Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Daniel 6:1-13

Daniel 6:1-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Penderfynodd Dareius benodi cant ac ugain o lywodraethwyr, un i fod dros bob rhan o'r deyrnas, a throstynt hwy dri rhaglaw, gan gynnwys Daniel; ac iddynt hwy yr oedd y llywodraethwyr yn gyfrifol, i warchod buddiannau'r brenin. Yr oedd Daniel yn rhagori ar y rhaglawiaid a'r llywodraethwyr am fod ganddo ddawn arbennig, a bwriadai'r brenin ei osod dros yr holl deyrnas. Yna chwiliodd y rhaglawiaid a'r llywodraethwyr am ryw achos ynglŷn â'r deyrnas y gallent ei ddwyn yn erbyn Daniel, ond ni fedrent gael achos na bai ynddo; am ei fod mor ddidwyll, ni chawsant unrhyw amryfusedd na bai ynddo. Yna dywedodd y dynion hyn, “Ni fedrwn gael unrhyw achos yn erbyn y Daniel hwn os na chawn rywbeth ynglŷn â chyfraith ei Dduw.” Felly aeth y rhaglawiaid a'r llywodraethwyr gyda'i gilydd at y brenin a dweud wrtho, “O Frenin Dareius, bydd fyw byth! Y mae holl swyddogion y deyrnas, yn benaethiaid a llywodraethwyr, yn gynghorwyr a rhaglawiaid, yn unfryd â'i gilydd y dylai'r brenin wneud deddf a gorchymyn pendant fod pob un sydd, o fewn deg diwrnod ar hugain, yn ymbil ar unrhyw dduw neu ddyn, ar wahân i ti, O frenin, i'w daflu i ffau'r llewod. Yn awr, O frenin, cadarnha'r gorchymyn ac arwydda'r ddogfen, fel na chaiff ei newid, yn ôl cyfraith ddigyfnewid y Mediaid a'r Persiaid.” Felly arwyddodd y Brenin Dareius y ddogfen a'r gorchymyn. Pan glywodd Daniel fod y ddogfen wedi ei harwyddo, aeth i'w dŷ. Yr oedd ffenestri ei lofft yn agor i gyfeiriad Jerwsalem, ac yntau'n parhau i benlinio deirgwaith y dydd, a gweddïo a thalu diolch i'w Dduw, yn ôl ei arfer. Daeth y bobl hyn gyda'i gilydd a dal Daniel yn ymbil ac yn erfyn ar ei Dduw. Yna aethant at y brenin a'i atgoffa am ei orchymyn: “Onid wyt wedi arwyddo gorchymyn fod pob un sydd, o fewn deg diwrnod ar hugain, yn gweddïo ar unrhyw dduw neu ddyn ar wahân i ti, O frenin, i'w daflu i ffau'r llewod?” Atebodd y brenin, “Dyna'r gorchymyn, yn unol â chyfraith ddigyfnewid y Mediaid a'r Persiaid.” Dywedasant hwythau wrth y brenin, “Nid yw'r Daniel yma, o gaethglud Jwda, yn cymryd unrhyw sylw ohonot ti na'r gorchymyn a arwyddaist, O frenin, ond y mae'n gweddïo deirgwaith y dydd.”

Daniel 6:1-13 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Dyma Dareius yn penderfynu rhannu’r deyrnas gyfan yn gant dau ddeg o daleithiau, a phenodi pennaeth ar bob un. Byddai penaethiaid y taleithiau yma yn atebol i dri comisiynydd, ac roedd Daniel yn un o’r rheiny. Y tri comisiynydd oedd yn gofalu am bethau ar ran y brenin. Yn fuan iawn daeth hi’n amlwg fod Daniel yn llawer mwy galluog na’r comisiynwyr eraill a phenaethiaid y taleithiau i gyd – roedd ganddo allu cwbl anarferol. Yn wir, roedd y brenin yn bwriadu rhoi’r deyrnas i gyd dan ei ofal. O ganlyniad i hynny roedd y comisiynwyr eraill a phenaethiaid y taleithiau eisiau ffeindio bai ar y ffordd roedd Daniel yn delio gyda gweinyddiaeth y deyrnas. Ond roedden nhw’n methu dod o hyd i unrhyw sgandal na llygredd. Roedd Daniel yn gwbl ddibynadwy. Doedd dim tystiolaeth o unrhyw esgeulustod na thwyll. “Does gynnon ni ddim gobaith dod â cyhuddiad yn erbyn y Daniel yma, oni bai ein bod yn dod o hyd i rywbeth sy’n gysylltiedig â chyfraith ei Dduw,” medden nhw. Felly dyma’r comisiynwyr a phenaethiaid y taleithiau yn cynllwynio gyda’i gilydd, ac yn mynd at y brenin a dweud wrtho, “Frenin Dareius, bydd fyw am byth! Mae comisiynwyr y deyrnas, yr uchel-swyddogion, penaethiaid y taleithiau, a chynghorwyr y brenin, a’r llywodraethwyr yn meddwl y byddai’n syniad da i’r brenin wneud cyfraith newydd yn gorchymyn fel hyn: ‘Am dri deg diwrnod mae pawb i weddïo arnoch chi, eich mawrhydi. Os ydy rhywun yn gweddïo ar unrhyw dduw neu ar unrhyw berson arall, bydd yn cael ei daflu i ffau’r llewod.’ Felly, eich mawrhydi, cyhoeddwch y gwaharddiad ac arwyddo’r ddogfen, fel ei bod yn gwbl amhosib i’w newid. Bydd yn rhan o gyfraith Media a Persia, sy’n aros, a byth i gael ei newid.” Felly dyma’r Brenin Dareius yn arwyddo’r gwaharddiad. Pan glywodd Daniel fod y gyfraith yma wedi’i harwyddo, aeth adre, a mynd ar ei liniau i weddïo fel roedd wedi gwneud bob amser. Roedd ganddo ystafell i fyny’r grisiau, a’i ffenestri’n agor i gyfeiriad Jerwsalem. Dyna lle roedd yn mynd dair gwaith bob dydd i weddïo ar Dduw a diolch iddo. Dyma’r dynion oedd wedi cynllwynio gyda’i gilydd yn mynd i dŷ Daniel, a’i gael yno’n gweddïo ac yn gofyn i Dduw am help. Felly dyma nhw’n mynd yn ôl at y brenin, ac yn ei atgoffa am y gwaharddiad. “Wnaethoch chi ddim arwyddo cyfraith yn gwahardd pobl am dri deg diwrnod rhag gweddïo ar unrhyw dduw na neb arall ond chi eich hun, eich mawrhydi? Ac yn dweud y byddai unrhyw un sy’n gwneud hynny yn cael ei daflu i’r llewod?” “Do, yn bendant,” meddai’r brenin. “Mae bellach yn rhan o gyfraith Media a Persia, sydd byth i gael ei newid.” Yna dyma nhw’n dweud wrth y brenin, “Dydy’r dyn Daniel yna, oedd yn un o’r caethion o Jwda, yn cymryd dim sylw ohonoch chi na’ch gwaharddiad eich mawrhydi. Mae’n dal ati i weddïo ar ei Dduw dair gwaith bob dydd.”

Daniel 6:1-13 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Gwelodd Dareius yn dda osod ar y deyrnas chwe ugain o dywysogion, i fod ar yr holl deyrnas; Ac arnynt hwy yr oedd tri rhaglaw, y rhai yr oedd Daniel yn bennaf ohonynt, i’r rhai y rhoddai y tywysogion gyfrif, fel na byddai y brenin mewn colled. Yna y Daniel hwn oedd yn rhagori ar y rhaglawiaid a’r tywysogion, oherwydd bod ysbryd rhagorol ynddo ef: a’r brenin a feddyliodd ei osod ef ar yr holl deyrnas. Yna y rhaglawiaid a’r tywysogion oedd yn ceisio cael achlysur yn erbyn Daniel o ran y frenhiniaeth: ond ni fedrent gael un achos na bai; oherwydd ffyddlon oedd efe, fel na chaed ynddo nac amryfusedd na bai. Yna y dywedodd y gwŷr hyn, Ni chawn yn erbyn y Daniel hwn ddim achlysur, oni chawn beth o ran cyfraith ei DDUW yn ei erbyn ef. Yna y rhaglawiaid a’r tywysogion hyn a aethant ynghyd at y brenin, ac a ddywedasant wrtho fel hyn; Dareius frenin, bydd fyw byth. Holl raglawiaid y deyrnas, y swyddogion, a’r tywysogion, y cynghoriaid, a’r dugiaid, a ymgyngorasant am osod deddf frenhinol, a chadarnhau gorchymyn, fod bwrw i ffau y llewod pwy bynnag a archai arch gan un DUW na dyn dros ddeng niwrnod ar hugain, ond gennyt ti, O frenin. Yr awr hon, O frenin, sicrha y gorchymyn, a selia yr ysgrifen, fel nas newidier; yn ôl cyfraith y Mediaid a’r Persiaid, yr hon ni newidir. Oherwydd hyn y seliodd y brenin Dareius yr ysgrifen a’r gorchymyn. Yna Daniel, pan wybu selio yr ysgrifen, a aeth i’w dŷ, a’i ffenestri yn agored yn ei ystafell tua Jerwsalem; tair gwaith yn y dydd y gostyngai efe ar ei liniau, ac y gweddïai, ac y cyffesai o flaen ei DDUW, megis y gwnâi efe cyn hynny. Yna y gwŷr hyn a ddaethant ynghyd, ac a gawsant Daniel yn gweddïo ac yn ymbil o flaen ei DDUW. Yna y nesasant, ac y dywedasant o flaen y brenin am orchymyn y brenin; Oni seliaist ti orchymyn, mai i ffau y llewod y bwrid pa ddyn bynnag a ofynnai gan un DUW na dyn ddim dros ddeng niwrnod ar hugain, ond gennyt ti, O frenin? Atebodd y brenin, a dywedodd, Y mae y peth yn wir, yn ôl cyfraith y Mediaid a’r Persiaid, yr hon ni newidir. Yna yr atebasant ac y dywedasant o flaen y brenin, Y Daniel, yr hwn sydd o feibion caethglud Jwda, ni wnaeth gyfrif ohonot ti, frenin, nac o’r gorchymyn a seliaist, eithr tair gwaith yn y dydd y mae yn gweddïo ei weddi.