Deuteronomium 6:5-7
Deuteronomium 6:5-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Câr di yr ARGLWYDD dy Dduw â'th holl galon ac â'th holl enaid ac â'th holl nerth. Y mae'r geiriau hyn yr wyf yn eu gorchymyn iti heddiw i fod yn dy galon. Yr wyt i'w hadrodd i'th blant, ac i sôn amdanynt pan fyddi'n eistedd yn dy dŷ ac yn cerdded ar y ffordd, a phan fyddi'n mynd i gysgu ac yn codi.
Deuteronomium 6:5-7 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Rwyt i garu’r ARGLWYDD dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid ac â’th holl nerth. “Paid anghofio’r pethau dw i’n eu gorchymyn i ti heddiw. Rwyt i’w dysgu’n gyson i dy blant, a’u trafod nhw pan fyddi adre yn y tŷ ac i ffwrdd oddi cartref, pan fyddi’n mynd i gysgu ac yn codi yn y bore.
Deuteronomium 6:5-7 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Câr di gan hynny yr ARGLWYDD dy DDUW â’th holl galon, ac â’th holl enaid, ac â’th holl nerth. A bydded y geiriau hyn, yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddiw, yn dy galon. A hysbysa hwynt i’th blant; a chrybwyll amdanynt pan eisteddych yn dy dŷ, a phan gerddych ar y ffordd, a phan orweddych i lawr, a phan gyfodych i fyny.