Deuteronomium 16:16
Deuteronomium 16:16 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Felly dair gwaith bob blwyddyn, mae’r dynion i gyd i fynd o flaen yr ARGLWYDD eich Duw yn y lle mae e wedi’i ddewis – ar Ŵyl y Bara Croyw, Gŵyl y Cynhaeaf, a Gŵyl y Pebyll. A rhaid iddyn nhw fynd â rhywbeth i’w offrymu bob tro.
Rhanna
Darllen Deuteronomium 16Deuteronomium 16:16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Teirgwaith y flwyddyn y mae dy holl wrywod i ymddangos gerbron yr ARGLWYDD dy Dduw yn y man y bydd ef yn ei ddewis, sef ar ŵyl y Bara Croyw, ar ŵyl yr Wythnosau ac ar ŵyl y Pebyll. Nid yw neb i ymddangos gerbron yr ARGLWYDD yn waglaw
Rhanna
Darllen Deuteronomium 16Deuteronomium 16:16 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Tair gwaith yn y flwyddyn yr ymddengys pob gwryw ohonot o flaen yr ARGLWYDD dy DDUW, yn y lle a ddewiso efe; ar ŵyl y bara croyw, ac ar ŵyl yr wythnosau, ac ar ŵyl y pebyll: ond nac ymddangosed neb o flaen yr ARGLWYDD yn waglaw.
Rhanna
Darllen Deuteronomium 16