Deuteronomium 4:9-14
Deuteronomium 4:9-14 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ond gochel arnat, a chadw dy enaid yn ddyfal, rhag anghofio ohonot y pethau a welodd dy lygaid, a chilio ohonynt allan o’th galon di holl ddyddiau dy einioes; ond hysbysa hwynt i’th feibion, ac i feibion dy feibion: Sef y dydd y sefaist gerbron yr ARGLWYDD dy DDUW yn Horeb, pan ddywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Cynnull i mi y bobl, fel y gwnelwyf iddynt glywed fy ngeiriau, y rhai a ddysgant i’m hofni i, yr holl ddyddiau y byddont fyw ar y ddaear, ac y dysgont hwynt i’w meibion. A nesasoch, a safasoch dan y mynydd; a’r mynydd oedd yn llosgi gan dân hyd entrych awyr, yn dywyllwch, a chwmwl, a thywyllwch dudew. A’r ARGLWYDD a lefarodd wrthych o ganol y tân, a chwi a glywsoch lais y geiriau, ac nid oeddech yn gweled llun dim, ond llais. Ac efe a fynegodd i chwi ei gyfamod a orchmynnodd efe i chwi i’w wneuthur, sef y dengair; ac a’u hysgrifennodd hwynt ar ddwy lech faen. A’r ARGLWYDD a orchmynnodd i mi yr amser hwnnw ddysgu i chwi ddeddfau a barnedigaethau, i wneuthur ohonoch hwynt yn y wlad yr ydych chwi yn myned iddi i’w meddiannu.
Deuteronomium 4:9-14 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Ond dw i’n dweud eto, dw i eisiau i chi wrando’n ofalus. Peidiwch anghofio beth dych chi wedi’i weld. Peidiwch anghofio nhw tra byddwch chi byw. Dysgwch nhw i’ch plant a’ch wyrion a’ch wyresau. Pan oeddech chi’n sefyll o flaen yr ARGLWYDD eich Duw wrth droed Mynydd Sinai, dyma fe’n dweud wrtho i, ‘Casgla’r bobl at ei gilydd, i mi rannu gyda nhw beth dw i eisiau’i ddweud. Wedyn byddan nhw’n dangos parch ata i tra byddan nhw’n byw yn y wlad, ac yn dysgu eu plant i wneud yr un fath.’ “Dyma chi’n dod i sefyll wrth droed y mynydd oedd yn llosgi’n dân. Roedd fflamau’n codi i fyny i’r awyr, a chymylau o fwg tywyll, trwchus. Yna dyma’r ARGLWYDD yn siarad â chi o ganol y tân. Roeddech chi’n clywed y llais yn siarad, ond yn gweld neb na dim. A dyma fe’n dweud wrthoch chi beth oedd yr ymrwymiad roedd e am i chi ei wneud – y Deg Gorchymyn. A dyma fe’n eu hysgrifennu nhw ar ddwy lechen garreg. Dyna hefyd pryd wnaeth yr ARGLWYDD orchymyn i mi ddysgu rheolau a chanllawiau eraill i chi eu dilyn yn y wlad dych chi’n mynd drosodd i’w chymryd.
Deuteronomium 4:9-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Bydd ofalus, a gwylia'n ddyfal rhag iti anghofio'r pethau a welodd dy lygaid, a rhag iddynt gilio o'th feddwl holl ddyddiau dy fywyd; dysga hwy i'th blant ac i blant dy blant. Y dydd pan oeddit ti yn sefyll o flaen yr ARGLWYDD dy Dduw yn Horeb, fe ddywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Cynnull y bobl ataf, a chyhoeddaf iddynt fy ngeiriau, er mwyn iddynt ddysgu fy ofni holl ddyddiau eu bywyd ar y ddaear, a bydded iddynt ddysgu eu plant i wneud hyn.” Daethoch chwi yn agos, a sefyll wrth droed y mynydd, ac yr oedd y mynydd yn llosgi gan dân hyd entrych y nefoedd; ac yr oedd yno dywyllwch, cwmwl a chaddug. Llefarodd yr ARGLWYDD wrthych o ganol y tân; ond nid oeddech chwi'n gweld unrhyw ffurf, dim ond clywed llais. Mynegodd i chwi ei gyfamod, sef y deg gorchymyn yr oedd yn eu gorchymyn i chwi eu cadw, ac ysgrifennodd hwy ar ddwy lechen. Yr adeg honno gorchmynnodd yr ARGLWYDD i mi ddysgu ichwi'r deddfau a'r gorchmynion, er mwyn ichwi eu cadw yn y wlad yr oeddech yn mynd iddi i'w meddiannu.