Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Deuteronomium 28:1-15

Deuteronomium 28:1-15 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

“Os byddwch chi wir yn ufudd i’r ARGLWYDD eich Duw, ac yn gwneud yn siŵr eich bod chi’n cadw’r gorchmynion dw i’n eu rhoi i chi heddiw, bydd e’n eich gwneud chi’n fwy enwog na’r cenhedloedd eraill i gyd. Byddwch yn derbyn llond gwlad o fendithion os byddwch chi’n ufudd iddo: Cewch eich bendithio ble bynnag dych chi’n gweithio. Bydd bendith ar eich plant, ar gynnyrch eich tir, ac ar eich anifeiliaid i gyd – bydd eich gwartheg, defaid a geifr yn cael lot o rai bach. Bydd digon o rawn yn eich basged, a digon o fwyd ar eich bwrdd. Cewch eich bendithio ble bynnag ewch chi. Bydd yr ARGLWYDD yn achosi i’r gelynion sy’n ymosod arnoch chi gael eu taro i lawr o flaen eich llygaid! Byddan nhw’n ymosod arnoch chi o un cyfeiriad, ond yn dianc i bob cyfeiriad! Bydd yr ARGLWYDD yn llenwi’ch ysguboriau chi, ac yn bendithio popeth wnewch chi – ydy, mae e’n mynd i’ch bendithio chi yn y wlad mae’n ei rhoi i chi. Bydd yr ARGLWYDD yn cadarnhau mai chi ydy’r bobl mae e wedi’u cysegru iddo’i hun, fel gwnaeth e addo, os gwnewch chi wneud beth mae e’n ddweud a byw fel mae e eisiau. Wedyn bydd pawb drwy’r byd i gyd yn gwybod mai chi ydy pobl yr ARGLWYDD, a byddan nhw’n eich parchu chi. Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud i chi lwyddo bob ffordd – cewch lot o blant, bydd eich anifeiliaid yn cael lot o rai bach, a bydd eich cnydau’n llwyddo yn y wlad wnaeth e addo i’ch hynafiaid y byddai’n ei rhoi i chi. Bydd yr ARGLWYDD yn agor ei stordai yn yr awyr, ac yn rhoi glaw yn ei dymor i’r tir. Bydd yn bendithio popeth wnewch chi. Bydd gynnoch chi ddigon i’w fenthyg i genhedloedd eraill, ond fydd dim angen benthyg arnoch chi o gwbl. Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud i chi arwain, ac nid dilyn. Byddwch chi ar y top, dim ar y gwaelod – dim ond i chi wneud yn siŵr eich bod chi’n cadw’i orchmynion e, y rhai dw i’n eu rhoi i chi heddiw. Ond rhaid i chi beidio crwydro o gwbl oddi wrth y gorchmynion dw i’n eu rhoi i chi, a pheidio mynd i addoli duwiau eraill. “Ond os byddwch chi’n gwrthod gwrando ar yr ARGLWYDD eich Duw, heb wneud yn siŵr eich bod chi’n cadw’i orchmynion a’i ganllawiau e, bydd llond gwlad o felltithion yn dod arnoch chi!

Deuteronomium 28:1-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Os byddi'n gwrando'n astud ar lais yr ARGLWYDD dy Dduw, ac yn gofalu cadw popeth y mae'n ei orchymyn iti heddiw, yna bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn dy osod yn uwch na holl genhedloedd y byd. Daw'r holl fendithion hyn i'th ran ac i'th amgylchu, dim ond iti wrando ar lais yr ARGLWYDD dy Dduw. Byddi'n derbyn bendith yn y dref ac yn y maes. Bydd bendith ar ffrwyth dy gorff, ar gnwd dy dir a'th fuches, ar gynnydd dy wartheg ac epil dy ddefaid. Bydd bendith ar dy gawell a'th badell dylino. Bydd bendith arnat wrth ddod i mewn ac wrth fynd allan. Bydd yr ARGLWYDD yn peri i'th elynion sy'n codi yn dy erbyn gael eu dryllio o'th flaen; byddant yn dod yn dy erbyn ar hyd un ffordd, ond yn ffoi rhagot ar hyd saith. Bydd yr ARGLWYDD yn gorchymyn bendith ar dy ysguboriau ac ar bopeth a wnei; bydd yn dy fendithio yn y tir y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei roi iti. Bydd yr ARGLWYDD yn dy sefydlu'n bobl sanctaidd iddo, fel yr addawodd iti, os cedwi orchmynion yr ARGLWYDD dy Dduw a rhodio yn ei ffyrdd. Fe wêl holl bobloedd y ddaear mai ar enw'r ARGLWYDD y gelwir di; a bydd dy ofn arnynt. Bydd yr ARGLWYDD yn dy lwyddo'n ardderchog yn ffrwyth dy gorff, cynnydd dy fuches, a chnwd dy dir yn y wlad yr addawodd yr ARGLWYDD i'th hynafiaid ei rhoi iti. Bydd yr ARGLWYDD yn agor y nefoedd, ystordy ei ddaioni, i roi glaw i'th dir yn ei bryd, ac i fendithio holl waith dy ddwylo; byddi'n rhoi benthyg i lawer o genhedloedd, ond heb angen benthyca dy hun. Bydd yr ARGLWYDD yn dy wneud yn ben ac nid yn gynffon, yn uchaf bob amser ac nid yn isaf, dim ond iti wrando ar orchmynion yr ARGLWYDD dy Dduw, y rhai yr wyf yn eu rhoi iti heddiw i'w cadw a'u gwneud. Paid â gwyro i'r dde na'r chwith oddi wrth yr un o'r pethau yr wyf fi'n eu gorchymyn iti heddiw, na dilyn duwiau estron i'w haddoli. Ac os na fyddi'n gwrando ar lais yr ARGLWYDD dy Dduw, i ofalu cyflawni ei holl orchmynion a'i ddeddfau, y rhai yr wyf yn eu rhoi iti heddiw, yna fe ddaw i'th ran yr holl felltithion hyn, ac fe'th amgylchant

Deuteronomium 28:1-15 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Ac os gan wrando y gwrandewi ar lais yr ARGLWYDD dy DDUW, i gadw ac i wneuthur ei holl orchmynion ef, y rhai yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i ti heddiw; yna yr ARGLWYDD dy DDUW a’th esyd yn uwch na holl genhedloedd y ddaear. A’r holl fendithion hyn a ddaw arnat, ac a’th oddiweddant, os gwrandewi ar lais yr ARGLWYDD dy DDUW. Bendigedig fyddi di yn y ddinas, a bendigedig yn y maes. Bendigedig fydd ffrwyth dy fru, a ffrwyth dy dir, a ffrwyth dy anifail di, cynnydd dy wartheg, a diadellau dy ddefaid. Bendigedig fydd dy gawell a’th does di. Bendigedig fyddi di yn dy ddyfodiad i mewn, a bendigedig yn dy fynediad allan. Rhydd yr ARGLWYDD dy elynion a ymgodant i’th erbyn yn lladdedig o’th flaen di: trwy un ffordd y deuant i’th erbyn, a thrwy saith o ffyrdd y ffoant o’th flaen. Yr ARGLWYDD a orchymyn fendith arnat ti, yn dy drysordai, ac yn yr hyn oll y dodych dy law arno; ac a’th fendithia yn y tir y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn ei roddi i ti. Yr ARGLWYDD a’th gyfyd di yn bobl sanctaidd iddo ei hun, megis y tyngodd wrthyt, os cedwi orchmynion yr ARGLWYDD dy DDUW, a rhodio yn ei ffyrdd ef. A holl bobloedd y ddaear a welant fod yn dy alw di ar enw yr ARGLWYDD, ac a ofnant rhagot. A’r ARGLWYDD a’th lwydda di mewn daioni, yn ffrwyth dy fru, ac yn ffrwyth dy anifeiliaid, ac yn ffrwyth dy ddaear, yn y tir a dyngodd yr ARGLWYDD i’th dadau ar ei roddi i ti. Yr ARGLWYDD a egyr ei drysor daionus i ti, sef y nefoedd, i roddi glaw i’th dir di yn ei amser, ac i fendigo holl waith dy law: a thi a roddi echwyn i genhedloedd lawer, ac ni cheisi echwyn. A’r ARGLWYDD a’th wna di yn ben, ac nid yn gynffon; hefyd ti a fyddi yn uchaf yn unig, ac nid yn isaf: os gwrandewi ar orchmynion yr ARGLWYDD dy DDUW, y rhai yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddiw, i’w cadw, ac i’w gwneuthur; Ac heb gilio ohonot oddi wrth yr holl eiriau yr wyf fi yn eu gorchymyn i chwi heddiw, i’r tu deau neu i’r tu aswy, gan fyned ar ôl duwiau dieithr, i’w gwasanaethu hwynt. A bydd, oni wrandewi ar lais yr ARGLWYDD dy DDUW, gan gadw a gwneuthur ei holl orchmynion ef a’i ddeddfau, y rhai yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddiw; y daw arnat yr holl felltithion hyn, ac y’th oddiweddant.