Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Deuteronomium 7:1-10

Deuteronomium 7:1-10 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

“Bydd yr ARGLWYDD yn eich helpu chi i gymryd y tir oddi ar saith grŵp o bobl sy’n gryfach na chi – yr Hethiaid, Girgasiaid, Amoriaid, Canaaneaid, Peresiaid, Hefiaid a’r Jebwsiaid. Bydd e’n eu gyrru nhw i gyd allan o’ch blaen chi. Bydd e’n rhoi’r gallu i chi i’w concro nhw, ac mae’n rhaid i chi eu dinistrio nhw’n llwyr. Peidiwch gwneud cytundeb heddwch â nhw, a pheidiwch dangos unrhyw drugaredd. Peidiwch gadael i’ch plant eu priodi nhw, rhag i’ch plant droi cefn ar yr ARGLWYDD, ac addoli duwiau eraill. Wedyn byddai’r ARGLWYDD yn gwylltio gyda chi, ac yn eich dinistrio chi’n llwyr! Na, rhaid i chi chwalu eu hallorau paganaidd nhw, malu’r colofnau cysegredig, torri polion y dduwies Ashera i lawr, a llosgi eu delwau nhw. Dych chi’n bobl sydd wedi’ch cysegru i’r ARGLWYDD eich Duw. O bob cenedl ar wyneb y ddaear, mae wedi’ch dewis chi yn drysor sbesial iddo’i hun. Wnaeth e ddim eich dewis chi am fod mwy ohonoch chi na’r bobloedd eraill i gyd – roedd llai ohonoch chi os rhywbeth! Na, dewisodd yr ARGLWYDD chi am ei fod wedi’ch caru chi, ac am gadw’r addewid wnaeth e i’ch hynafiaid chi. Dyna pam wnaeth e ddefnyddio’i rym i’ch gollwng chi’n rhydd o fod yn gaethweision i’r Pharo, brenin yr Aifft. Felly peidiwch anghofio mai’r ARGLWYDD eich Duw chi ydy’r unig dduw go iawn. Mae e’n Dduw ffyddlon, a bydd e bob amser yn cadw’r ymrwymiad mae wedi’i wneud i’r rhai sy’n ei garu ac yn gwneud beth mae e’n ddweud. Ond mae’n talu’n ôl i’r bobl hynny sy’n ei gasáu, drwy roi iddyn nhw beth maen nhw’n ei haeddu.

Deuteronomium 7:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn dod â thi i'r wlad yr wyt yn mynd iddi i'w meddiannu, ac yn gyrru allan o'th flaen lawer o genhedloedd, sef Hethiaid, Girgasiaid, Amoriaid, Canaaneaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebusiaid, saith o genhedloedd sy'n fwy niferus a chryfach na thi; a phan fydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn eu darostwng o'th flaen, a thithau'n ymosod arnynt, yr wyt i'w difa'n llwyr. Paid â gwneud cyfamod â hwy na dangos trugaredd tuag atynt. Paid â gwneud cytundeb priodas â hwy trwy roi dy ferched i'w meibion a chymryd eu merched yn wragedd i'th feibion, oherwydd fe wnânt i'th blant droi oddi wrthyf ac addoli duwiau eraill, a bydd yr ARGLWYDD yn ddig wrthyt ac yn dy ddifa ar unwaith. Ond fel hyn yr ydych i wneud iddynt: tynnu i lawr eu hallorau, dinistrio eu colofnau, a malurio eu pyst Asera a llosgi eu delwau yn y tân. Yr ydych chwi yn bobl sanctaidd i'r ARGLWYDD eich Duw. Y mae'r ARGLWYDD eich Duw wedi eich dewis o blith yr holl bobloedd sydd ar wyneb y ddaear, i fod yn bobl arbennig iddo ef. Nid am eich bod yn fwy niferus na'r holl bobloedd yr hoffodd yr ARGLWYDD chwi a'ch dewis; yn wir chwi oedd y lleiaf o'r holl bobloedd. Ond am fod yr ARGLWYDD yn eich caru ac yn cadw'r addewid a dyngodd i'ch hynafiaid, daeth â chwi allan â llaw gadarn a'ch gwaredu o dŷ caethiwed, o law Pharo brenin yr Aifft. Felly deallwch mai'r ARGLWYDD eich Duw sydd Dduw; y mae'n Dduw ffyddlon, yn cadw cyfamod a ffyddlondeb hyd fil o genedlaethau gyda'r rhai sy'n ei garu ac yn cadw ei orchmynion, ond y mae'n talu'n ôl i'r rhai sy'n ei gasáu trwy eu difa; yn wir nid yw'n oedi i dalu'n ôl i'r rhai sy'n ei gasáu.

Deuteronomium 7:1-10 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Pan y’th ddygo yr ARGLWYDD dy DDUW i mewn i’r wlad yr ydwyt ti yn myned iddi i’w meddiannu, a gyrru ohono ymaith genhedloedd lawer o’th flaen di, yr Hethiaid, a’r Girgasiaid, a’r Amoriaid, a’r Canaaneaid, a’r Pheresiaid, a’r Hefiaid, a’r Jebusiaid, saith o genhedloedd lluosocach a chryfach na thydi; A rhoddi o’r ARGLWYDD dy DDUW hwynt o’th flaen di, a tharo ohonot ti hwynt: gan ddifrodi difroda hwynt; na wna gyfamod â hwynt, ac na thrugarha wrthynt. Nac ymgyfathracha chwaith â hwynt: na ddod dy ferch i’w fab ef, ac na chymer ei ferch ef i’th fab dithau. Canys efe a dry dy fab di oddi ar fy ôl i, fel y gwasanaethont dduwiau dieithr: felly yr ennyn llid yr ARGLWYDD i’ch erbyn chwi, ac a’th ddifetha di yn ebrwydd Ond fel hyn y gwnewch iddynt: Dinistriwch eu hallorau, a thorrwch eu colofnau hwynt; cwympwch hefyd eu llwynau, a llosgwch eu delwau cerfiedig hwy yn y tân. Canys pobl sanctaidd ydwyt ti i’r ARGLWYDD dy DDUW: yr ARGLWYDD dy DDUW a’th ddewisodd di i fod yn bobl unig iddo ei hun, o’r holl bobloedd sydd ar wyneb y ddaear. Nid am eich bod yn lluosocach na’r holl bobloedd, yr hoffodd yr ARGLWYDD chwi, ac y’ch dewisodd; oherwydd yr oeddech chwi yn anamlaf o’r holl bobloedd: Ond oherwydd caru o’r ARGLWYDD chwi, ac er mwyn cadw ohono ef y llw a dyngodd efe wrth eich tadau, y dug yr ARGLWYDD chwi allan â llaw gadarn, ac a’ch gwaredodd o dŷ y caethiwed, o law Pharo brenin yr Aifft. Gwybydd gan hynny mai yr ARGLWYDD dy DDUW sydd DDUW, sef y DUW ffyddlon, yn cadw cyfamod a thrugaredd â’r rhai a’i carant ef, ac a gadwant ei orchmynion, hyd fil o genedlaethau; Ac yn talu’r pwyth i’w gas, yn ei wyneb gan ei ddifetha ef: nid oeda efe i’w gas; yn ei wyneb y tâl efe iddo.