Deuteronomium 11:26-28
Deuteronomium 11:26-28 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Gwrandwch yn ofalus – dw i’n rhoi dewis i chi, rhwng bendith a melltith. Bendith gewch chi os byddwch chi’n ufudd i orchmynion yr ARGLWYDD. Ond melltith gewch chi os byddwch chi’n cymryd dim sylw o’i orchmynion, yn troi cefn ar y ffordd dw i’n ei gosod o’ch blaen chi, ac yn addoli eilun-dduwiau dych chi’n gwybod dim amdanyn nhw.
Deuteronomium 11:26-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gwelwch, yr wyf yn gosod ger eich bron heddiw fendith a melltith: bendith os gwrandewch ar orchmynion yr ARGLWYDD eich Duw, yr wyf yn eu rhoi ichwi heddiw; ond melltith os na fyddwch yn gwrando ar orchmynion yr ARGLWYDD eich Duw, eithr yn troi o'r ffordd yr wyf fi yn ei gorchymyn ichwi heddiw, i ddilyn duwiau estron nad ydych yn eu hadnabod.
Deuteronomium 11:26-28 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Wele, rhoddi yr ydwyf fi o’ch blaen chwi heddiw fendith a melltith: Bendith, os gwrandewch ar orchmynion yr ARGLWYDD eich DUW y rhai yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i chwi heddiw; A melltith, oni wrandewch ar orchmynion yr ARGLWYDD eich DUW, ond cilio ohonoch allan o’r ffordd yr ydwyf fi yn ei gorchymyn i chwi heddiw, i fyned ar ôl duwiau dieithr, y rhai nid adnabuoch