Deuteronomium 30:11-14
Deuteronomium 30:11-14 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Dydy beth dw i’n ei orchymyn i chi heddiw ddim yn anodd i’w ddeall, nac yn amhosib i’w gyrraedd. Dydy e ddim yn y nefoedd, fel bod rhaid i rywun ofyn, ‘Pwy wnaiff fynd i fyny i’r nefoedd i’w gael i ni, a’i gyhoeddi er mwyn i ni wneud beth mae’n ddweud?’ A dydy e ddim ym mhen draw’r byd, fel bod rhaid gofyn, ‘Pwy wnaiff fynd dros y môr i’w gael i ni, a’i gyhoeddi er mwyn i ni wneud beth mae’n ddweud?’ Mae’r gorchmynion gen ti wrth law; ti’n eu deall ac yn gallu’u dyfynnu ar y cof. Felly gwna beth maen nhw’n ddweud.
Deuteronomium 30:11-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Nid yw'r hyn yr wyf yn ei orchymyn iti heddiw yn rhy anodd iti nac allan o'th gyrraedd. Nid rhywbeth yn y nefoedd yw, iti ddweud, “Pwy a â i fyny i'r nefoedd ar ein rhan, a dod ag ef inni, a dweud wrthym beth ydyw, er mwyn inni allu ei wneud?” Nid rhywbeth y tu hwnt i'r môr yw ychwaith, iti ddweud, “Pwy a â dros y môr ar ein rhan, a dod ag ef inni, a dweud wrthym beth ydyw, er mwyn inni allu ei wneud?” Y mae'r gair yn agos iawn atat; y mae yn dy enau ac yn dy galon, er mwyn iti ei wneud.
Deuteronomium 30:11-14 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Oherwydd y gorchymyn yma, yr ydwyf yn ei orchymyn i ti heddiw, nid yw guddiedig oddi wrthyt, ac nid yw bell. Nid yn y nefoedd y mae, i ddywedyd ohonot, Pwy a ddring drosom i’r nefoedd, ac a’i dwg i ni, fel y clywom, ac y gwnelom ef? Ac nid o’r tu hwnt i’r môr y mae, i ddywedyd ohonot, Pwy a dramwya drosom ni i’r tu hwnt i’r môr, ac a’i dwg ef i ni, fel y clywom, ac y gwnelom ef? Canys y gair sydd agos iawn atat, yn dy enau, ac yn dy galon, i’w wneuthur ef.