Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Deuteronomium 4:32-40

Deuteronomium 4:32-40 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

“Edrychwch yn ôl dros hanes, o’r dechrau cyntaf pan wnaeth Duw greu pobl ar y ddaear yma. Holwch am unrhyw le drwy’r byd i gyd. Oes unrhyw beth fel yma wedi digwydd o’r blaen? Oes unrhyw un wedi clywed si am y fath beth? Oes unrhyw genedl arall wedi clywed llais Duw yn siarad â nhw o ganol y tân, fel gwnaethoch chi, ac wedi byw i adrodd yr hanes? Neu oes duw arall wedi mentro cymryd pobl iddo’i hun o ganol gwlad arall, gan gosbi, cyflawni gwyrthiau rhyfeddol, ymladd drostyn nhw gyda’i nerth rhyfeddol, a gwneud yr holl bethau dychrynllyd eraill welsoch chi’r ARGLWYDD eich Duw yn eu gwneud drosoch chi yn yr Aifft? Mae wedi dangos i chi mai Un Duw sydd, a does dim un arall yn bod. Gadawodd i chi glywed ei lais o’r nefoedd, i’ch dysgu chi. Ac ar y ddaear dangosodd i chi’r tân mawr, a siarad â chi o ganol hwnnw. Ac am ei fod wedi caru’ch hynafiaid chi, dewisodd fendithio’u disgynyddion. Defnyddiodd ei nerth ei hun i ddod â chi allan o’r Aifft, i chi gymryd tir pobloedd cryfach na chi oddi arnyn nhw. Daeth â chi yma heddiw i roi eu tir nhw i chi ei gadw. “Felly dw i eisiau i hyn i gyd gael ei argraffu ar eich meddwl chi – dw i eisiau i chi sylweddoli fod Duw yn Dduw yn y nefoedd uchod ac i lawr yma ar y ddaear. Does dim un arall yn bod! Rhaid i chi gadw’r gorchmynion a’r arweiniad dw i’n ei basio ymlaen i chi ganddo heddiw. Wedyn bydd pethau’n mynd yn dda i chi a’ch plant. A byddwch chi’n cael byw am amser hir iawn yn y tir mae’r ARGLWYDD eich Duw yn ei roi i chi i’w gadw.”

Deuteronomium 4:32-40 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Canys ymofyn yn awr am y dyddiau gynt, a fu o’th flaen di, o’r dydd y creodd DUW ddyn ar y ddaear, ac o’r naill gwr i’r nefoedd hyd y cwr arall i’r nefoedd, a fu megis y mawrbeth hwn, neu a glybuwyd ei gyffelyb ef: A glybu pobl lais DUW yn llefaru o ganol y tân, fel y clywaist ti, a byw? A brofodd un DUW ddyfod i gymryd iddo genedl o ganol cenedl, trwy brofedigaethau, trwy arwyddion, a thrwy ryfeddodau, a thrwy ryfel, a thrwy law gadarn, a thrwy fraich estynedig, a thrwy ofn mawr, fel yr hyn oll a wnaeth yr ARGLWYDD eich DUW eroch chwi yn yr Aifft yng ngŵydd dy lygaid? Gwnaethpwyd i ti weled hynny, i wybod mai yr ARGLWYDD sydd DDUW, nad oes neb arall ond efe. O’r nefoedd y parodd i ti glywed ei lais, i’th hyfforddi di; ac ar y ddaear y parodd i ti weled ei dân mawr, a thi a glywaist o ganol y tân ei eiriau ef. Ac o achos iddo garu dy dadau, am hynny y dewisodd efe eu had hwynt ar eu hôl; ac a’th ddug di o’i flaen, â’i fawr allu, allan o’r Aifft: I yrru cenhedloedd mwy a chryfach na thi ymaith o’th flaen di, i’th ddwyn di i mewn, i roddi i ti eu gwlad hwynt yn etifeddiaeth, fel heddiw. Gwybydd gan hynny heddiw, ac ystyria yn dy galon, mai yr ARGLWYDD sydd DDUW yn y nefoedd oddi arnodd, ac ar y ddaear oddi tanodd; ac nid neb arall. Cadw dithau ei ddeddfau ef, a’i orchmynion, y rhai yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddiw; fel y byddo yn dda i ti, ac i’th feibion ar dy ôl di, fel yr estynnech ddyddiau ar y ddaear, yr hon y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn ei rhoddi i ti byth.