ARGLWYDD eich Duw trwy rodio yn ei ffyrdd a'i barchu; oherwydd y mae'r ARGLWYDD eich Duw yn dod â chwi i wlad dda, gwlad ac ynddi ffrydiau dŵr, ffynhonnau, a chronfeydd yn tarddu yn y dyffrynnoedd ac ar y mynyddoedd; gwlad lle mae gwenith a haidd, gwinwydd, ffigys a phomgranadau, olewydd a mêl; gwlad lle cewch fwyta heb brinder, a lle ni bydd arnoch angen am ddim; gwlad y mae ei cherrig yn haearn a lle y byddwch yn cloddio copr o'i mynyddoedd. Wedi ichwi fwyta a chael digon, byddwch yn bendithio'r ARGLWYDD eich Duw am y wlad dda y mae'n ei rhoi ichwi. Gofalwch na fyddwch yn anghofio'r ARGLWYDD eich Duw nac yn gwrthod cadw ei orchmynion, ei gyfreithiau a'i ddeddfau, yr wyf yn eu gorchymyn ichwi heddiw. Pan fyddwch wedi bwyta a chael digon, ac adeiladu tai braf i fyw ynddynt, a phan fydd eich gwartheg a'ch defaid yn cynyddu, a digon o arian ac aur gennych, a'ch holl eiddo yn cynyddu, yna peidiwch ag ymffrostio ac anghofio'r ARGLWYDD eich Duw, a ddaeth â chwi allan o wlad yr Aifft, o dŷ caethiwed. Ef oedd yn eich arwain trwy'r anialwch mawr a dychrynllyd, lle'r oedd seirff gwenwynig a sgorpionau, a thrwy dir sych heb ddim dŵr, lle y gwnaeth i ddŵr darddu allan i chwi o'r graig galed. Porthodd chwi hefyd yn yr anialwch â manna, nad oedd eich hynafiaid yn gwybod beth oedd, a hynny er mwyn eich darostwng a'ch profi, fel y byddai'n dda arnoch yn y diwedd. Os dywedwch, “Ein nerth ein hunain a chryfder ein dwylo a ddaeth â'r cyfoeth hwn inni”, yna cofiwch yr ARGLWYDD eich Duw, oherwydd ef sy'n rhoi nerth ichwi i ennill cyfoeth, er mwyn cadarnhau'r cyfamod a dyngodd i'ch hynafiaid, fel y mae heddiw. Os byddwch yn anghofio'r ARGLWYDD eich Duw ac yn mynd ar ôl duwiau eraill ac yn eu gwasanaethu ac yn ymgrymu iddynt, yna yr wyf yn eich rhybuddio heddiw y byddwch yn cael eich dinistrio'n llwyr. Fel y cenhedloedd a ddinistriodd yr ARGLWYDD o'ch blaenau y dinistrir chwithau, am ichwi wrthod gwrando ar lais yr ARGLWYDD eich Duw.

Deuteronomium 8:1-20 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Edrychwch am wneuthur pob gorchymyn yr wyf fi yn ei orchymyn i ti heddiw; fel y byddoch fyw, ac y cynyddoch, ac yr eloch i mewn, ac y meddiannoch y wlad a addawodd yr ARGLWYDD wrth eich tadau trwy lw. A chofia yr holl ffordd yr arweiniodd yr ARGLWYDD dy DDUW di ynddi y deugain mlynedd hyn, trwy’r anialwch, er mwyn dy gystuddio di, gan dy brofi, i wybod yr hyn oedd yn dy galon, a gedwit ti ei orchmynion ef, ai nas cedwit. Ac efe a’th ddarostyngodd, ac a oddefodd i ti newynu, ac a’th fwydodd â manna, yr hwn nid adwaenit, ac nid adwaenai dy dadau; fel y gwnâi efe i ti wybod nad trwy fara yn unig y bydd byw dyn, ond trwy bob gair a’r sydd yn dyfod allan o enau yr ARGLWYDD y bydd byw dyn. Dy ddillad ni heneiddiodd amdanat, a’th droed ni chwyddodd, y deugain mlynedd hyn. Cydnebydd dithau yn dy galon, fod yr ARGLWYDD dy DDUW yn dy ddysgu di, fel y dysg gŵr ei fab ei hun. A chadw orchmynion yr ARGLWYDD dy DDUW, i rodio yn ei ffyrdd, ac i’w ofni ef. Oblegid y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn dy ddwyn i mewn i wlad dda, i wlad afonydd dyfroedd, ffynhonnau, a dyfnderau yn tarddu allan yn y dyffryn, ac yn y mynydd; Gwlad gwenith, a haidd, a gwinwydd, a ffigyswydd, a phomgranadwydd; gwlad olew olewydden, a mêl; Gwlad yr hon y bwytei fara ynddi heb brinder, ac ni bydd eisiau dim arnat ynddi; gwlad yr hon y mae ei cherrig yn haearn, ac o’i mynyddoedd y cloddi bres. Pan fwyteych, a’th ddigoni; yna y bendithi yr ARGLWYDD dy DDUW am y wlad dda a roddes efe i ti. Cadw arnat rhag anghofio yr ARGLWYDD dy DDUW, heb gadw ei orchmynion a’i farnedigaethau, a’i ddeddfau ef, y rhai yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i ti heddiw: Rhag wedi i ti fwyta, a’th ddigoni, ac adeiladu tai teg, a thrigo ynddynt; A lluosogi o’th wartheg a’th ddefaid di, ac amlhau o arian ac aur gennyt, ac amlhau o’r hyn oll y sydd gennyt: Yna ymddyrchafu o’th galon, ac anghofio ohonot yr ARGLWYDD dy DDUW, (yr hwn a’th ddug allan o wlad yr Aifft, o dŷ y caethiwed; Yr hwn a’th dywysodd di trwy yr anialwch mawr ac ofnadwy, lle yr ydoedd seirff tanllyd, ac ysgorpionau, a syched lle nid oedd dwfr; yr hwn a ddygodd i ti ddwfr allan o’r graig gallestr; Yr hwn a’th fwydodd di yn yr anialwch â manna, yr hwn nid adwaenai dy dadau, er dy ddarostwng, ac er dy brofi di, i wneuthur daioni i ti yn dy ddiwedd,) A dywedyd ohonot yn dy galon, Fy nerth fy hun, a chryfder fy llaw a barodd i mi y cyfoeth hwn. Ond cofia yr ARGLWYDD dy DDUW: oblegid efe yw yr hwn sydd yn rhoddi nerth i ti i beri cyfoeth, fel y cadarnhao efe ei gyfamod, yr hwn a dyngodd efe wrth dy dadau, fel y mae y dydd hwn. Ac os gan anghofio yr anghofi yr ARGLWYDD dy DDUW, a dilyn duwiau dieithr, a’u gwasanaethu hwynt, ac ymgrymu iddynt; yr ydwyf fi yn tystiolaethu yn eich erbyn chwi heddiw, gan ddifetha y’ch difethir. Fel y cenhedloedd y rhai y mae yr ARGLWYDD ar eu difetha o’ch blaen chwi, felly y difethir chwithau; am na wrandawsoch ar lais yr ARGLWYDD eich DUW.