Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Daniel 7:1-28

Daniel 7:1-28 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Yn ystod blwyddyn gyntaf teyrnasiad Belshasar, brenin Babilon, cafodd Daniel freuddwyd – gweledigaeth tra oedd yn cysgu yn ei wely. Ysgrifennodd grynodeb o’r freuddwyd. “Yn y weledigaeth ges i y noson honno roedd storm fawr ar y môr, a gwyntoedd yn chwythu o bob cyfeiriad. A dyma bedwar creadur mawr yn codi allan o’r môr, pob un ohonyn nhw’n wahanol i’w gilydd. “Roedd y cyntaf yn edrych fel llew, ond gydag adenydd fel eryr. Tra oeddwn i’n edrych, cafodd yr adenydd eu rhwygo oddi arno. Yna cafodd ei godi nes ei fod yn sefyll ar ei draed fel person dynol, a chafodd feddwl dynol. “Wedyn dyma fi’n gweld ail greadur – un gwahanol. Roedd hwn yn edrych fel arth. Roedd yn symud o ochr i ochr, ac roedd ganddo dair asen yn ei geg, rhwng ei ddannedd. A dyma lais yn dweud wrtho, ‘Dos! Ymosod, a llarpio llawer o bobl!’ “Yna, wrth i mi edrych, dyma greadur arall yn dod i’r golwg. Roedd hwn yn edrych fel llewpard, ond roedd ganddo bedair o adenydd ar ei gefn, fel adenydd adar. Roedd gan y creadur yma bedwar pen, a chafodd awdurdod i lywodraethu. “Wedyn, yn y weledigaeth ges i y noson honno, dyma bedwerydd creadur yn dod i’r golwg. Roedd hwn yn un erchyll, dychrynllyd, ac yn ofnadwy o gryf. Roedd ganddo ddwy res o ddannedd haearn. Roedd yn llarpio a chnoi, a sathru beth bynnag oedd ar ôl dan draed. Roedd yn hollol wahanol i’r creaduriaid eraill, ac roedd ganddo ddeg corn. “Tra oeddwn i’n edrych ar y cyrn, dyma gorn arall – un bach – yn codi rhyngddyn nhw. Dyma dri o’r cyrn eraill yn cael eu gwthio o’u gwraidd i wneud lle i’r un bach. Roedd gan y corn yma lygaid tebyg i lygaid person dynol, a cheg oedd yn brolio pethau mawr. Wrth i mi syllu, cafodd gorseddau eu gosod i fyny, a dyma’r Un Hynafol yn eistedd. Roedd ei ddillad yn wyn fel eira, a’i wallt fel gwlân oen. Roedd ei orsedd yn fflamau tân, a’i holwynion yn wenfflam. Roedd afon o dân yn llifo allan oddi wrtho. Roedd miloedd ar filoedd yn ei wasanaethu, a miliynau lawer yn sefyll o’i flaen. Eisteddodd y llys, ac agorwyd y llyfrau. “Rôn i’n dal i edrych wrth i’r corn bach ddal ati i frolio pethau mawr. Ac wrth i mi edrych dyma’r pedwerydd creadur yn cael ei ladd a’i daflu i’r tân. (Cafodd yr awdurdod i lywodraethu ei gymryd oddi ar y creaduriaid eraill, er eu bod wedi cael byw am gyfnod ar ôl hynny.) Yn fy ngweledigaeth y noson honno, gwelais un oedd yn edrych fel person dynol yn dod ar gymylau’r awyr. Aeth i fyny at yr Un Hynafol – cafodd ei gymryd ato. A derbyniodd awdurdod, anrhydedd a grym. Roedd rhaid i bawb, o bob gwlad ac iaith ei anrhydeddu. Mae ei awdurdod yn dragwyddol – fydd e byth yn dod i ben. Fydd ei deyrnasiad byth yn cael ei dinistrio. “Rôn i, Daniel, wedi cynhyrfu’r tu mewn. Roedd y gweledigaethau wedi fy nychryn i. Dyma fi’n mynd at un o’r rhai oedd yn sefyll yno, a gofyn beth oedd ystyr y cwbl. A dyma fe’n esbonio’r freuddwyd i mi. “‘Mae’r pedwar creadur mawr yn cynrychioli pedwar brenin daearol fydd yn teyrnasu. Ond yn y diwedd bydd pobl sanctaidd y Duw Goruchaf yn cael teyrnasu – byddan nhw’n teyrnasu am byth!’ “Ond wedyn roeddwn i eisiau gwybod mwy am y pedwerydd creadur, yr un oedd yn hollol wahanol i’r lleill. Roedd hwnnw’n wirioneddol ddychrynllyd gyda’i ddannedd haearn a’i grafangau pres. Roedd yn llarpio a chnoi, a sathru dan draed bopeth oedd yn dal i sefyll. Rôn i hefyd eisiau gwybod beth oedd y deg corn ar ei ben, a’r corn bach gododd wedyn a gwneud i dri o’r lleill syrthio. Dyma’r corn oedd gyda llygaid, a cheg oedd yn brolio pethau mawr. Roedd y corn yma’n edrych yn gryfach na’r lleill. Rôn i’n gweld y corn yma yn brwydro yn erbyn pobl sanctaidd Duw ac yn eu trechu nhw. Dyna oedd yn digwydd hyd nes i’r Un Hynafol ddod a barnu o blaid pobl sanctaidd y Duw Goruchaf. A dyma nhw wedyn yn cael teyrnasu. “Dyma ddwedodd wrtho i: ‘Mae’r pedwerydd creadur yn cynrychioli ymerodraeth fydd yn wahanol i bob teyrnas arall. Bydd yn llyncu’r byd i gyd, ac yn sathru pawb a phopeth. Mae’r deg corn yn cynrychioli deg brenin fydd yn teyrnasu ar yr ymerodraeth. Ond wedyn bydd brenin arall yn codi – brenin gwahanol i’r lleill. Bydd yn bwrw i lawr dri brenin o’i flaen. Bydd yn herio’r Duw Goruchaf ac yn cam-drin ei bobl sanctaidd. Bydd yn ceisio newid yr amserau osodwyd yn y gyfraith, a bydd pobl Dduw dan ei reolaeth am gyfnod, dau gyfnod, a hanner cyfnod. Yna wedi i’r llys eistedd bydd ei awdurdod yn cael ei gymryd oddi arno, a’i ddinistrio’n llwyr – am byth! Bydd awdurdod brenhinol a grym pob teyrnas dan y nef yn cael ei roi i bobl sanctaidd Duw. Mae Duw yn teyrnasu’n dragwyddol, a bydd pob awdurdod arall yn ei wasanaethu ac yn ufudd iddo.’ A dyna ddiwedd y weledigaeth. Roeddwn i, Daniel, wedi dychryn. Rôn i’n welw. Ond cedwais y cwbl i mi fy hun.”

Daniel 7:1-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Yn y flwyddyn gyntaf i Belsassar brenin Babilon, cafodd Daniel freuddwyd a gweledigaethau tra oedd yn gorwedd ar ei wely. Ysgrifennodd Daniel y freuddwyd, a dyma sylwedd yr hanes a adroddodd. Yn fy ngweledigaeth yn y nos gwelais bedwar gwynt y nefoedd yn corddi'r môr mawr, a phedwar bwystfil anferth yn codi o'r môr, pob un yn wahanol i'w gilydd. Yr oedd y cyntaf fel llew a chanddo adenydd eryr; a thra oeddwn yn edrych, rhwygwyd ei adenydd a chodwyd ef oddi ar y ddaear a'i osod ar ei draed fel bod dynol, a rhoddwyd meddwl dynol iddo. Yna gwelais fwystfil arall, yr ail, yn debyg i arth. Yr oedd yn hanner codi ar un ochr, ac yr oedd tair asen yn ei safn rhwng ei ddannedd, a dywedwyd wrtho, “Cyfod, bwyta lawer o gig.” Wedyn, a minnau'n dal i edrych, gwelais un arall, tebyg i lewpard, a phedair adain aderyn ar ei gefn; ac yr oedd gan y bwystfil bedwar pen, a rhoddwyd arglwyddiaeth iddo. Yna, tra oeddwn yn edrych ar weledigaethau'r nos, gwelais bedwerydd bwystfil, un arswydus ac erchyll a chryf eithriadol, a chanddo ddannedd mawr o haearn; yr oedd yn bwyta ac yn malu ac yn sathru'r gweddill dan ei draed. Yr oedd hwn yn wahanol i'r holl fwystfilod eraill oedd o'i flaen, ac yr oedd ganddo ddeg o gyrn. Fel yr oeddwn yn sylwi ar y cyrn, gwelais gorn arall, un bychan, yn codi o'u mysg, a thynnwyd tri o'r cyrn cyntaf o'u gwraidd i wneud lle iddo, ac yn y corn yma gwelais lygaid fel llygaid dynol a cheg yn traethu balchder. Fel yr oeddwn yn edrych, gosodwyd y gorseddau yn eu lle ac eisteddodd Hen Ddihenydd; yr oedd ei wisg cyn wynned â'r eira, a gwallt ei ben fel gwlân pur; yr oedd ei orsedd yn fflamau o dân, a'i holwynion yn dân crasboeth. Yr oedd afon danllyd yn llifo allan o'i flaen. Yr oedd mil o filoedd yn ei wasanaethu a myrdd o fyrddiynau'n sefyll ger ei fron. Eisteddodd y llys ac agorwyd y llyfrau. Oherwydd sŵn geiriau balch y corn, daliais i edrych, ac fel yr oeddwn yn gwneud hynny lladdwyd y bwystfil a dinistrio'i gorff a'i daflu i ganol y tân. Collodd y bwystfilod eraill eu harglwyddiaeth, ond cawsant fyw am gyfnod a thymor. Ac fel yr oeddwn yn edrych ar weledigaethau'r nos, Gwelais un fel mab dyn yn dyfod ar gymylau'r nef; a daeth at yr Hen Ddihenydd a chael ei gyflwyno iddo. Rhoddwyd iddo arglwyddiaeth a gogoniant a brenhiniaeth, i'r holl bobloedd o bob cenedl ac iaith ei wasanaethu. Y mae ei arglwyddiaeth yn dragwyddol a digyfnewid, a'i frenhiniaeth yn un na ddinistrir. Yr oeddwn i, Daniel, wedi fy nghynhyrfu'n fawr, a brawychwyd fi gan fy ngweledigaethau. Euthum at un o'r rhai oedd yn sefyll yn ymyl, a gofynnais iddo beth oedd ystyr hyn i gyd. Atebodd yntau a rhoi dehongliad o'r cyfan imi: “Pedwar brenin yn codi o'r ddaear yw'r pedwar bwystfil. Ond bydd saint y Goruchaf yn derbyn y frenhiniaeth ac yn ei meddiannu'n oes oesoedd.” Yna dymunais wybod ystyr y pedwerydd bwystfil, a oedd yn wahanol i'r lleill i gyd, yn arswydus iawn, a chanddo ddannedd o haearn a chrafangau o bres, yn bwyta ac yn malu ac yn sathru'r gweddill dan ei draed; a hefyd ystyr y deg corn ar ei ben, a'r corn arall a gododd, a thri yn syrthio o'i flaen—y corn ac iddo lygaid, a cheg yn traethu balchder ac yn gwneud mwy o ymffrost na'r lleill. Dyma'r corn a welais yn rhyfela yn erbyn y saint ac yn eu trechu, hyd nes i'r Hen Ddihenydd ddyfod a dyfarnu o blaid saint y Goruchaf, ac i'r saint feddiannu'r deyrnas. Dyma'i ateb: “Pedwaredd frenhiniaeth ar y ddaear yw'r pedwerydd bwystfil. Bydd hi'n wahanol i'r holl freniniaethau eraill; bydd yn ysu'r holl ddaear, ac yn ei sathru a'i malu. Saif y deg corn dros ddeg brenin a fydd yn codi; daw un arall ar eu hôl, yn wahanol i'r lleill, ac yn darostwng tri brenin. Bydd yn herio'r Goruchaf ac yn llethu saint y Goruchaf, ac yn cynllunio i newid y gwyliau a'r gyfraith; a chaiff awdurdod drostynt am dymor a thymhorau a hanner tymor. Yna bydd y llys yn eistedd, a dygir ymaith ei arglwyddiaeth, i'w distrywio a'i difetha'n llwyr. A rhoddir y frenhiniaeth a'r arglwyddiaeth, a gogoniant pob brenhiniaeth dan y nef, i bobl saint y Goruchaf. Brenhiniaeth dragwyddol fydd eu brenhiniaeth hwy, a bydd pob teyrnas yn eu gwasanaethu ac yn ufuddhau iddynt.” Dyma ddiwedd yr hanes; ac yr oeddwn i, Daniel, wedi fy nghynhyrfu'n fawr ac yn welw, ond cedwais y pethau hyn i mi fy hun.

Daniel 7:1-28 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Yn y flwyddyn gyntaf i Belsassar brenin Babilon, y gwelodd Daniel freuddwyd, a gweledigaethau ei ben ar ei wely. Yna efe a ysgrifennodd y breuddwyd, ac a draethodd swm y geiriau. Llefarodd Daniel, a dywedodd, Mi a welwn yn fy ngweledigaeth y nos, ac wele bedwar gwynt y nefoedd yn ymryson ar y môr mawr. A phedwar bwystfil mawr a ddaethant i fyny o’r môr, yn amryw y naill oddi wrth y llall. Y cyntaf oedd fel llew, ac iddo adenydd eryr: edrychais hyd oni thynnwyd ei adenydd, a’i gyfodi oddi wrth y ddaear, a sefyll ohono ar ei draed fel dyn, a rhoddi iddo galon dyn. Ac wele anifail arall, yr ail, yn debyg i arth; ac efe a ymgyfododd ar y naill ystlys, ac yr oedd tair asen yn ei safn ef rhwng ei ddannedd: ac fel hyn y dywedent wrtho, Cyfod, bwyta gig lawer. Wedi hyn yr edrychais, ac wele un arall megis llewpard, ac iddo bedair adain aderyn ar ei gefn: a phedwar pen oedd i’r bwystfil; a rhoddwyd llywodraeth iddo. Wedi hyn y gwelwn mewn gweledigaethau nos, ac wele bedwerydd bwystfil, ofnadwy, ac erchyll, a chryf ragorol; ac iddo yr oedd dannedd mawrion o haearn: yr oedd yn bwyta, ac yn dryllio, ac yn sathru y gweddill dan ei draed: hefyd yr ydoedd efe yn amryw oddi wrth y bwystfilod oll y rhai a fuasai o’i flaen ef; ac yr oedd iddo ddeg o gyrn. Yr oeddwn yn ystyried y cyrn; ac wele, cyfododd corn bychan arall yn eu mysg hwy, a thynnwyd o’r gwraidd dri o’r cyrn cyntaf o’i flaen ef: ac wele lygaid fel llygaid dyn yn y corn hwnnw, a genau yn traethu mawrhydri. Edrychais hyd oni fwriwyd i lawr y gorseddfeydd, a’r Hen ddihenydd a eisteddodd: ei wisg oedd cyn wynned â’r eira, a gwallt ei ben fel gwlân pur; ei orseddfa yn fflam dân, a’i olwynion yn dân poeth. Afon danllyd oedd yn rhedeg ac yn dyfod allan oddi ger ei fron ef: mil o filoedd a’i gwasanaethent, a myrdd fyrddiwn a safent ger ei fron: y farn a eisteddodd, ac agorwyd y llyfrau. Edrychais yna, o achos llais y geiriau mawrion a draethodd y corn; ie, edrychais hyd oni laddwyd y bwystfil, a difetha ei gorff ef, a’i roddi i’w losgi yn tân. A’r rhan arall o’r bwystfilod, eu llywodraeth a dducpwyd ymaith; a rhoddwyd iddynt einioes dros ysbaid ac amser. Mi a welwn mewn gweledigaethau nos, ac wele, megis Mab y dyn oedd yn dyfod gyda chymylau y nefoedd; ac at yr Hen ddihenydd y daeth, a hwy a’i dygasant ger ei fron ef. Ac efe a roddes iddo lywodraeth, a gogoniant, a brenhiniaeth, fel y byddai i’r holl bobloedd, cenhedloedd, a ieithoedd ei wasanaethu ef: ei lywodraeth sydd lywodraeth dragwyddol, yr hon nid â ymaith, a’i frenhiniaeth ni ddifethir. Myfi Daniel a ymofidiais yn fy ysbryd yng nghanol fy nghorff, a gweledigaethau fy mhen a’m dychrynasant. Neseais at un o’r rhai a safent gerllaw, a cheisiais ganddo y gwirionedd am hyn oll. Ac efe a ddywedodd i mi, ac a wnaeth i mi wybod dehongliad y pethau. Y bwystfilod mawrion hyn, y rhai sydd bedwar, ydynt bedwar brenin, y rhai a gyfodant o’r ddaear. Eithr saint y Goruchaf a dderbyniant y frenhiniaeth, ac a feddiannant y frenhiniaeth hyd byth, a hyd byth bythoedd. Yna yr ewyllysiais wybod y gwirionedd am y pedwerydd bwystfil, yr hwn oedd yn amrywio oddi wrthynt oll, yn ofnadwy iawn, a’i ddannedd o haearn, a’i ewinedd o bres; yn bwyta, ac yn dryllio, ac yn sathru y gweddill â’i draed: Ac am y deg corn oedd ar ei ben ef, a’r llall yr hwn a gyfodasai, ac y syrthiasai tri o’i flaen; sef y corn yr oedd llygaid iddo, a genau yn traethu mawrhydri, a’r olwg arno oedd yn arwach na’i gyfeillion. Edrychais, a’r corn hwn a wnaeth ryfel ar y saint, ac a fu drech na hwynt; Hyd oni ddaeth yr Hen ddihenydd, a rhoddi barn i saint y Goruchaf, a dyfod o’r amser y meddiannai y saint y frenhiniaeth. Fel hyn y dywedodd efe; Y pedwerydd bwystfil fydd y bedwaredd frenhiniaeth ar y ddaear, yr hon a fydd amryw oddi wrth yr holl freniniaethau, ac a ddifa yr holl ddaear, ac a’i sathr hi, ac a’i dryllia. A’r deg corn o’r frenhiniaeth hon fydd deg brenin, y rhai a gyfodant: ac un arall a gyfyd ar eu hôl hwynt, ac efe a amrywia oddi wrth y rhai cyntaf, ac a ddarostwng dri brenin. Ac efe a draetha eiriau yn erbyn y Goruchaf, ac a ddifa saint y Goruchaf, ac a feddwl newidio amseroedd a chyfreithau: a hwy a roddir yn ei law ef, hyd amser ac amseroedd a rhan amser. Yna yr eistedd y farn, a’i lywodraeth a ddygant, i’w difetha ac i’w distrywio hyd y diwedd. A’r frenhiniaeth a’r llywodraeth, a mawredd y frenhiniaeth dan yr holl nefoedd, a roddir i bobl saint y Goruchaf, yr hwn y mae ei frenhiniaeth yn frenhiniaeth dragwyddol, a phob llywodraeth a wasanaethant ac a ufuddhânt iddo. Hyd yma y mae diwedd y peth. Fy meddyliau i Daniel a’m dychrynodd yn ddirfawr, a’m gwedd a newidiodd ynof; eithr mi a gedwais y peth yn fy nghalon.