Daniel 9:1-19
Daniel 9:1-19 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma Dareius o Media, mab Ahasferus, yn cael ei wneud yn frenin ar Ymerodraeth Babilon. Yn ystod blwyddyn gyntaf ei deyrnasiad roeddwn i, Daniel, wedi bod yn darllen yr ysgrifau sanctaidd. Dyma fi’n gweld fod yr ARGLWYDD wedi dweud wrth y proffwyd Jeremeia y byddai Jerwsalem yn adfeilion am saith deg o flynyddoedd. Felly dyma fi’n troi at Dduw, y Meistr, a pledio arno mewn gweddi. Rôn i’n ymprydio, yn gwisgo sachliain, ac wedi rhoi lludw ar fy mhen. Rôn i’n gweddïo ar yr ARGLWYDD fy Nuw, a chyffesu, “O Feistr, plîs! Ti ydy’r Duw mawr a rhyfeddol! Ti’n Dduw ffyddlon sy’n cadw dy ymrwymiad i’r bobl sy’n dy garu ac sy’n ufudd i ti. Ond dŷn ni wedi pechu a gwneud beth sy’n ddrwg. Dŷn ni wedi gwrthryfela, ac wedi troi cefn ar dy orchmynion di a dy safonau di. Dŷn ni wedi gwrthod gwrando ar dy weision, y proffwydi. Roedden nhw wedi siarad ar dy ran di gyda’n brenhinoedd ni a’n harweinwyr, ein hynafiaid a’n pobl i gyd. “Feistr, rwyt ti wedi gwneud popeth yn iawn, ond does gynnon ni ddim ond lle i gywilyddio – pobl Jwda a Jerwsalem, pobl Israel i gyd – y bobl sydd ar chwâl drwy’r gwledydd lle rwyt ti wedi’u gyrru nhw am iddyn nhw dy fradychu di. O ARGLWYDD, cywilydd arnon ni! – cywilydd ar ein brenhinoedd a’n harweinwyr a’n hynafiaid i gyd. Dŷn ni wedi pechu yn dy erbyn di. Ond rwyt ti, ein Duw a’n Meistr ni, yn Dduw trugarog sy’n maddau, er ein bod ni wedi gwrthryfela yn dy erbyn. Wnaethon ni ddim talu sylw pan oeddet ti’n ein dysgu ni drwy dy weision y proffwydi, ac yn dweud wrthon ni sut ddylen ni fyw. “Mae pobl Israel i gyd wedi mynd yn rhy bell, ac wedi troi cefn arnat ti a diystyru beth roeddet ti’n ddweud. Felly mae’r felltith roeddet ti wedi’n rhybuddio ni amdani mor ddifrifol yng Nghyfraith Moses wedi digwydd, am ein bod ni wedi pechu yn dy erbyn di. Ti wedi gwneud beth roeddet ti wedi’i fygwth i ni a’n harweinwyr. Mae wedi bod yn drychineb ofnadwy. Does erioed y fath drwbwl wedi bod yn unman ag a ddigwyddodd yn Jerwsalem. Mae wedi digwydd yn union fel mae cyfraith Moses yn dweud. Ac eto dŷn ni ddim wedi gwneud pethau’n iawn gyda’r ARGLWYDD ein Duw drwy droi cefn ar ein pechod a chydnabod dy fod ti’n ffyddlon. Roedd yr ARGLWYDD yn gwybod beth roedd e’n wneud, a daeth â’r dinistr arnon ni. Mae popeth mae’r ARGLWYDD yn ei wneud yn iawn, a doedden ni ddim wedi gwrando arno. “Felly, o Dduw ein Meistr ni, sy’n enwog hyd heddiw am dy gryfder yn arwain dy bobl allan o wlad yr Aifft: dŷn ni wedi pechu a gwneud drwg. O Feistr, rwyt ti bob amser yn gwneud beth sy’n iawn; plîs stopia fod yn wyllt gyda dy ddinas, Jerwsalem, a’r mynydd rwyt wedi’i gysegru. Am ein bod ni wedi pechu, a’n hynafiaid wedi gwneud cymaint o ddrwg, dydy Jerwsalem a dy bobl di yn ddim byd ond testun sbort i bawb o’u cwmpas nhw! Felly, o Dduw, gwrando ar dy was yn pledio a gweddïo arnat ti. Er dy fwyn dy hun wnei di edrych yn garedig eto ar dy deml sydd wedi’i dinistrio. O Dduw, gwrando’n astud ar beth dw i’n ofyn. Edrych ar stad y ddinas yma sy’n cael ei chysylltu â dy enw di! Dŷn ni ddim yn gweddïo fel yma am ein bod ni’n honni ein bod wedi gwneud beth sy’n iawn, ond am dy fod ti mor anhygoel o drugarog. O Feistr, gwrando! O Feistr, maddau! O Feistr, edrych a gwna rywbeth! O Dduw, paid oedi – er dy fwyn dy hun! Er mwyn dy ddinas, a’r bobl sy’n cael eu cysylltu â dy enw di.”
Daniel 9:1-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Daeth Dareius fab Ahasferus o linach y Mediaid yn frenin ar deyrnas y Caldeaid. Ym mlwyddyn gyntaf ei deyrnasiad, yr oeddwn i, Daniel, yn chwilio'r llyfrau ynglŷn â'r hyn a ddywedodd yr ARGLWYDD wrth Jeremeia'r proffwyd am nifer y blynyddoedd hyd derfyn dinistr Jerwsalem, sef deng mlynedd a thrigain. Yna trois at yr Arglwydd Dduw mewn gweddi daer ac ymbil, gydag ympryd a sachliain a lludw. Gweddïais ar yr ARGLWYDD fy Nuw a chyffesu a dweud, “O Arglwydd, y Duw mawr ac ofnadwy, sy'n cadw cyfamod ac sy'n ffyddlon i'r rhai sy'n ei garu ac yn cadw ei orchmynion, yr ydym wedi pechu a gwneud camwedd a drwg, ac wedi gwrthryfela ac anwybyddu d'orchmynion a'th ddeddfau. Ni wrandawsom ar dy weision y proffwydi, a fu'n llefaru yn dy enw wrth ein brenhinoedd a'n tywysogion a'n hynafiaid, ac wrth holl bobl y wlad. I ti, Arglwydd, y perthyn cyfiawnder; ond heddiw fel erioed, cywilydd sydd i ni, bobl Jwda a thrigolion Jerwsalem a holl Israel, yn agos ac ymhell, ym mhob gwlad lle'r alltudiwyd hwy am iddynt dy fradychu. O ARGLWYDD, cywilydd sydd i ni, i'n brenhinoedd a'n tywysogion a'n hynafiaid, am inni bechu yn dy erbyn. Ond y mae trugaredd a maddeuant gan yr Arglwydd ein Duw, er inni wrthryfela yn ei erbyn a gwrthod gwrando ar lais yr ARGLWYDD ein Duw i ddilyn ei gyfreithiau, a roddodd inni trwy ei weision y proffwydi. Y mae holl Israel wedi torri dy gyfraith a gwrthod gwrando ar dy lais; ac am inni bechu yn ei erbyn tywalltwyd arnom y felltith a'r llw sy'n ysgrifenedig yng nghyfraith Moses gwas Duw. Cyflawnodd yr hyn a ddywedodd amdanom ni ac am ein barnwyr trwy ddwyn dinistr mawr arnom, oherwydd ni ddigwyddodd yn unman ddim tebyg i'r hyn a ddigwyddodd yn Jerwsalem. Daeth y dinistr hwn arnom, fel y mae'n ysgrifenedig yng nghyfraith Moses; eto nid ydym wedi ymbil ar yr ARGLWYDD ein Duw trwy droi oddi wrth ein camweddau ac ystyried dy wirionedd di. Cadwodd yr ARGLWYDD olwg ar y dinistr hwn nes dod ag ef arnom, am fod yr ARGLWYDD ein Duw yn gyfiawn yn ei holl weithredoedd, a ninnau heb wrando ar ei lais. “Ac yn awr, O Arglwydd ein Duw, sydd wedi achub dy bobl o wlad yr Aifft â llaw gref a gwneud enw i ti dy hun hyd heddiw, yr ydym ni wedi pechu a gwneud drygioni. O Arglwydd, yn unol â'th holl weithredoedd cyfiawn, erfyniwn arnat i droi dy lid a'th ddigofaint oddi wrth dy ddinas Jerwsalem, dy fynydd sanctaidd, oherwydd am ein pechodau ni ac am gamweddau ein hynafiaid y mae Jerwsalem a'th bobl yn wawd i bawb o'n cwmpas. Ac yn awr, ein Duw, gwrando ar weddi ac ymbil dy was, ac er dy fwyn dy hun pâr i'th wyneb ddisgleirio ar dy gysegr anghyfannedd. Fy Nuw, gostwng dy glust a gwrando; agor dy lygaid ac edrych ar ein hanrhaith ac ar y ddinas y gelwir dy enw arni; nid oherwydd ein cyfiawnder ein hunain yr ydym yn ymbil o'th flaen, ond oherwydd dy aml drugareddau di. Gwrando, O Arglwydd! Trugarha, O Arglwydd! Gwrando, O Arglwydd, a gweithreda! Er dy fwyn dy hun, fy Nuw, paid ag oedi, oherwydd dy enw di sydd ar dy ddinas ac ar dy bobl.”
Daniel 9:1-19 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yn y flwyddyn gyntaf i Dareius mab Ahasferus, o had y Mediaid, yr hwn a wnaethid yn frenin ar deyrnas y Caldeaid, Yn y flwyddyn gyntaf o’i deyrnasiad ef, myfi Daniel a ddeellais wrth lyfrau rifedi y blynyddoedd, am y rhai y daethai gair yr ARGLWYDD at Jeremeia y proffwyd, y cyflawnai efe ddeng mlynedd a thrigain yn anghyfanhedd-dra Jerwsalem. Yna y troais fy wyneb at yr Arglwydd DDUW, i geisio trwy weddi ac ymbil, ynghyd ag ympryd, a sachliain, a lludw. A gweddïais ar yr ARGLWYDD fy NUW, a chyffesais, a dywedais, Atolwg, Arglwydd DDUW mawr ac ofnadwy, ceidwad cyfamod a thrugaredd i’r rhai a’i carant, ac i’r rhai a gadwant ei orchmynion; Pechasom, a gwnaethom gamwedd, a buom anwir, gwrthryfelasom hefyd, sef trwy gilio oddi wrth dy orchmynion, ac oddi wrth dy farnedigaethau. Ni wrandawsom chwaith ar y proffwydi dy weision, y rhai a lefarasant yn dy enw di wrth ein brenhinoedd, ein tywysogion, ein tadau, ac wrth holl bobl y tir. I ti, ARGLWYDD, y perthyn cyfiawnder, ond i ni gywilydd wynebau, megis heddiw; i wŷr Jwda, ac i drigolion Jerwsalem, ac i holl Israel, yn agos ac ymhell, trwy yr holl wledydd lle y gyrraist hwynt, am eu camwedd a wnaethant i’th erbyn. ARGLWYDD, y mae cywilydd wynebau i ni, i’n brenhinoedd, i’n tywysogion, ac i’n tadau, oherwydd i ni bechu i’th erbyn. Gan yr ARGLWYDD ein DUW y mae trugareddau a maddeuant, er gwrthryfelu ohonom i’w erbyn. Ni wrandawsom chwaith ar lais yr ARGLWYDD ein DUW, i rodio yn ei gyfreithiau ef, y rhai a roddodd efe o’n blaen ni trwy law ei weision y proffwydi. Ie, holl Israel a droseddasant dy gyfraith di, sef trwy gilio rhag gwrando ar dy lais di: am hynny y tywalltwyd arnom ni y felltith a’r llw a ysgrifennwyd yng nghyfraith Moses gwasanaethwr DUW, am bechu ohonom yn ei erbyn ef. Ac efe a gyflawnodd ei eiriau y rhai a lefarodd efe yn ein herbyn ni, ac yn erbyn ein barnwyr y rhai a’n barnent, gan ddwyn arnom ni ddialedd mawr; canys ni wnaethpwyd dan yr holl nefoedd megis y gwnaethpwyd ar Jerwsalem. Megis y mae yn ysgrifenedig yng nghyfraith Moses y daeth yr holl ddrygfyd hyn arnom ni: eto nid ymbiliasom o flaen yr ARGLWYDD ein DUW, gan droi oddi wrth ein hanwiredd, a chan ddeall dy wirionedd di. Am hynny y gwyliodd yr ARGLWYDD ar y dialedd, ac a’i dug arnom ni; oherwydd cyfiawn yw yr ARGLWYDD ein DUW yn ei holl weithredoedd y mae yn eu gwneuthur: canys ni wrandawsom ni ar ei lais ef. Eto yr awr hon, O ARGLWYDD ein DUW, yr hwn a ddygaist dy bobl allan o wlad yr Aifft â llaw gref, ac a wnaethost i ti enw megis heddiw, nyni a bechasom, ni a wnaethom anwiredd. O ARGLWYDD, yn ôl dy holl gyfiawnderau, atolwg, troer dy lidiowgrwydd a’th ddicter oddi wrth dy ddinas Jerwsalem, dy fynydd sanctaidd; oherwydd am ein pechodau, ac am anwireddau ein tadau, y mae Jerwsalem a’th bobl yn waradwydd i bawb o’n hamgylch. Ond yr awr hon gwrando, O ein DUW ni, ar weddi dy was, ac ar ei ddeisyfiadau, a llewyrcha dy wyneb ar dy gysegr anrheithiedig, er mwyn yr ARGLWYDD. Gostwng dy glust, O fy NUW, a chlyw; agor dy lygaid, a gwêl ein hanrhaith ni, a’r ddinas y gelwir dy enw di arni: oblegid nid oherwydd ein cyfiawnderau ein hun yr ydym ni yn tywallt ein gweddïau ger dy fron, eithr oherwydd dy aml drugareddau di. Clyw, ARGLWYDD; arbed, ARGLWYDD; ystyr, O ARGLWYDD, a gwna; nac oeda, er dy fwyn dy hun, O fy NUW: oherwydd dy enw di a alwyd ar y ddinas hon, ac ar dy bobl.