Deuteronomium 7:6-9
Deuteronomium 7:6-9 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dych chi’n bobl sydd wedi’ch cysegru i’r ARGLWYDD eich Duw. O bob cenedl ar wyneb y ddaear, mae wedi’ch dewis chi yn drysor sbesial iddo’i hun. Wnaeth e ddim eich dewis chi am fod mwy ohonoch chi na’r bobloedd eraill i gyd – roedd llai ohonoch chi os rhywbeth! Na, dewisodd yr ARGLWYDD chi am ei fod wedi’ch caru chi, ac am gadw’r addewid wnaeth e i’ch hynafiaid chi. Dyna pam wnaeth e ddefnyddio’i rym i’ch gollwng chi’n rhydd o fod yn gaethweision i’r Pharo, brenin yr Aifft. Felly peidiwch anghofio mai’r ARGLWYDD eich Duw chi ydy’r unig dduw go iawn. Mae e’n Dduw ffyddlon, a bydd e bob amser yn cadw’r ymrwymiad mae wedi’i wneud i’r rhai sy’n ei garu ac yn gwneud beth mae e’n ddweud.
Deuteronomium 7:6-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr ydych chwi yn bobl sanctaidd i'r ARGLWYDD eich Duw. Y mae'r ARGLWYDD eich Duw wedi eich dewis o blith yr holl bobloedd sydd ar wyneb y ddaear, i fod yn bobl arbennig iddo ef. Nid am eich bod yn fwy niferus na'r holl bobloedd yr hoffodd yr ARGLWYDD chwi a'ch dewis; yn wir chwi oedd y lleiaf o'r holl bobloedd. Ond am fod yr ARGLWYDD yn eich caru ac yn cadw'r addewid a dyngodd i'ch hynafiaid, daeth â chwi allan â llaw gadarn a'ch gwaredu o dŷ caethiwed, o law Pharo brenin yr Aifft. Felly deallwch mai'r ARGLWYDD eich Duw sydd Dduw; y mae'n Dduw ffyddlon, yn cadw cyfamod a ffyddlondeb hyd fil o genedlaethau gyda'r rhai sy'n ei garu ac yn cadw ei orchmynion
Deuteronomium 7:6-9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys pobl sanctaidd ydwyt ti i’r ARGLWYDD dy DDUW: yr ARGLWYDD dy DDUW a’th ddewisodd di i fod yn bobl unig iddo ei hun, o’r holl bobloedd sydd ar wyneb y ddaear. Nid am eich bod yn lluosocach na’r holl bobloedd, yr hoffodd yr ARGLWYDD chwi, ac y’ch dewisodd; oherwydd yr oeddech chwi yn anamlaf o’r holl bobloedd: Ond oherwydd caru o’r ARGLWYDD chwi, ac er mwyn cadw ohono ef y llw a dyngodd efe wrth eich tadau, y dug yr ARGLWYDD chwi allan â llaw gadarn, ac a’ch gwaredodd o dŷ y caethiwed, o law Pharo brenin yr Aifft. Gwybydd gan hynny mai yr ARGLWYDD dy DDUW sydd DDUW, sef y DUW ffyddlon, yn cadw cyfamod a thrugaredd â’r rhai a’i carant ef, ac a gadwant ei orchmynion, hyd fil o genedlaethau