Deuteronomium 21:18-21
Deuteronomium 21:18-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Os bydd gan rywun fab gwrthnysig ac anufudd, na fyn wrando ar ei dad na'i fam, hyd yn oed pan fyddant yn ei geryddu, y mae ei dad a'i fam i afael ynddo a'i ddwyn gerbron yr henuriaid ym mhorth ei dref, a dweud wrthynt, “Y mae'r mab hwn yn wrthnysig ac anufudd; ni fyn wrando arnom, ac y mae'n un glwth ac yn feddwyn.” Yna bydd holl drigolion ei dref yn ei labyddio'n gelain â cherrig. Felly byddi'n dileu'r drwg o'ch plith, a bydd Israel gyfan yn clywed ac yn ofni.
Deuteronomium 21:18-21 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ond o bydd i ŵr fab cyndyn ac anufudd, heb wrando ar lais ei dad, neu ar lais ei fam; a phan geryddant ef, ni wrendy arnynt: Yna ei dad a’i fam a ymaflant ynddo, ac a’i dygant at henuriaid ei ddinas, ac i borth ei drigfan; A dywedant wrth henuriaid ei ddinas ef, Ein mab hwn sydd gyndyn ac anufudd, heb wrando ar ein llais; glwth a meddwyn yw efe. Yna holl ddynion ei ddinas a’i llabyddiant ef â meini, fel y byddo farw: felly y tynni ymaith y drwg o’th fysg; a holl Israel a glywant, ac a ofnant.