Deuteronomium 32:16-18
Deuteronomium 32:16-18 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
ei wneud yn eiddigeddus o’r duwiau paganaidd, a’i bryfocio gyda’u heilunod ffiaidd. Aberthu i gythreuliaid, nid i Dduw – duwiau doedden nhw’n gwybod dim amdanyn nhw; y duwiau diweddaraf, duwiau doedd eich hynafiaid yn gwybod dim amdanyn nhw. Anwybyddu’r Graig wnaeth dy genhedlu, ac anghofio’r Duw roddodd enedigaeth i ti.
Deuteronomium 32:16-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gwnaethant ef yn eiddigeddus â duwiau dieithr, a'i ddigio ag arferion ffiaidd. Yr oeddent yn aberthu i ddemoniaid nad oeddent dduwiau, ac i dduwiau nad oeddent yn eu hadnabod, duwiau newydd yn dod oddi wrth eu cymdogion, nad oedd eu hynafiaid wedi eu parchu. Anghofiaist y Graig a'th genhedlodd, a gollwng dros gof y Duw a ddaeth â thi i'r byd.
Deuteronomium 32:16-18 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A dieithr dduwiau y gyrasant eiddigedd arno; â ffieidd-dra y digiasant ef. Aberthasant i gythreuliaid, nid i DDUW; i dduwiau nid adwaenent, i rai newydd diweddar, y rhai nid ofnodd eich tadau. Y Graig a’th genhedlodd a anghofiaist ti, a’r DUW a’th luniodd a ollyngaist ti dros gof.