Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Deuteronomium 28:1-68

Deuteronomium 28:1-68 beibl.net 2015, 2023 (BNET)

“Os byddwch chi wir yn ufudd i’r ARGLWYDD eich Duw, ac yn gwneud yn siŵr eich bod chi’n cadw’r gorchmynion dw i’n eu rhoi i chi heddiw, bydd e’n eich gwneud chi’n fwy enwog na’r cenhedloedd eraill i gyd. Byddwch yn derbyn llond gwlad o fendithion os byddwch chi’n ufudd iddo: Cewch eich bendithio ble bynnag dych chi’n gweithio. Bydd bendith ar eich plant, ar gynnyrch eich tir, ac ar eich anifeiliaid i gyd – bydd eich gwartheg, defaid a geifr yn cael lot o rai bach. Bydd digon o rawn yn eich basged, a digon o fwyd ar eich bwrdd. Cewch eich bendithio ble bynnag ewch chi. Bydd yr ARGLWYDD yn achosi i’r gelynion sy’n ymosod arnoch chi gael eu taro i lawr o flaen eich llygaid! Byddan nhw’n ymosod arnoch chi o un cyfeiriad, ond yn dianc i bob cyfeiriad! Bydd yr ARGLWYDD yn llenwi’ch ysguboriau chi, ac yn bendithio popeth wnewch chi – ydy, mae e’n mynd i’ch bendithio chi yn y wlad mae’n ei rhoi i chi. Bydd yr ARGLWYDD yn cadarnhau mai chi ydy’r bobl mae e wedi’u cysegru iddo’i hun, fel gwnaeth e addo, os gwnewch chi wneud beth mae e’n ddweud a byw fel mae e eisiau. Wedyn bydd pawb drwy’r byd i gyd yn gwybod mai chi ydy pobl yr ARGLWYDD, a byddan nhw’n eich parchu chi. Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud i chi lwyddo bob ffordd – cewch lot o blant, bydd eich anifeiliaid yn cael lot o rai bach, a bydd eich cnydau’n llwyddo yn y wlad wnaeth e addo i’ch hynafiaid y byddai’n ei rhoi i chi. Bydd yr ARGLWYDD yn agor ei stordai yn yr awyr, ac yn rhoi glaw yn ei dymor i’r tir. Bydd yn bendithio popeth wnewch chi. Bydd gynnoch chi ddigon i’w fenthyg i genhedloedd eraill, ond fydd dim angen benthyg arnoch chi o gwbl. Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud i chi arwain, ac nid dilyn. Byddwch chi ar y top, dim ar y gwaelod – dim ond i chi wneud yn siŵr eich bod chi’n cadw’i orchmynion e, y rhai dw i’n eu rhoi i chi heddiw. Ond rhaid i chi beidio crwydro o gwbl oddi wrth y gorchmynion dw i’n eu rhoi i chi, a pheidio mynd i addoli duwiau eraill. “Ond os byddwch chi’n gwrthod gwrando ar yr ARGLWYDD eich Duw, heb wneud yn siŵr eich bod chi’n cadw’i orchmynion a’i ganllawiau e, bydd llond gwlad o felltithion yn dod arnoch chi! Cewch eich melltithio lle bynnag dych chi’n gweithio. Fydd dim grawn yn eich basged, a dim bwyd ar eich bwrdd. Bydd eich plant a chynnyrch eich tir wedi’u melltithio – fydd eich gwartheg, defaid a geifr ddim yn cael rhai bach. Cewch eich melltithio lle bynnag ewch chi. Bydd yr ARGLWYDD yn melltithio, drysu a gwrthwynebu popeth wnewch chi, nes byddwch chi wedi’ch dinistrio ac wedi diflannu o achos yr holl ddrwg fyddwch chi’n ei wneud, ac am eich bod chi wedi troi cefn arna i. Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud i chi ddal heintiau marwol, nes bydd e wedi cael gwared â chi’n llwyr o’r tir dych chi ar fin ei gymryd drosodd. Byddwch yn dioddef o afiechydon na ellir mo’u gwella, gwres uchel, llid, heintiau, sychder, a cnydau wedi’u difetha gan ormod o wres neu ormod o law. Fyddan nhw ddim yn stopio nes byddwch chi wedi diflannu. Bydd yr awyr uwch eich pennau fel pres, a’r ddaear dan eich traed yn galed fel haearn, am fod dim glaw. Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud iddi lawio llwch a lludw. Bydd yn disgyn arnoch chi o’r awyr nes byddwch chi wedi’ch difa. Bydd yr ARGLWYDD yn gadael i’ch gelynion eich trechu chi. Byddwch chi’n ymosod arnyn nhw o un cyfeiriad, ond yn gorfod dianc i bob cyfeiriad! Bydd beth fydd yn digwydd i chi yn ddychryn i wledydd y byd i gyd. Bydd eich cyrff marw yn fwyd i’r holl adar ac anifeiliaid gwyllt, a fydd yna neb ar ôl i’w dychryn nhw i ffwrdd. Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud i chi ddioddef o’r chwyddau wnaeth daro pobl yr Aifft, briwiau cas, crach ar y croen, a’r cosi – a fydd dim gwella i chi. Bydd yr ARGLWYDD yn achosi panig, a’ch gwneud yn ddall ac yn ddryslyd. Byddwch chi’n ymbalfalu ganol dydd fel rhywun dall sydd yn y tywyllwch, a fydd dim fyddwch chi’n ei wneud yn llwyddo. Bydd pobloedd eraill yn eich cam-drin chi ac yn dwyn oddi arnoch chi o hyd, a fydd yna neb i’ch achub chi. Bydd dyn wedi dyweddïo gyda merch, a bydd dyn arall yn ei threisio hi. Byddwch chi’n adeiladu tŷ ond ddim yn cael byw ynddo. Byddwch chi’n plannu gwinllan, ond ddim yn casglu’i ffrwyth. Bydd eich ych yn cael ei ladd o flaen eich llygaid, ond fyddwch chi ddim yn bwyta’r cig. Byddwch chi’n gwylio’ch asyn yn cael ei ddwyn oddi arnoch chi, a fyddwch chi ddim yn ei gael yn ôl. Bydd eich praidd o ddefaid yn cael ei gymryd gan eich gelynion, a fydd yna neb i’ch achub chi. Bydd eich meibion a’ch merched yn cael eu rhoi i bobl eraill o flaen eich llygaid. Byddwch chi’n edrych amdanyn nhw, ac yn gallu gwneud dim i ddod â nhw’n ôl. Bydd pobl dych chi ddim yn eu nabod yn mwynhau cynnyrch eich tir a ffrwyth eich gwaith caled, a byddwch chi’n cael eich gorthrymu a’ch sathru dan draed am weddill eich bywydau. Bydd gweld hyn yn eich gyrru chi’n wallgof! Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud i’ch gliniau a’ch coesau chwyddo – byddwch chi mewn poen drosoch, o’r corun i’r sawdl. Bydd yr ARGLWYDD yn eich gyrru chi, a’r brenin fyddwch chi wedi’i benodi drosoch, at bobl dydych chi a’ch hynafiaid yn gwybod dim amdanyn nhw, ac yno byddwch chi’n addoli duwiau o bren a charreg. Byddwch chi’n achos dychryn, ac wedi’ch gwneud yn esiampl ac yn destun sbort i’r bobloedd y bydd yr ARGLWYDD yn eich gyrru chi atyn nhw. Byddwch chi’n hau lot fawr o had, ond yn medi ychydig iawn. Bydd locustiaid yn ei ddifetha. Byddwch yn plannu gwinllannoedd a gofalu amdanyn nhw, ond gewch chi ddim yfed y gwin na chasglu’r grawnwin. Bydd pryfed yn eu bwyta nhw! Bydd coed olewydd drwy’r wlad i gyd, ond gewch chi ddim rhoi’r olew ar eich wynebau. Bydd yr olewydd yn syrthio o’r coed cyn aeddfedu. Byddwch yn magu plant – bechgyn a merched – ond yn eu colli nhw. Byddan nhw’n cael eu cymryd yn gaethion. Bydd locustiaid swnllyd yn difetha’r coed a’r cnydau. Bydd y bobl o’r tu allan sy’n byw gyda chi yn troi’n fwy cyfoethog ac yn llwyddo, a byddwch chi’n mynd yn is ac yn dlotach. Byddan nhw’n benthyg i chi, ond fyddwch chi ddim yn benthyg iddyn nhw. Nhw fydd yn arwain a chi fydd yn dilyn! “Bydd y melltithion yma i gyd yn dod arnoch chi. Fydd dim dianc, a byddwch yn cael eich dinistrio, am eich bod heb fod yn ufudd i’r ARGLWYDD eich Duw, a heb gadw’r gorchmynion a’r canllawiau roddodd e i chi. Bydd y cwbl yn arwydd clir fydd yn gwneud i bobl ryfeddu atoch chi a’ch disgynyddion. “Wnaethoch chi ddim defnyddio’r digonedd oedd gynnoch chi i wasanaethu’r ARGLWYDD eich Duw, a rhoi eich hunain yn llwyr i wneud hynny, felly byddwch chi’n gwasanaethu’r gelynion wnaeth yr ARGLWYDD eu hanfon i ymosod arnoch chi. Byddwch chi’n dioddef o newyn a syched, yn noeth ac yn dlawd. Byddan nhw’n gosod iau haearn ar eich gwar, a gwneud i chi weithio mor galed nes bydd yn ddigon i’ch lladd chi! “Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud i bobl o wlad bell godi’n eich erbyn chi. Byddan nhw’n dod o ben draw’r byd ac yn plymio i lawr arnoch chi fel eryr. Fyddwch chi ddim yn deall eu hiaith nhw. Pobl greulon, yn dangos dim parch at yr henoed, a dim trugaredd at bobl ifanc. Byddan nhw’n dwyn eich anifeiliaid chi, a chnydau’r tir i gyd, nes byddwch chi wedi’ch dinistrio’n llwyr. Fydd gynnoch chi ddim ŷd, sudd grawnwin, olew olewydd, lloi nac ŵyn ar ôl. Byddan nhw’n gwarchae ar giatiau’ch trefi amddiffynnol chi ac yn ymosod ar y waliau uchel nes byddan nhw wedi syrthio – a chithau’n rhoi cymaint o ffydd yn y trefi yma! Byddan nhw’n gwarchae ar drefi drwy’r wlad i gyd, a’ch cau chi i mewn, a bydd pethau’n mynd mor ofnadwy nes byddwch chi’n bwyta’ch plant – ie, bwyta cnawd eich meibion a’ch merched! Bydd y dyn mwyaf tyner a charedig yn bwyta cnawd ei blant (am fod dim byd arall ar ôl i’w fwyta), a bydd e’n gwrthod rhannu gyda’i frawd, neu’r wraig mae’n ei charu, a’i blant eraill. Dyna i chi pa mor ddrwg fydd pethau pan fydd y gelyn yn gwarchae arnoch chi a’ch cau chi i mewn yn y trefi! Bydd y wraig fwyaf addfwyn a charedig (sydd wedi cael bywyd braf, ac erioed wedi gorfod cerdded heb esgidiau), yn gwrthod rhannu gyda’r gŵr mae’n ei garu, a’i meibion a’i merched. Bydd canlyniadau’r gwarchae mor ofnadwy, bydd hi’n geni plentyn, ac yna’n dawel fach yn bwyta’r brych a’r plentyn. Dyna pa mor ddrwg fydd pethau pan fydd y gelyn yn gwarchae arnoch chi a’ch cau chi i mewn yn y trefi! “Rhaid i chi wneud popeth mae’r gyfraith yn ei ddweud, sef beth sydd wedi’i ysgrifennu yn y sgrôl yma. A rhaid i chi barchu enw gwych a rhyfeddol yr ARGLWYDD eich Duw. Os na wnewch chi, bydd e’n eich cosbi chi a’ch disgynyddion yn drwm – salwch tymor hir ac afiechydon marwol. Byddwch yn dal yr heintiau ofnadwy wnaeth daro’r Aifft, a fydd dim iachâd. Bydd yr ARGLWYDD yn eich taro chi gyda pob math o afiechydon – rhai does dim sôn amdanyn nhw yn sgrôl y Gyfraith. Byddwch wedi’ch dinistrio’n llwyr yn y diwedd. Ar un adeg, roedd cymaint ohonoch chi ag sydd o sêr yn yr awyr, ond fydd bron neb ar ôl, am eich bod wedi gwrthod gwrando ar yr ARGLWYDD eich Duw. “Dyma beth fydd yn digwydd: Yn union fel roedd yr ARGLWYDD wrth ei fodd yn gwneud i chi lwyddo a lluosogi, bydd wrth ei fodd yn eich dinistrio a’ch difetha chi. Byddwch yn cael eich symud o’r wlad dych chi ar fin ei chymryd drosodd. Bydd yr ARGLWYDD yn eich gyrru chi ar chwâl drwy’r gwledydd i gyd, a bydd rhaid i chi addoli eilun-dduwiau o bren a charreg – duwiau dych chi a’ch hynafiaid yn gwybod dim amdanyn nhw. Fyddwch chi’n cael dim llonydd na gorffwys yn y gwledydd hynny. Bydd yr ARGLWYDD yn eich gwneud chi’n anesmwyth, yn ddigalon a diobaith. Bydd eich bywyd yn y fantol. Nos a dydd byddwch ofn marw, heb sicrwydd y byddwch chi’n dal yn fyw y diwrnod wedyn. Bydd amser yn llusgo, a fyddwch chi byth yn hapus – bydd y pethau gwaethaf allwch chi eu dychmygu yn digwydd i chi! Bydd yr ARGLWYDD yn eich rhoi chi ar long, a’ch gyrru chi’n ôl i’r Aifft ar hyd llwybr roeddwn i wedi dweud fyddech chi byth yn ei weld eto. Yno byddwch yn ceisio gwerthu’ch hunain yn gaethweision a chaethferched i’ch gelynion, ond fydd neb eisiau’ch prynu chi.”

Deuteronomium 28:1-68 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Os byddi'n gwrando'n astud ar lais yr ARGLWYDD dy Dduw, ac yn gofalu cadw popeth y mae'n ei orchymyn iti heddiw, yna bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn dy osod yn uwch na holl genhedloedd y byd. Daw'r holl fendithion hyn i'th ran ac i'th amgylchu, dim ond iti wrando ar lais yr ARGLWYDD dy Dduw. Byddi'n derbyn bendith yn y dref ac yn y maes. Bydd bendith ar ffrwyth dy gorff, ar gnwd dy dir a'th fuches, ar gynnydd dy wartheg ac epil dy ddefaid. Bydd bendith ar dy gawell a'th badell dylino. Bydd bendith arnat wrth ddod i mewn ac wrth fynd allan. Bydd yr ARGLWYDD yn peri i'th elynion sy'n codi yn dy erbyn gael eu dryllio o'th flaen; byddant yn dod yn dy erbyn ar hyd un ffordd, ond yn ffoi rhagot ar hyd saith. Bydd yr ARGLWYDD yn gorchymyn bendith ar dy ysguboriau ac ar bopeth a wnei; bydd yn dy fendithio yn y tir y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei roi iti. Bydd yr ARGLWYDD yn dy sefydlu'n bobl sanctaidd iddo, fel yr addawodd iti, os cedwi orchmynion yr ARGLWYDD dy Dduw a rhodio yn ei ffyrdd. Fe wêl holl bobloedd y ddaear mai ar enw'r ARGLWYDD y gelwir di; a bydd dy ofn arnynt. Bydd yr ARGLWYDD yn dy lwyddo'n ardderchog yn ffrwyth dy gorff, cynnydd dy fuches, a chnwd dy dir yn y wlad yr addawodd yr ARGLWYDD i'th hynafiaid ei rhoi iti. Bydd yr ARGLWYDD yn agor y nefoedd, ystordy ei ddaioni, i roi glaw i'th dir yn ei bryd, ac i fendithio holl waith dy ddwylo; byddi'n rhoi benthyg i lawer o genhedloedd, ond heb angen benthyca dy hun. Bydd yr ARGLWYDD yn dy wneud yn ben ac nid yn gynffon, yn uchaf bob amser ac nid yn isaf, dim ond iti wrando ar orchmynion yr ARGLWYDD dy Dduw, y rhai yr wyf yn eu rhoi iti heddiw i'w cadw a'u gwneud. Paid â gwyro i'r dde na'r chwith oddi wrth yr un o'r pethau yr wyf fi'n eu gorchymyn iti heddiw, na dilyn duwiau estron i'w haddoli. Ac os na fyddi'n gwrando ar lais yr ARGLWYDD dy Dduw, i ofalu cyflawni ei holl orchmynion a'i ddeddfau, y rhai yr wyf yn eu rhoi iti heddiw, yna fe ddaw i'th ran yr holl felltithion hyn, ac fe'th amgylchant: Melltith arnat yn y dref ac yn y maes. Melltith ar dy gawell a'th badell dylino. Melltith ar ffrwyth dy gorff a chnwd dy dir, ar gynnydd dy wartheg ac epil dy ddefaid. Melltith arnat wrth ddod i mewn ac wrth fynd allan. Bydd yr ARGLWYDD yn anfon arnat felltithion, dryswch, a cherydd ym mha beth bynnag yr wyt yn ei wneud, nes dy ddinistrio a'th ddifetha'n gyflym oherwydd drygioni dy waith yn ei wrthod. Bydd yr ARGLWYDD yn peri i haint lynu wrthyt nes dy ddifa oddi ar y tir yr wyt yn mynd iddo i'w feddiannu. Bydd yr ARGLWYDD yn dy daro â darfodedigaeth, twymyn, llid a chryd; â sychder hefyd a deifiant a malltod. Bydd y rhain yn dy ddilyn nes dy ddifodi. Bydd yr wybren uwch dy ben yn bres, a'r ddaear oddi tanat yn haearn. Bydd yr ARGLWYDD yn troi glaw dy dir yn llwch a lludw, a hynny'n disgyn arnat o'r awyr nes dy ddifa. Bydd yr ARGLWYDD yn dy ddryllio o flaen d'elynion; byddi'n mynd allan yn eu herbyn ar hyd un ffordd, ond yn ffoi rhagddynt ar hyd saith, a bydd hyn yn arswyd i holl deyrnasoedd y ddaear. Bydd dy gelain yn bwydo holl adar yr awyr a bwystfilod y ddaear, heb neb i'w tarfu. Bydd yr ARGLWYDD yn dy daro â chornwyd yr Aifft a chornwydydd gwaedlyd, â chrach ac ysfa na fedri gael iachâd ohonynt. Bydd yr ARGLWYDD yn dy daro â gwallgofrwydd, dallineb a dryswch meddwl; a byddi'n ymbalfalu ar hanner dydd, fel y bydd y dall yn ymbalfalu mewn tywyllwch, heb lwyddo i gael dy ffordd. Cei dy orthrymu a'th ysbeilio'n feunyddiol heb neb i'th achub. Er iti ddyweddïo â merch, dyn arall fydd yn ei chymryd; er iti godi tŷ, ni fyddi'n byw ynddo; ac er iti blannu gwinllan, ni chei'r ffrwyth ohoni. Lleddir dy ych yn dy olwg, ond ni fyddi'n cael bwyta dim ohono; caiff dy asyn ei ladrata yn dy ŵydd, ond nis cei yn ôl; rhoddir dy ddefaid i'th elynion, ac ni fydd neb i'w hadfer iti. Rhoddir dy feibion a'th ferched i bobl arall, a thithau'n gweld ac yn dihoeni o'u plegid ar hyd y dydd, yn ddiymadferth. Bwyteir cynnyrch dy dir a'th holl lafur gan bobl nad wyt yn eu hadnabod, a chei dy orthrymu a'th ysbeilio'n feunyddiol, nes bod yr hyn a weli â'th lygaid yn dy yrru'n wallgof. Bydd yr ARGLWYDD yn dy daro â chornwydydd poenus, na ellir eu gwella, ar dy liniau a'th goesau, ac o wadn dy droed hyd dy gorun. Bydd yr ARGLWYDD yn dy ddanfon di, a'r brenin y byddi'n ei osod arnat, at genedl na fu i ti na'th gyndadau ei hadnabod; ac yno byddi'n gwasanaethu duwiau estron o bren a charreg. Byddi'n achos syndod, yn ddihareb ac yn gyff gwawd ymysg yr holl bobloedd y bydd yr ARGLWYDD yn dy ddanfon atynt. Er iti fynd â digonedd o had i'r maes, ychydig a fedi, am i locustiaid ei ysu. Byddi'n plannu gwinllannoedd ac yn eu trin, ond ni chei yfed y gwin na chasglu'r grawnwin, am i bryfetach eu bwyta. Bydd gennyt olewydd trwy dy dir i gyd, ond ni fyddi'n dy iro dy hun â'r olew, oherwydd bydd dy olewydd yn colli eu ffrwyth. Byddi'n cenhedlu meibion a merched, ond ni chei eu cadw, oherwydd fe'u cludir i gaethiwed. Bydd locustiaid yn difa pob coeden fydd gennyt a chynnyrch dy dir. Bydd y dieithryn yn eich mysg yn dal i godi'n uwch ac yn uwch, a thithau'n disgyn yn is ac yn is. Ef fydd yn rhoi benthyg i ti, nid ti iddo ef; ef fydd y pen, a thithau'n gynffon. Daw'r holl felltithion hyn arnat, a'th ddilyn a'th amgylchu nes iti gael dy ddinistrio, am na wrandewaist ar lais yr ARGLWYDD dy Dduw na chadw ei orchmynion a'i ddeddfau fel y gorchmynnodd iti. Byddant yn arwydd ac yn argoel i ti ac i'th ddisgynyddion am byth, gan na wasanaethaist yr ARGLWYDD dy Dduw mewn llawenydd a llonder calon am iddo roi iti ddigonedd o bopeth. Eithr mewn newyn a syched, noethni a dirfawr angen, byddi'n gwasanaethu'r gelynion y mae'r ARGLWYDD yn eu hanfon yn dy erbyn. Bydd yn gosod iau haearn ar dy war nes iddo dy ddinistrio. Bydd yr ARGLWYDD yn codi cenedl o bell, o eithaf y ddaear, yn dy erbyn; fel eryr fe ddaw ar dy warthaf genedl na fyddi'n deall ei hiaith, cenedl sarrug ei gwedd, heb barch i'r hen na thiriondeb at yr ifanc. Bydd yn bwyta cynnyrch dy fuches a'th dir, nes dy ddinistrio; ni fydd yn gadael ar ôl iti nac ŷd na gwin nac olew, na chynnydd dy wartheg nac epil dy ddefaid, nes dy ddifodi. Bydd yn gwarchae ar bob dinas o'th eiddo trwy dy holl wlad, nes y bydd pob un o'th furiau uchel, yr wyt yn ymddiried ynddynt i'th amddiffyn, yn cwympo; ie, bydd yn gwarchae ar bob dinas o'th eiddo trwy'r holl wlad a roddodd yr ARGLWYDD dy Dduw iti. Oherwydd y cyni a achosir iti gan warchae dy elyn, byddi'n bwyta ffrwyth dy gorff dy hun, cnawd dy feibion a'th ferched, a roddodd yr ARGLWYDD dy Dduw iti. Bydd y dyn mwyaf tyner a theimladwy yn eich plith yn gwarafun rhoi i'w frawd, nac i wraig ei fynwes nac i weddill ei blant sydd ar ôl, ddim o gig ei blant y mae'n ei fwyta, rhag iddo fod heb ddim yn y cyni a achosir ym mhob dinas gan warchae dy elyn. Bydd y ddynes fwyaf tyner a mwyaf teimladwy yn eich plith, un mor deimladwy a thyner fel na fentrodd osod gwadn ei throed ar y ddaear, yn gwarafun rhoi i ŵr ei mynwes, nac i'w mab na'i merch, ran o'r brych a ddisgyn o'i chroth, na'r baban a enir iddi; ond bydd hi ei hun yn ei fwyta'n ddirgel, am nad oes dim i'w gael yn y cyni a achosir yn dy holl ddinasoedd gan warchae dy elyn. Os na fyddi'n gofalu cyflawni holl ofynion y gyfraith hon, a ysgrifennwyd yn y llyfr hwn, a pharchu'r enw gogoneddus ac arswydus hwn, sef enw yr ARGLWYDD dy Dduw, yna bydd yr ARGLWYDD yn trymhau ei blâu anhygoel arnat ti ac ar dy epil, plâu trymion a chyson, a heintiau difrifol a pharhaus. Bydd yn dwyn arnat eto holl glefydau'r Aifft a fu'n peri braw iti, a byddant yn glynu wrthyt. Bydd yr ARGLWYDD yn pentyrru arnat hefyd yr holl afiechydon a phlâu nad ydynt wedi eu cynnwys yn llyfr y gyfraith hon, nes dy ddinistrio. Fe'th adewir di, a fu mor niferus â sêr y nefoedd, yn ychydig o bobl, am iti beidio â gwrando ar lais yr ARGLWYDD dy Dduw. Fel y bu'r ARGLWYDD yn llawenhau o'th blegid wrth iddo wneud daioni iti a'th amlhau, bydd yn llawenhau o'th blegid yr un modd wrth iddo dy ddifodi a'th ddinistrio. Bydd yn dy ddiwreiddio o'r tir hwn y daethost i'w feddiannu. Bydd yr ARGLWYDD yn dy wasgaru ymysg yr holl bobloedd, o un cwr o'r byd i'r llall; ac yno byddi'n gwasanaethu duwiau estron, duwiau o bren a charreg, nad oeddit ti na'th hynafiaid yn eu hadnabod. Ni chei lonydd na gorffwysfa i wadn dy droed ymhlith y cenhedloedd hyn; bydd yr ARGLWYDD yn rhoi iti yno galon ofnus, llygaid yn pallu ac ysbryd llesg. Bydd dy fywyd fel pe'n hongian o'th flaen, a bydd arnat ofn nos a dydd, heb ddim sicrwydd gennyt am dy einioes. O achos yr ofn yn dy galon a'r hyn a wêl dy lygaid, byddi'n dweud yn y bore, “O na fyddai'n hwyr!” ac yn yr hwyr, “O na fyddai'n fore!” Bydd yr ARGLWYDD yn dy ddychwelyd i'r Aifft mewn tristwch, ar hyd y ffordd y dywedais wrthyt na fyddit yn ei gweld rhagor, ac yno byddwch yn eich cynnig eich hunain ar werth i'ch gelynion fel caethion a chaethesau, heb neb yn prynu.

Deuteronomium 28:1-68 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Ac os gan wrando y gwrandewi ar lais yr ARGLWYDD dy DDUW, i gadw ac i wneuthur ei holl orchmynion ef, y rhai yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i ti heddiw; yna yr ARGLWYDD dy DDUW a’th esyd yn uwch na holl genhedloedd y ddaear. A’r holl fendithion hyn a ddaw arnat, ac a’th oddiweddant, os gwrandewi ar lais yr ARGLWYDD dy DDUW. Bendigedig fyddi di yn y ddinas, a bendigedig yn y maes. Bendigedig fydd ffrwyth dy fru, a ffrwyth dy dir, a ffrwyth dy anifail di, cynnydd dy wartheg, a diadellau dy ddefaid. Bendigedig fydd dy gawell a’th does di. Bendigedig fyddi di yn dy ddyfodiad i mewn, a bendigedig yn dy fynediad allan. Rhydd yr ARGLWYDD dy elynion a ymgodant i’th erbyn yn lladdedig o’th flaen di: trwy un ffordd y deuant i’th erbyn, a thrwy saith o ffyrdd y ffoant o’th flaen. Yr ARGLWYDD a orchymyn fendith arnat ti, yn dy drysordai, ac yn yr hyn oll y dodych dy law arno; ac a’th fendithia yn y tir y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn ei roddi i ti. Yr ARGLWYDD a’th gyfyd di yn bobl sanctaidd iddo ei hun, megis y tyngodd wrthyt, os cedwi orchmynion yr ARGLWYDD dy DDUW, a rhodio yn ei ffyrdd ef. A holl bobloedd y ddaear a welant fod yn dy alw di ar enw yr ARGLWYDD, ac a ofnant rhagot. A’r ARGLWYDD a’th lwydda di mewn daioni, yn ffrwyth dy fru, ac yn ffrwyth dy anifeiliaid, ac yn ffrwyth dy ddaear, yn y tir a dyngodd yr ARGLWYDD i’th dadau ar ei roddi i ti. Yr ARGLWYDD a egyr ei drysor daionus i ti, sef y nefoedd, i roddi glaw i’th dir di yn ei amser, ac i fendigo holl waith dy law: a thi a roddi echwyn i genhedloedd lawer, ac ni cheisi echwyn. A’r ARGLWYDD a’th wna di yn ben, ac nid yn gynffon; hefyd ti a fyddi yn uchaf yn unig, ac nid yn isaf: os gwrandewi ar orchmynion yr ARGLWYDD dy DDUW, y rhai yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddiw, i’w cadw, ac i’w gwneuthur; Ac heb gilio ohonot oddi wrth yr holl eiriau yr wyf fi yn eu gorchymyn i chwi heddiw, i’r tu deau neu i’r tu aswy, gan fyned ar ôl duwiau dieithr, i’w gwasanaethu hwynt. A bydd, oni wrandewi ar lais yr ARGLWYDD dy DDUW, gan gadw a gwneuthur ei holl orchmynion ef a’i ddeddfau, y rhai yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddiw; y daw arnat yr holl felltithion hyn, ac y’th oddiweddant. Melltigedig fyddi di yn y ddinas, a melltigedig yn y maes. Melltigedig fydd dy gawell a’th does di. Melltigedig fydd ffrwyth dy fru, a ffrwyth dy dir, cynnydd dy wartheg, a diadellau dy ddefaid. Melltigedig fyddi di yn dy ddyfodiad i mewn, a melltigedig yn dy fynediad allan. Yr ARGLWYDD a ddenfyn arnat ti felltith, trallod, a cherydd, yn yr hyn oll y dodych dy law arno, ac yn yr hyn a wnelych; nes dy ddinistrio a’th ddifetha di yn gyflym; am ddrygioni dy weithredoedd yn y rhai y’m gwrthodaist i. Yr ARGLWYDD a wna i haint lynu wrthyt, nes iddo dy ddifa oddi ar y tir yr ydwyt ti yn myned iddo i’w feddiannu. Yr ARGLWYDD a’th dery â darfodedigaeth ac â chryd poeth, ac â llosgfa, ac â gwres, ac â chleddyf, ac â diflaniad, ac â mallter; a hwy a’th ddilynant nes dy ddifetha. Dy nefoedd hefyd y rhai sydd uwch dy ben a fyddant yn bres, a’r ddaear yr hon sydd oddi tanat yn haearn. Yr ARGLWYDD a rydd yn lle glaw dy ddaear, lwch a lludw: o’r nefoedd y disgyn arnat, hyd oni’th ddinistrier. Yr ARGLWYDD a wna i ti syrthio o flaen dy elynion: trwy un ffordd yr ei di yn eu herbyn hwynt, a thrwy saith o ffyrdd y ffoi o’u blaen hwynt: a thi a fyddi ar wasgar dros holl deyrnasoedd y ddaear. A’th gelain a fydd fwyd i holl ehediaid y nefoedd, ac i anifeiliaid y ddaear; ac ni bydd a’u tarfo. Yr ARGLWYDD a’th dery di â chornwyd yr Aifft, ac â chlwyf y marchogion, ac â chrach, ac ag ysfa; o’r rhai ni ellir dy iacháu. Yr ARGLWYDD a’th dery di ag ynfydrwydd, ac â dallineb, ac â syndod calon. Byddi hefyd yn ymbalfalu ganol dydd, fel yr ymbalfalai y dall yn y tywyllwch; ac ni lwyddi yn dy ffyrdd: a diau y byddi orthrymedig ac anrheithiedig byth, ac ni bydd a’th waredo. Ti a ymgredi â gwraig, a gŵr arall a gydorwedd â hi: ti a adeiledi dŷ, ac ni thrigi ynddo: ti a blenni winllan, ac ni chesgli ei ffrwyth. Dy ych a leddir yn dy olwg, ac ni fwytei ohono: dy asyn a ddygir trwy drais o flaen dy wyneb, ac ni ddaw adref atat: dy ddefaid a roddir i’th elynion, ac ni bydd i ti achubydd. Dy feibion a’th ferched a roddir i bobl eraill, a’th lygaid yn gweled, ac yn pallu amdanynt ar hyd y dydd; ac ni bydd gallu ar dy law. Ffrwyth dy dir a’th holl lafur a fwyty pobl nid adnabuost; a byddi yn unig orthrymedig a drylliedig bob amser: A byddi wallgofus, gan weledigaeth dy lygaid yr hon a welych. Yr ARGLWYDD a’th dery di â chornwyd drygionus, yn y gliniau ac yn yr esgeiriau, yr hwn ni ellir ei iacháu, o wadn dy droed hyd dy gorun. Yr ARGLWYDD a’th ddwg di, a’th frenin a osodych arnat, at genedl nid adnabuost ti na’th dadau di; a gwasanaethi yno dduwiau dieithr, pren a maen. A byddi yn syndod, yn ddihareb, ac yn watwargerdd, ymhlith yr holl bobloedd y rhai yr arwain yr ARGLWYDD di atynt. Had lawer a ddygi allan i’r maes, ac ychydig a gesgli: oherwydd y locust a’i hysa. Gwinllannoedd a blenni, ac a goleddi; ond gwin nid yfi, ac ni chesgli y grawnwin: canys pryfed a’u bwyty. Olewydd a fydd i ti trwy dy holl derfynau, ac ag olew ni’th irir: oherwydd dy olewydden a ddihidla. Meibion a merched a genhedli, ac ni byddant i ti: oherwydd hwy a ânt i gaethiwed. Dy holl brennau a ffrwythau dy dir a ddifa y locust. Y dieithr a fyddo yn dy fysg a ddring arnat yn uchel uchel; a thi a ddisgynni yn isel isel. Efe a fenthycia i ti, a thi ni fenthyci iddo ef: efe a fydd yn ben, a thi a fyddi yn gynffon. A’r holl felltithion hyn a ddaw arnat, ac a’th erlidiant, ac a’th oddiweddant, hyd oni’th ddinistrier; am na wrandewaist ar lais yr ARGLWYDD dy DDUW, i gadw ei orchmynion a’i ddeddfau ef, y rhai a orchmynnodd efe i ti. A byddant yn arwydd ac yn rhyfeddod arnat ti, ac ar dy had hyd byth. Oblegid na wasanaethaist yr ARGLWYDD dy DDUW mewn llawenydd, ac mewn hyfrydwch calon, am amldra pob dim: Am hynny y gwasanaethi di dy elynion, y rhai a ddenfyn yr ARGLWYDD yn dy erbyn, mewn newyn, ac mewn syched, ac mewn noethni, ac mewn eisiau pob dim; ac efe a ddyry iau haearn ar dy wddf, hyd oni ddinistrio efe dydi. Yr ARGLWYDD a ddwg i’th erbyn genedl o bell, sef o eithaf y ddaear, mor gyflym ag yr eheda yr eryr; cenedl yr hon ni ddeelli ei hiaith; Cenedl wyneb-galed, yr hon ni dderbyn wyneb yr hynafgwr, ac ni bydd raslon i’r llanc. A hi a fwyty ffrwyth dy anifeiliaid, a ffrwyth dy ddaear, hyd oni’th ddinistrier: yr hon ni ad i ti ŷd, gwin, nac olew, cynnydd dy wartheg, na diadellau dy ddefaid, hyd oni’th ddifetho di. A hi a warchae arnat ti yn dy holl byrth, hyd oni syrthio dy uchel a’th gedyrn gaerau, y rhai yr ydwyt yn ymddiried ynddynt, trwy dy holl dir: hi a warchae hefyd arnat yn dy holl byrth, o fewn dy holl dir yr hwn a roddodd yr ARGLWYDD dy DDUW i ti. Ffrwyth dy fru, sef cig dy feibion a’th ferched, y rhai a roddodd yr ARGLWYDD dy DDUW i ti, a fwytei yn y gwarchae, ac yn y cyfyngdra a ddwg dy elyn arnat. Y gŵr tyner yn dy blith, a’r moethus iawn, a greulona ei lygad wrth ei frawd, ac wrth wraig ei fynwes, ac wrth weddill ei feibion y rhai a weddillodd efe: Rhag rhoddi i un ohonynt o gig ei feibion, y rhai a fwyty efe; o eisiau gado iddo ddim yn y gwarchae ac yn y cyfyngdra, â’r hwn y cyfynga dy elyn arnat o fewn dy holl byrth. Y wraig dyner a’r foethus yn dy fysg, yr hon ni phrofodd osod gwadn ei throed ar y ddaear, gan fwythau a thynerwch, a greulona ei llygad wrth ŵr ei mynwes, ac wrth ei mab, ac wrth ei merch, Ac wrth ei phlentyn a ddaw allan o’i chorff, a’i meibion y rhai a blanta hi: canys hi a’u bwyty hwynt yn ddirgel, pan ballo pob dim arall yn y gwarchae ac yn y cyfyngdra, â’r hwn y cyfynga dy elyn arnat o fewn dy byrth. Oni chedwi ar wneuthur holl eiriau y gyfraith hon, y rhai sydd ysgrifenedig yn y llyfr hwn, gan ofni yr enw gogoneddus ac ofnadwy hwn, YR ARGLWYDD DY DDUW; Yna y gwna yr ARGLWYDD dy blâu di yn rhyfedd, a phlâu dy had; sef plâu mawrion a pharhaus, a chlefydau drwg a pharhaus. Ac efe a ddwg arnat holl glefydau yr Aifft, y rhai yr ofnaist rhagddynt; a glynant wrthyt. Ie, pob clefyd, a phob pla, yr hwn nid yw ysgrifenedig yn llyfr y gyfraith hon, a ddwg yr ARGLWYDD arnat, hyd oni’th ddinistrier. Felly chwi a adewir yn ychydig bobl, lle yr oeddech fel sêr y nefoedd o luosowgrwydd; oherwydd na wrandewaist ar lais yr ARGLWYDD dy DDUW. A bydd, megis ag y llawenychodd yr ARGLWYDD ynoch i wneuthur daioni i chwi, ac i’ch amlhau; felly y llawenycha yr ARGLWYDD ynoch i’ch dinistrio, ac i’ch difetha chwi: a diwreiddir chwi o’r tir yr wyt yn myned iddo i’w feddiannu. A’r ARGLWYDD a’th wasgar di ymhlith yr holl bobloedd, o’r naill gwr i’r ddaear hyd y cwr arall i’r ddaear: a thi a wasanaethi yno dduwiau dieithr, y rhai nid adnabuost ti na’th dadau; sef pren a maen. Ac ymhlith y cenhedloedd hyn ni orffwysi, ac ni bydd gorffwystra i wadn dy droed: canys yr ARGLWYDD a rydd i ti yno galon ofnus, a darfodedigaeth llygaid, a thristwch meddwl. A’th einioes a fydd ynghrog gyferbyn â thi; a thi a ofni nos a dydd, ac ni byddi sicr o’th einioes. Y bore y dywedi, O na ddeuai yr hwyr! ac yn yr hwyr y dywedi, O na ddeuai y bore! o achos ofn dy galon gan yr hwn yr ofni, a rhag gweledigaeth dy lygaid yr hon a welych. A’r ARGLWYDD a’th ddychwel di i’r Aifft, mewn llongau, ar hyd y ffordd y dywedais wrthyt, na chwanegit ei gweled mwy: a chwi a ymwerthwch yno i’ch gelynion yn gaethweision ac yn gaethforynion, ac ni bydd a’ch pryno.

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd