Deuteronomium 26:16-19
Deuteronomium 26:16-19 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Heddiw, mae’r ARGLWYDD yn gorchymyn i chi gadw’r rheolau a’r canllawiau yma, a gwneud hynny â’ch holl galon ac â’ch holl enaid. Heddiw, dych chi wedi datgan mai’r ARGLWYDD ydy’ch Duw chi, ac y gwnewch chi fyw fel mae e eisiau i chi fyw, cadw ei reolau, ei orchmynion a’i ganllawiau, a gwrando arno. Heddiw, mae’r ARGLWYDD wedi cyhoeddi mai chi ydy’i bobl e – ei drysor sbesial, fel gwnaeth e addo. Felly dylech gadw’i orchmynion e. Duw sydd wedi gwneud y cenhedloedd, ond bydd e’n eich gwneud chi’n fwy enwog na nhw i gyd. Bydd pobl yn eich canmol chi a’ch anrhydeddu chi. Fel gwnaeth e addo, byddwch chi’n bobl wedi’ch cysegru i’r ARGLWYDD eich Duw.”
Deuteronomium 26:16-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Y dydd hwn y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn gorchymyn iti gadw'r rheolau a'r deddfau hyn, a gofalu eu cyflawni â'th holl galon ac â'th holl enaid. Yr wyt yn cydnabod heddiw mai'r ARGLWYDD yw dy Dduw ac y byddi'n rhodio yn ei lwybrau ac yn cadw ei reolau, ei orchmynion a'i ddeddfau, ac yn ufuddhau iddo. Y mae'r ARGLWYDD yntau yn cydnabod wrthyt heddiw dy fod yn bobl arbennig iddo'i hun, fel yr addawodd wrthyt, ond iti gadw ei holl orchmynion. Bydd yn dy osod yn uwch o ran clod, enw ac anrhydedd na'r holl genhedloedd a greodd, ac yn bobl gysegredig i'r ARGLWYDD dy Dduw, fel y dywedodd.
Deuteronomium 26:16-19 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Y dydd hwn y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn gorchymyn i ti wneuthur y deddfau hyn a’r barnedigaethau: cadw dithau a gwna hwynt â’th holl galon, ac â’th holl enaid. Cymeraist yr ARGLWYDD heddiw i fod yn DDUW i ti, ac i rodio yn ei ffyrdd ef, ac i gadw ei ddeddfau, a’i orchmynion, a’i farnedigaethau, ac i wrando ar ei lais ef. Cymerodd yr ARGLWYDD dithau heddiw i fod yn bobl briodol iddo ef, megis y llefarodd wrthyt, ac i gadw ohonot ei holl orchmynion: Ac i’th wneuthur yn uchel goruwch yr holl genhedloedd a wnaeth efe, mewn clod, ac mewn enw, ac mewn gogoniant; ac i fod ohonot yn bobl sanctaidd i’r ARGLWYDD dy DDUW, megis y llefarodd efe.