Deuteronomium 11:13-14
Deuteronomium 11:13-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ac os byddwch yn gwrando o ddifrif ar fy ngorchmynion, yr wyf yn eu rhoi ichwi heddiw, i garu'r ARGLWYDD eich Duw a'i wasanaethu â'ch holl galon ac â'ch holl enaid, yna byddaf yn anfon glaw yn ei bryd ar gyfer eich tir yn yr hydref a'r gwanwyn, a byddwch yn medi eich ŷd, eich gwin newydd a'ch olew
Deuteronomium 11:13-14 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Os gwrandwch chi’n ofalus ar y gorchmynion dw i’n eu rhoi i chi heddiw, a charu’r ARGLWYDD eich Duw â’ch holl galon ac â’ch holl enaid, mae e’n addo ‘Bydda i’n anfon glaw ar y tir ar yr amser iawn, sef yn yr hydref a’r gwanwyn, er mwyn i chi gasglu’ch cnydau o ŷd a grawnwin ac olewydd.
Deuteronomium 11:13-14 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A bydd, os gan wrando y gwrandewch ar fy ngorchmynion, y rhai yr ydwyf yn eu gorchymyn i chwi heddiw, i garu yr ARGLWYDD eich DUW, ac i’w wasanaethu, â’ch holl galon, ac â’ch holl enaid; Yna y rhoddaf law i’ch tir yn ei amser, sef y cynnar-law, a’r diweddar-law; fel y casglech dy ŷd, a’th win, a’th olew