Deuteronomium 30:19-20
Deuteronomium 30:19-20 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Dw i’n galw’r nefoedd a’r ddaear yn dystion yn eich erbyn chi. Dw i’n gosod dewis o’ch blaen chi – bywyd neu farwolaeth, bendith neu felltith. Felly dewiswch fywyd, a chewch chi a’ch disgynyddion fyw! Rhaid i chi garu’r ARGLWYDD eich Duw, gwrando ar beth mae e’n ddweud ac aros yn ffyddlon iddo. Fe ydy’r un sy’n rhoi bywyd, a fe fydd yn eich galluogi chi i fyw yn y wlad wnaeth e addo ei rhoi i’ch hynafiaid chi, Abraham, Isaac a Jacob.”
Deuteronomium 30:19-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr wyf yn galw'r nef a'r ddaear yn dystion yn dy erbyn heddiw, imi roi'r dewis iti rhwng bywyd ac angau, rhwng bendith a melltith. Dewis dithau fywyd, er mwyn iti fyw, tydi a'th ddisgynyddion, gan garu'r ARGLWYDD dy Dduw, a gwrando ar ei lais a glynu wrtho; oherwydd ef yw dy fywyd, ac ef fydd yn estyn dy ddyddiau iti gael byw yn y tir yr addawodd yr ARGLWYDD i'th dadau, Abraham, Isaac a Jacob, y byddai'n ei roi iddynt.
Deuteronomium 30:19-20 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Galw yr wyf yn dyst i’th erbyn heddiw y nefoedd a’r ddaear, roddi ohonof o’th flaen di einioes ac angau, fendith a melltith: dewis dithau yr einioes, fel y byddych fyw, ti a’th had; I garu ohonot yr ARGLWYDD dy DDUW, a gwrando ar ei lais ef, a glynu wrtho, (canys efe yw dy einioes di, ac estyniad dy ddyddiau,) fel y trigych yn y tir a dyngodd yr ARGLWYDD wrth dy dadau, wrth Abraham, wrth Isaac, ac wrth Jacob, ar ei roddi iddynt.