Deuteronomium 5:13-14
Deuteronomium 5:13-14 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Gelli weithio ar y chwe diwrnod arall, a gwneud popeth sydd angen ei wneud. Mae’r seithfed diwrnod i’w gadw yn Saboth i’r ARGLWYDD. Does neb i fod i weithio ar y diwrnod yma – ti na dy feibion a dy ferched, dy weision na dy forynion chwaith; dim hyd yn oed dy ych a dy asyn, nac unrhyw anifail arall; nac unrhyw fewnfudwr sy’n aros gyda ti. Mae’r gwas a’r forwyn i gael gorffwys fel ti dy hun.
Deuteronomium 5:13-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Chwe diwrnod yr wyt i weithio a gwneud dy holl waith, ond y mae'r seithfed dydd yn Saboth yr ARGLWYDD dy Dduw; na wna ddim gwaith y dydd hwnnw, ti na'th fab, na'th ferch, na'th was, na'th forwyn, na'th ych, na'th asyn, nac un o'th anifeiliaid, na'r estron sydd o fewn dy byrth, er mwyn i'th was a'th forwyn gael gorffwys fel ti dy hun.
Deuteronomium 5:13-14 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Chwe diwrnod y gweithi, ac y gwnei dy holl waith: Ond y seithfed dydd yw Saboth yr ARGLWYDD dy DDUW: na wna ynddo ddim gwaith, tydi, na’th fab, na’th ferch, na’th was, na’th forwyn, na’th ych, na’th asyn, nac yr un o’th anifeiliaid, na’th ddieithr-ddyn yr hwn fyddo o fewn dy byrth; fel y gorffwyso dy was a’th forwyn, fel ti dy hun.