Daniel 9:3-5
Daniel 9:3-5 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Felly dyma fi’n troi at Dduw, y Meistr, a pledio arno mewn gweddi. Rôn i’n ymprydio, yn gwisgo sachliain, ac wedi rhoi lludw ar fy mhen. Rôn i’n gweddïo ar yr ARGLWYDD fy Nuw, a chyffesu, “O Feistr, plîs! Ti ydy’r Duw mawr a rhyfeddol! Ti’n Dduw ffyddlon sy’n cadw dy ymrwymiad i’r bobl sy’n dy garu ac sy’n ufudd i ti. Ond dŷn ni wedi pechu a gwneud beth sy’n ddrwg. Dŷn ni wedi gwrthryfela, ac wedi troi cefn ar dy orchmynion di a dy safonau di.
Daniel 9:3-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna trois at yr Arglwydd Dduw mewn gweddi daer ac ymbil, gydag ympryd a sachliain a lludw. Gweddïais ar yr ARGLWYDD fy Nuw a chyffesu a dweud, “O Arglwydd, y Duw mawr ac ofnadwy, sy'n cadw cyfamod ac sy'n ffyddlon i'r rhai sy'n ei garu ac yn cadw ei orchmynion, yr ydym wedi pechu a gwneud camwedd a drwg, ac wedi gwrthryfela ac anwybyddu d'orchmynion a'th ddeddfau.
Daniel 9:3-5 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yna y troais fy wyneb at yr Arglwydd DDUW, i geisio trwy weddi ac ymbil, ynghyd ag ympryd, a sachliain, a lludw. A gweddïais ar yr ARGLWYDD fy NUW, a chyffesais, a dywedais, Atolwg, Arglwydd DDUW mawr ac ofnadwy, ceidwad cyfamod a thrugaredd i’r rhai a’i carant, ac i’r rhai a gadwant ei orchmynion; Pechasom, a gwnaethom gamwedd, a buom anwir, gwrthryfelasom hefyd, sef trwy gilio oddi wrth dy orchmynion, ac oddi wrth dy farnedigaethau.