Deuteronomium 28:58-63
Deuteronomium 28:58-63 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Rhaid i chi wneud popeth mae’r gyfraith yn ei ddweud, sef beth sydd wedi’i ysgrifennu yn y sgrôl yma. A rhaid i chi barchu enw gwych a rhyfeddol yr ARGLWYDD eich Duw. Os na wnewch chi, bydd e’n eich cosbi chi a’ch disgynyddion yn drwm – salwch tymor hir ac afiechydon marwol. Byddwch yn dal yr heintiau ofnadwy wnaeth daro’r Aifft, a fydd dim iachâd. Bydd yr ARGLWYDD yn eich taro chi gyda pob math o afiechydon – rhai does dim sôn amdanyn nhw yn sgrôl y Gyfraith. Byddwch wedi’ch dinistrio’n llwyr yn y diwedd. Ar un adeg, roedd cymaint ohonoch chi ag sydd o sêr yn yr awyr, ond fydd bron neb ar ôl, am eich bod wedi gwrthod gwrando ar yr ARGLWYDD eich Duw. “Dyma beth fydd yn digwydd: Yn union fel roedd yr ARGLWYDD wrth ei fodd yn gwneud i chi lwyddo a lluosogi, bydd wrth ei fodd yn eich dinistrio a’ch difetha chi. Byddwch yn cael eich symud o’r wlad dych chi ar fin ei chymryd drosodd.
Deuteronomium 28:58-63 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Os na fyddi'n gofalu cyflawni holl ofynion y gyfraith hon, a ysgrifennwyd yn y llyfr hwn, a pharchu'r enw gogoneddus ac arswydus hwn, sef enw yr ARGLWYDD dy Dduw, yna bydd yr ARGLWYDD yn trymhau ei blâu anhygoel arnat ti ac ar dy epil, plâu trymion a chyson, a heintiau difrifol a pharhaus. Bydd yn dwyn arnat eto holl glefydau'r Aifft a fu'n peri braw iti, a byddant yn glynu wrthyt. Bydd yr ARGLWYDD yn pentyrru arnat hefyd yr holl afiechydon a phlâu nad ydynt wedi eu cynnwys yn llyfr y gyfraith hon, nes dy ddinistrio. Fe'th adewir di, a fu mor niferus â sêr y nefoedd, yn ychydig o bobl, am iti beidio â gwrando ar lais yr ARGLWYDD dy Dduw. Fel y bu'r ARGLWYDD yn llawenhau o'th blegid wrth iddo wneud daioni iti a'th amlhau, bydd yn llawenhau o'th blegid yr un modd wrth iddo dy ddifodi a'th ddinistrio. Bydd yn dy ddiwreiddio o'r tir hwn y daethost i'w feddiannu.
Deuteronomium 28:58-63 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Oni chedwi ar wneuthur holl eiriau y gyfraith hon, y rhai sydd ysgrifenedig yn y llyfr hwn, gan ofni yr enw gogoneddus ac ofnadwy hwn, YR ARGLWYDD DY DDUW; Yna y gwna yr ARGLWYDD dy blâu di yn rhyfedd, a phlâu dy had; sef plâu mawrion a pharhaus, a chlefydau drwg a pharhaus. Ac efe a ddwg arnat holl glefydau yr Aifft, y rhai yr ofnaist rhagddynt; a glynant wrthyt. Ie, pob clefyd, a phob pla, yr hwn nid yw ysgrifenedig yn llyfr y gyfraith hon, a ddwg yr ARGLWYDD arnat, hyd oni’th ddinistrier. Felly chwi a adewir yn ychydig bobl, lle yr oeddech fel sêr y nefoedd o luosowgrwydd; oherwydd na wrandewaist ar lais yr ARGLWYDD dy DDUW. A bydd, megis ag y llawenychodd yr ARGLWYDD ynoch i wneuthur daioni i chwi, ac i’ch amlhau; felly y llawenycha yr ARGLWYDD ynoch i’ch dinistrio, ac i’ch difetha chwi: a diwreiddir chwi o’r tir yr wyt yn myned iddo i’w feddiannu.