Deuteronomium 13:1-3
Deuteronomium 13:1-3 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Falle bydd proffwyd neu rywun sy’n cael gweledigaethau drwy freuddwydion yn dod atoch chi ac yn dweud fod gwyrth ryfeddol yn mynd i ddigwydd. Hyd yn oed os ydy’r wyrth yn digwydd, a’r proffwyd yn ceisio’ch cael chi i addoli duwiau eraill (eilun-dduwiau oeddech chi’n gwybod dim amdanyn nhw o’r blaen), peidiwch gwrando arno. Mae’r ARGLWYDD yn eich rhoi chi ar brawf, i weld os ydych chi wir yn ei garu â’ch holl galon ac â’ch holl enaid.
Deuteronomium 13:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Os cyfyd yn eich plith broffwyd neu un yn cael breuddwydion, a rhoi ichwi arwydd neu argoel, a hynny'n digwydd fel y dywedodd wrthych, ac yntau wedyn yn eich annog i fynd ac addoli duwiau estron nad ydych yn eu hadnabod, nid ydych i wrando ar eiriau'r proffwyd neu'r breuddwydiwr hwnnw, oherwydd eich profi chwi y mae'r ARGLWYDD eich Duw i gael gwybod a ydych yn ei garu â'ch holl galon ac â'ch holl enaid.
Deuteronomium 13:1-3 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Pan godo yn dy fysg di broffwyd, neu freuddwydydd breuddwyd, (a rhoddi i ti arwydd neu ryfeddod, A dyfod i ben o’r arwydd, neu’r rhyfeddod a lefarodd efe wrthyt,) gan ddywedyd, Awn ar ôl duwiau dieithr, (y rhai nid adwaenost,) a gwasanaethwn hwynt; Na wrando ar eiriau y proffwyd hwnnw, neu ar y breuddwydydd breuddwyd hwnnw: canys yr ARGLWYDD eich DUW sydd yn eich profi chwi, i wybod a ydych yn caru’r ARGLWYDD eich DUW â’ch holl galon, ac â’ch holl enaid.