Deuteronomium 28:7-9
Deuteronomium 28:7-9 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Bydd yr ARGLWYDD yn achosi i’r gelynion sy’n ymosod arnoch chi gael eu taro i lawr o flaen eich llygaid! Byddan nhw’n ymosod arnoch chi o un cyfeiriad, ond yn dianc i bob cyfeiriad! Bydd yr ARGLWYDD yn llenwi’ch ysguboriau chi, ac yn bendithio popeth wnewch chi – ydy, mae e’n mynd i’ch bendithio chi yn y wlad mae’n ei rhoi i chi. Bydd yr ARGLWYDD yn cadarnhau mai chi ydy’r bobl mae e wedi’u cysegru iddo’i hun, fel gwnaeth e addo, os gwnewch chi wneud beth mae e’n ddweud a byw fel mae e eisiau.
Deuteronomium 28:7-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Bydd yr ARGLWYDD yn peri i'th elynion sy'n codi yn dy erbyn gael eu dryllio o'th flaen; byddant yn dod yn dy erbyn ar hyd un ffordd, ond yn ffoi rhagot ar hyd saith. Bydd yr ARGLWYDD yn gorchymyn bendith ar dy ysguboriau ac ar bopeth a wnei; bydd yn dy fendithio yn y tir y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei roi iti. Bydd yr ARGLWYDD yn dy sefydlu'n bobl sanctaidd iddo, fel yr addawodd iti, os cedwi orchmynion yr ARGLWYDD dy Dduw a rhodio yn ei ffyrdd.
Deuteronomium 28:7-9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Rhydd yr ARGLWYDD dy elynion a ymgodant i’th erbyn yn lladdedig o’th flaen di: trwy un ffordd y deuant i’th erbyn, a thrwy saith o ffyrdd y ffoant o’th flaen. Yr ARGLWYDD a orchymyn fendith arnat ti, yn dy drysordai, ac yn yr hyn oll y dodych dy law arno; ac a’th fendithia yn y tir y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn ei roddi i ti. Yr ARGLWYDD a’th gyfyd di yn bobl sanctaidd iddo ei hun, megis y tyngodd wrthyt, os cedwi orchmynion yr ARGLWYDD dy DDUW, a rhodio yn ei ffyrdd ef.