Deuteronomium 15:1-11
Deuteronomium 15:1-11 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Ar ddiwedd pob saith mlynedd, rhaid cyhoeddi fod dyledion yn cael eu canslo. Dyma beth sydd i ddigwydd: Rhaid i’r credydwr ddileu unrhyw ddyledion sydd gan bobl eraill iddo. Ddylai e ddim gorfodi run o’i gydwladwyr yn Israel i dalu’r ddyled. Mae’r amser i ganslo dyledion wedi dechrau. Gallwch hawlio ad-daliad gan bobl o’r tu allan, ond mae dyledion eich cyd-Israeliaid i gael eu canslo. “Ddylai neb fod mewn angen yn eich plith chi, am fod yr ARGLWYDD yn mynd i’ch bendithio chi yn y wlad mae’n ei rhoi i chi, os byddwch chi’n ufudd ac yn cadw’r holl orchmynion dw i’n eu rhoi i chi heddiw. Bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn eich bendithio, fel gwnaeth e addo. Bydd pobl Israel yn benthyg i wledydd eraill, ond ddim yn gorfod benthyca gan unrhyw un. Bydd Israel yn rheoli gwledydd eraill, ond fyddan nhw ddim yn eich rheoli chi. “Os bydd un o bobl Israel, sy’n byw yn un o’ch pentrefi chi, mewn angen, peidiwch bod yn galon-galed ac yn grintachlyd. Yn lle hynny, byddwch yn garedig ac yn hael, a benthyg beth bynnag sydd arno’i angen. Gwnewch yn siŵr eich bod chi ddim yn meddwl pethau drwg pan mae’r seithfed flwyddyn (sef blwyddyn canslo dyledion) yn agosáu. Peidiwch meithrin agwedd anghywir tuag at eich cyd-Israeliad sydd mewn angen, a gwrthod benthyg iddo. Bydd e’n cwyno i’r ARGLWYDD amdanoch chi, a byddwch chi wedi pechu. Dylech chi fod yn frwd i’w helpu, a pheidio bod yn flin eich bod wedi gwneud hynny. Bydd yr ARGLWYDD yn talu’n ôl i chi, ac yn bendithio popeth wnewch chi. Bydd yna bobl dlawd yn y wlad bob amser, a dyna pam dw i’n dweud wrthoch chi am fod yn hael tuag at eich cydwladwyr tlawd.
Deuteronomium 15:1-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ar ddiwedd pob saith mlynedd yr wyt i ddileu dyledion. Dyma sut y gwneir hynny: bydd pob echwynnwr yn dileu pob dyled sy'n ddyledus iddo, heb bwyso am ad-daliad oddi wrth gymydog na pherthynas, pan gyhoeddir yn enw'r ARGLWYDD ei bod yn bryd dileu dyledion. Cei bwyso am ad-daliad gan estron, ond yr wyt i ddileu beth bynnag sy'n ddyledus iti gan dy berthynas. Ni fydd byth dlotyn yn eich plith, oherwydd y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn sicr o'th fendithio yn y wlad y mae'n ei rhoi iti i'w meddiannu'n etifeddiaeth, ond iti wrando'n ofalus ar lais yr ARGLWYDD dy Dduw, i gadw'n ddyfal yr holl orchymyn hwn yr wyf fi yn ei roi iti heddiw. A phan fydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn dy fendithio, fel yr addawodd iti, yna byddi di'n rhoi benthyg i genhedloedd lawer, heb i ti fenthyca gan neb; a byddi'n rheoli cenhedloedd lawer, heb iddynt hwy dy reoli di. Os bydd un yn dlawd ymhlith dy berthnasau yn un o'th drefi yn y wlad y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei rhoi iti, paid â chaledu dy galon na chau dy law yn ei erbyn. Yn hytrach agor dy law yn llydan iddo, ac ar bob cyfrif rho'n fenthyg iddo ddigon ar gyfer ei angen. Pan fydd y seithfed flwyddyn, blwyddyn dileu dyledion, yn agosáu, gwylia rhag coleddu meddyliau annheilwng ac edrych yn gas ar dy berthynas tlawd a gwrthod rhoi iddo; bydd yntau wedyn yn apelio at yr ARGLWYDD yn dy erbyn, ac fe'th geir yn euog o bechod. Rho'n hael iddo, heb warafun yn dy galon wrth roi, ac oherwydd hyn bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn dy fendithio yn dy holl waith ac ym mhopeth a wnei. Ni fydd prinder tlodion yn y tir; dyna pam yr wyf yn gorchymyn iti agor dy law yn hael i'th berthynas anghenus a thlawd yn dy wlad.
Deuteronomium 15:1-11 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ymhen pob saith mlynedd gwna ollyngdod. A dyma wedd y gollyngdod. Gollynged pob echwynnwr i’w gymydog yn rhydd ei echwyn a echwynnodd efe: na fynned hynny drachefn gan ei gymydog, neu ei frawd; canys cyhoeddwyd gollyngdod yr ARGLWYDD. Ti a elli fynnu drachefn gan y dieithr; ond gollynged dy law yn rhydd yr hyn sydd i ti gyda’th frawd: Megis na byddo ohonot ti gardotyn: canys yr ARGLWYDD gan fendithio a’th fendithia di, yn y tir y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn ei roddi i ti yn etifeddiaeth i’w feddiannu; Yn unig os gan wrando y gwrandewi ar lais yr ARGLWYDD dy DDUW, gan gadw a gwneuthur yr holl orchmynion yma, y rhai yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i ti heddiw. Canys yr ARGLWYDD dy DDUW a’th fendithia, megis y llefarodd wrthyt, fel y benthyciech i genhedloedd lawer, ac na fenthyciech di ganddynt; ti hefyd a arglwyddiaethi ar genhedloedd lawer, ac nid arglwyddiaethant hwy arnat ti. Os bydd yn dy fysg di un o’th frodyr yn dlawd o fewn un o’th byrth, yn dy dir yr hwn y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn ei roddi i ti, na chaleda dy galon, ac na chae dy law oddi wrth dy frawd tlawd: Ond gan agoryd agor dy law iddo, a chan fenthycio benthycia ddigon i’w angen ef, yr hyn fyddo arno ei eisiau. Gwylia arnat, rhag bod yn dy galon ddrwg feddwl i ddywedyd, Agos yw’r seithfed flwyddyn, blwyddyn y gollyngdod; a bod dy lygad yn ddrwg yn erbyn dy frawd tlawd, rhag rhoddi iddo, a llefain ohono ef ar yr ARGLWYDD rhagot, a’i fod yn bechod i ti. Gan roddi dod iddo, ac na fydded drwg gan dy galon pan roddych iddo: canys o achos y peth hyn y’th fendithia yr ARGLWYDD dy DDUW yn dy holl waith, ac yn yr hyn oll y dodych dy law arno. Canys ni dderfydd y tlawd o ganol y tir: am hynny yr ydwyf fi yn gorchymyn i ti, gan ddywedyd, Gan agoryd agor dy law i’th frawd, i’th anghenus ac i’th dlawd, yn dy dir.