Deuteronomium 7:6-10
Deuteronomium 7:6-10 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dych chi’n bobl sydd wedi’ch cysegru i’r ARGLWYDD eich Duw. O bob cenedl ar wyneb y ddaear, mae wedi’ch dewis chi yn drysor sbesial iddo’i hun. Wnaeth e ddim eich dewis chi am fod mwy ohonoch chi na’r bobloedd eraill i gyd – roedd llai ohonoch chi os rhywbeth! Na, dewisodd yr ARGLWYDD chi am ei fod wedi’ch caru chi, ac am gadw’r addewid wnaeth e i’ch hynafiaid chi. Dyna pam wnaeth e ddefnyddio’i rym i’ch gollwng chi’n rhydd o fod yn gaethweision i’r Pharo, brenin yr Aifft. Felly peidiwch anghofio mai’r ARGLWYDD eich Duw chi ydy’r unig dduw go iawn. Mae e’n Dduw ffyddlon, a bydd e bob amser yn cadw’r ymrwymiad mae wedi’i wneud i’r rhai sy’n ei garu ac yn gwneud beth mae e’n ddweud. Ond mae’n talu’n ôl i’r bobl hynny sy’n ei gasáu, drwy roi iddyn nhw beth maen nhw’n ei haeddu.
Deuteronomium 7:6-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr ydych chwi yn bobl sanctaidd i'r ARGLWYDD eich Duw. Y mae'r ARGLWYDD eich Duw wedi eich dewis o blith yr holl bobloedd sydd ar wyneb y ddaear, i fod yn bobl arbennig iddo ef. Nid am eich bod yn fwy niferus na'r holl bobloedd yr hoffodd yr ARGLWYDD chwi a'ch dewis; yn wir chwi oedd y lleiaf o'r holl bobloedd. Ond am fod yr ARGLWYDD yn eich caru ac yn cadw'r addewid a dyngodd i'ch hynafiaid, daeth â chwi allan â llaw gadarn a'ch gwaredu o dŷ caethiwed, o law Pharo brenin yr Aifft. Felly deallwch mai'r ARGLWYDD eich Duw sydd Dduw; y mae'n Dduw ffyddlon, yn cadw cyfamod a ffyddlondeb hyd fil o genedlaethau gyda'r rhai sy'n ei garu ac yn cadw ei orchmynion, ond y mae'n talu'n ôl i'r rhai sy'n ei gasáu trwy eu difa; yn wir nid yw'n oedi i dalu'n ôl i'r rhai sy'n ei gasáu.
Deuteronomium 7:6-10 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys pobl sanctaidd ydwyt ti i’r ARGLWYDD dy DDUW: yr ARGLWYDD dy DDUW a’th ddewisodd di i fod yn bobl unig iddo ei hun, o’r holl bobloedd sydd ar wyneb y ddaear. Nid am eich bod yn lluosocach na’r holl bobloedd, yr hoffodd yr ARGLWYDD chwi, ac y’ch dewisodd; oherwydd yr oeddech chwi yn anamlaf o’r holl bobloedd: Ond oherwydd caru o’r ARGLWYDD chwi, ac er mwyn cadw ohono ef y llw a dyngodd efe wrth eich tadau, y dug yr ARGLWYDD chwi allan â llaw gadarn, ac a’ch gwaredodd o dŷ y caethiwed, o law Pharo brenin yr Aifft. Gwybydd gan hynny mai yr ARGLWYDD dy DDUW sydd DDUW, sef y DUW ffyddlon, yn cadw cyfamod a thrugaredd â’r rhai a’i carant ef, ac a gadwant ei orchmynion, hyd fil o genedlaethau; Ac yn talu’r pwyth i’w gas, yn ei wyneb gan ei ddifetha ef: nid oeda efe i’w gas; yn ei wyneb y tâl efe iddo.