Deuteronomium 28:65-67
Deuteronomium 28:65-67 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Fyddwch chi’n cael dim llonydd na gorffwys yn y gwledydd hynny. Bydd yr ARGLWYDD yn eich gwneud chi’n anesmwyth, yn ddigalon a diobaith. Bydd eich bywyd yn y fantol. Nos a dydd byddwch ofn marw, heb sicrwydd y byddwch chi’n dal yn fyw y diwrnod wedyn. Bydd amser yn llusgo, a fyddwch chi byth yn hapus – bydd y pethau gwaethaf allwch chi eu dychmygu yn digwydd i chi!
Deuteronomium 28:65-67 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ni chei lonydd na gorffwysfa i wadn dy droed ymhlith y cenhedloedd hyn; bydd yr ARGLWYDD yn rhoi iti yno galon ofnus, llygaid yn pallu ac ysbryd llesg. Bydd dy fywyd fel pe'n hongian o'th flaen, a bydd arnat ofn nos a dydd, heb ddim sicrwydd gennyt am dy einioes. O achos yr ofn yn dy galon a'r hyn a wêl dy lygaid, byddi'n dweud yn y bore, “O na fyddai'n hwyr!” ac yn yr hwyr, “O na fyddai'n fore!”
Deuteronomium 28:65-67 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac ymhlith y cenhedloedd hyn ni orffwysi, ac ni bydd gorffwystra i wadn dy droed: canys yr ARGLWYDD a rydd i ti yno galon ofnus, a darfodedigaeth llygaid, a thristwch meddwl. A’th einioes a fydd ynghrog gyferbyn â thi; a thi a ofni nos a dydd, ac ni byddi sicr o’th einioes. Y bore y dywedi, O na ddeuai yr hwyr! ac yn yr hwyr y dywedi, O na ddeuai y bore! o achos ofn dy galon gan yr hwn yr ofni, a rhag gweledigaeth dy lygaid yr hon a welych.