Deuteronomium 5:31-33
Deuteronomium 5:31-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Saf di yma yn fy ymyl, ac fe lefaraf wrthyt yr holl orchmynion a'r deddfau a'r cyfreithiau yr wyt ti i'w dysgu iddynt, ac y maent hwy i'w cadw yn y wlad yr wyf yn ei rhoi iddynt i'w meddiannu.” Gofalwch wneud fel y mae'r ARGLWYDD eich Duw yn gorchymyn ichwi; peidiwch â throi i'r dde na'r chwith. Yr ydych i rodio yn ôl y cyfan a orchmynnodd yr ARGLWYDD eich Duw ichwi, er mwyn i chwi gael byw a llwyddo, ac amlhau eich dyddiau yn y wlad y byddwch yn ei meddiannu.
Deuteronomium 5:31-33 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond aros di yma, i mi gael dweud wrthot ti beth ydy’r gorchmynion, y rheolau a’r canllawiau dw i am i ti eu dysgu iddyn nhw. Wedyn, byddan nhw’n gallu byw felly yn y wlad dw i’n ei rhoi iddyn nhw.’ “Felly, gwnewch yn union fel mae’r ARGLWYDD eich Duw yn ddweud. Peidiwch crwydro oddi wrth hynny o gwbl. Dych chi i fyw fel mae’r ARGLWYDD eich Duw wedi gorchymyn i chi, er mwyn i bethau fynd yn dda i chi, ac i chi gael byw yn hir yn y wlad dych chi’n mynd i’w chymryd.
Deuteronomium 5:31-33 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ond saf di yma gyda myfi; a mi a ddywedaf wrthyt yr holl orchmynion, a’r deddfau, a’r barnedigaethau a ddysgi di iddynt, ac a wnânt hwythau yn y wlad yr wyf fi ar ei rhoddi iddynt i’w pherchenogi Edrychwch gan hynny am wneuthur fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD eich DUW i chwi: na chiliwch i’r tu deau nac i’r tu aswy. Cerddwch yn yr holl ffyrdd a orchmynnodd yr ARGLWYDD eich DUW i chwi; fel y byddoch fyw, ac y byddo yn dda i chwi, ac yr estynnoch ddyddiau yn y wlad yr hon a feddiennwch.