Deuteronomium 28:45-47
Deuteronomium 28:45-47 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Bydd y melltithion yma i gyd yn dod arnoch chi. Fydd dim dianc, a byddwch yn cael eich dinistrio, am eich bod heb fod yn ufudd i’r ARGLWYDD eich Duw, a heb gadw’r gorchmynion a’r canllawiau roddodd e i chi. Bydd y cwbl yn arwydd clir fydd yn gwneud i bobl ryfeddu atoch chi a’ch disgynyddion. “Wnaethoch chi ddim defnyddio’r digonedd oedd gynnoch chi i wasanaethu’r ARGLWYDD eich Duw, a rhoi eich hunain yn llwyr i wneud hynny
Deuteronomium 28:45-47 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Daw'r holl felltithion hyn arnat, a'th ddilyn a'th amgylchu nes iti gael dy ddinistrio, am na wrandewaist ar lais yr ARGLWYDD dy Dduw na chadw ei orchmynion a'i ddeddfau fel y gorchmynnodd iti. Byddant yn arwydd ac yn argoel i ti ac i'th ddisgynyddion am byth, gan na wasanaethaist yr ARGLWYDD dy Dduw mewn llawenydd a llonder calon am iddo roi iti ddigonedd o bopeth.
Deuteronomium 28:45-47 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A’r holl felltithion hyn a ddaw arnat, ac a’th erlidiant, ac a’th oddiweddant, hyd oni’th ddinistrier; am na wrandewaist ar lais yr ARGLWYDD dy DDUW, i gadw ei orchmynion a’i ddeddfau ef, y rhai a orchmynnodd efe i ti. A byddant yn arwydd ac yn rhyfeddod arnat ti, ac ar dy had hyd byth. Oblegid na wasanaethaist yr ARGLWYDD dy DDUW mewn llawenydd, ac mewn hyfrydwch calon, am amldra pob dim