Daniel 5:1-31
Daniel 5:1-31 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Roedd y Brenin Belshasar wedi trefnu gwledd i fil o’i uchel-swyddogion. A dyna lle roedd e’n yfed gwin o’u blaen nhw i gyd. Pan oedd y gwin wedi mynd i’w ben dyma Belshasar yn gorchymyn dod â’r llestri aur ac arian oedd ei ragflaenydd, Nebwchadnesar, wedi’u cymryd o’r deml yn Jerwsalem. Roedd am yfed ohonyn nhw, gyda’i uchel-swyddogion, ei wragedd a’i gariadon i gyd. Felly dyma nhw’n dod â’r llestri aur ac arian oedd wedi’u cymryd o deml Duw yn Jerwsalem. A dyma’r brenin a’i uchel-swyddogion, ei wragedd a’i gariadon yn yfed ohonyn nhw. Wrth yfed y gwin roedden nhw’n canmol eu duwiau – eilun-dduwiau wedi’u gwneud o aur, arian, pres, haearn, pren a charreg. Yna’n sydyn roedd bysedd llaw ddynol i’w gweld yng ngolau’r lamp, yn ysgrifennu rhywbeth ar wal blastr yr ystafell. Roedd y brenin yn gallu gweld y llaw yn ysgrifennu. Aeth yn welw gan ddychryn. Roedd ei goesau’n wan a’i liniau’n crynu. Gwaeddodd yn uchel a galw am ei ddewiniaid, y dynion doeth a’r swynwyr. Dwedodd wrthyn nhw, “Bydd pwy bynnag sy’n darllen yr ysgrifen a dweud beth mae’n ei olygu yn cael ei anrhydeddu – bydd yn cael ei wisgo mewn porffor, yn cael cadwyn aur am ei wddf, ac yn cael y drydedd swydd uchaf yn y deyrnas.” Felly dyma’r dynion doeth i gyd yn dod i mewn, ond allai run ohonyn nhw ddarllen yr ysgrifen na dweud beth oedd ei ystyr. Erbyn hyn roedd y Brenin Belshasar wedi dychryn am ei fywyd. Roedd yn wyn fel y galchen ac roedd ei uchel-swyddogion i gyd wedi drysu’n lân. Pan glywodd y fam frenhines yr holl sŵn roedd y brenin a’i uchel-swyddogion yn ei wneud, aeth i mewn i’r neuadd fwyta. “O frenin! Boed i ti fyw am byth!” meddai. “Paid dychryn. Paid eistedd yna’n welw. Mae yna ddyn yn dy deyrnas sydd ag ysbryd y duwiau sanctaidd ynddo. Pan oedd Nebwchadnesar yn frenin, daeth yn amlwg fod gan y dyn yma ddirnadaeth, deall, a doethineb fel petai’n un o’r duwiau ei hun. Gwnaeth Nebwchadnesar e’n brif swynwr, ac roedd yn bennaeth ar yr dewiniaid, swynwyr a’r dynion doeth i gyd. Roedd yna rywbeth cwbl arbennig am y dyn yma, Daniel (gafodd yr enw Belteshasar gan y brenin). Roedd ganddo feddwl anarferol o graff, gwybodaeth a gallu i esbonio ystyr breuddwydion, egluro posau, a datrys problemau cymhleth. Galw am Daniel, a bydd e’n dweud wrthot ti beth mae’r ysgrifen yn ei olygu.” Felly dyma nhw’n dod â Daniel at y brenin. A dyma’r brenin yn gofyn iddo, “Ai ti ydy’r Daniel gafodd ei gymryd yn gaeth o Jwda gan fy rhagflaenydd, y Brenin Nebwchadnesar? Dw i wedi clywed fod ysbryd y duwiau sanctaidd ynot ti, a bod gen ti ddirnadaeth, a deall, a doethineb anarferol. Dw i wedi gofyn i’r dynion doeth a’r swynwyr ddarllen ac esbonio’r ysgrifen yma i mi, ond dŷn nhw ddim yn gallu. Ond dw i wedi cael ar ddeall dy fod ti’n gallu dehongli pethau a datrys problemau cymhleth. Felly, os gelli di ei ddarllen a dweud wrtho i beth mae’n ei olygu, byddi’n cael dy wisgo mewn porffor, yn cael cadwyn aur am dy wddf, ac yn cael y drydedd swydd uchaf yn y deyrnas.” Ond dyma Daniel yn ateb y brenin, “Cadwch eich rhoddion a’u rhoi nhw i rywun arall. Ond gwna i ddweud wrth y brenin beth ydy ystyr yr ysgrifen. Eich mawrhydi, roedd y Duw Goruchaf wedi rhoi awdurdod brenhinol ac ysblander mawr i Nebwchadnesar eich rhagflaenydd chi. Roedd Duw wedi’i wneud mor fawr nes bod gan bawb o bob gwlad ac iaith ei ofn. Roedd yn lladd pwy bynnag roedd e’n dewis ei ladd, ac yn arbed pwy bynnag oedd e eisiau. Doedd dim dal pwy fyddai e’n ei anrhydeddu, a phwy fyddai’n ei sathru nesa. Ond trodd yn ddyn balch ac ystyfnig, a chymerodd Duw ei orsedd a’i anrhydedd oddi arno. Cafodd ei gymryd allan o gymdeithas. Roedd yn meddwl ei fod yn anifail ac yn byw gyda’r asynnod gwyllt. Roedd yn bwyta glaswellt fel ychen, a’i gorff yn cael ei wlychu gan wlith yn yr awyr agored. Bu felly nes iddo ddeall mai’r Duw Goruchaf sy’n teyrnasu dros lywodraethau’r byd, a’i fod yn eu rhoi i bwy bynnag mae e eisiau. “Er eich bod chi, Belshasar, yn gwybod hyn i gyd, dych chithau wedi bod yr un mor falch. Dych chi wedi herio Arglwydd y nefoedd, drwy gymryd llestri ei deml a’u defnyddio nhw i yfed gwin ohonyn nhw – chi a’ch uchel-swyddogion, gyda’ch gwragedd a’ch cariadon i gyd. Ac wedyn dych chi wedi canmol eich duwiau o aur, arian, pres, haearn, pren a charreg – duwiau sy’n gweld, clywed na deall dim! Ond dych chi ddim wedi canmol y Duw sy’n rhoi anadl i chi fyw, ac sy’n dal eich bywyd a’ch tynged yn ei law! Dyna pam anfonodd e’r llaw i ysgrifennu’r neges yma. “Dyma beth sydd wedi’i ysgrifennu: MENE, MENE, TECEL, a PHARSIN A dyma ystyr y geiriau: Ystyr MENE ydy ‘cyfrif’. Mae dyddiau eich teyrnasiad wedi’u rhifo. Mae Duw’n dod â nhw i ben. Ystyr TECEL ydy ‘pwyso’. Chi wedi’ch pwyso yn y glorian, a’ch cael yn brin. Ystyr PARSIN ydy ‘rhannu’. Mae’ch teyrnas wedi’i rhannu’n ei hanner a’i rhoi i Media a Persia.” Dyma Belshasar yn gorchymyn fod Daniel i gael ei wisgo mewn porffor, i gael cadwyn aur am ei wddf, ac i’w ddyrchafu i’r drydedd swydd uchaf yn y deyrnas. Ond ar y noson honno cafodd Belshasar, brenin Babilon, ei lofruddio. Daeth Dareius y Mediad yn frenin ar y deyrnas. Roedd yn chwe deg dau oed.
Daniel 5:1-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gwnaeth y Brenin Belsassar wledd fawr i fil o'i dywysogion, ac yfodd win gyda hwy. Wedi cael blas y gwin, gorchmynnodd Belsassar ddwyn y llestri aur ac arian a ladrataodd ei dad Nebuchadnesar o'r deml yn Jerwsalem, er mwyn i'r brenin a'i dywysogion a'i wragedd a'i ordderchwragedd yfed ohonynt. Felly dygwyd y llestri aur a ladratawyd o'r deml yn Jerwsalem, ac yfodd y brenin a'i dywysogion a'i wragedd a'i ordderchwragedd ohonynt. Wrth yfed y gwin, yr oeddent yn moliannu duwiau o aur ac arian, o bres a haearn, o bren a charreg. Yn sydyn, ymddangosodd bysedd llaw ddynol yn ysgrifennu ar blastr y pared gyferbyn â'r canhwyllbren yn llys y brenin, a gwelai'r brenin y llaw ddynol yn ysgrifennu. Yna gwelwodd y brenin mewn dychryn, ac aeth ei gymalau'n llipa a'i liniau'n grynedig. Galwodd y brenin am y swynwyr a'r Caldeaid a'r sêr-ddewiniaid, ac meddai wrth ddoethion Babilon, “Os medr unrhyw un ddarllen yr ysgrifen hon a'i dehongli i mi, caiff hwnnw wisg borffor, a chadwyn aur am ei wddf, a llywodraethu'n drydydd yn y deyrnas.” Yna daeth doethion y brenin ato, ond ni fedrent ddarllen yr ysgrifen na'i dehongli i'r brenin. Felly cynhyrfodd y Brenin Belsassar yn enbyd, a gwelwi, ac yr oedd ei dywysogion yn yr un dryswch. Wrth glywed sŵn y brenin a'i dywysogion, daeth y frenhines i'r ystafell fwyta a dweud, “O frenin, bydd fyw byth! Paid ag edrych mor gynhyrfus a gwelw. Y mae gŵr yn dy deyrnas sy'n llawn o ysbryd y duwiau sanctaidd, ac yn amser dy dad dangosodd oleuni a deall, a doethineb fel doethineb y duwiau; a gwnaed ef gan dy dad, y Brenin Nebuchadnesar, yn ben ar y dewiniaid a'r swynwyr a'r Caldeaid a'r sêr-ddewiniaid. Gan fod yn Daniel, a alwodd y brenin yn Beltesassar, ysbryd ardderchog, a deall a dirnadaeth, a'r gallu i ddehongli breuddwydion ac esbonio dirgelion a datrys problemau, anfon yn awr am Daniel; gall ef roi dehongliad.” Yna daethpwyd â Daniel at y brenin, a gofynnodd y brenin iddo, “Ai ti yw Daniel, un o'r caethgludion a ddug fy nhad, y brenin, o Jwda? Rwy'n clywed fod ysbryd y duwiau ynot a'th fod yn llawn o oleuni a deall a doethineb ragorol. Er i'r doethion a'r swynwyr ddod yma i ddarllen yr ysgrifen hon a'i dehongli i mi, nid ydynt yn medru rhoi dehongliad ohoni. Ond rwy'n clywed dy fod ti'n gallu rhoi dehongliadau a datrys problemau. Yn awr os medri ddarllen yr ysgrifen a'i dehongli i mi, cei wisg borffor, a chadwyn aur am dy wddf, a llywodraethu'n drydydd yn y deyrnas.” Yna atebodd Daniel y brenin, “Cei gadw d'anrhegion, a rhoi dy wobrwyon i eraill, ond fe ddarllenaf yr ysgrifen a'i dehongli i'r brenin. Rhoes y Duw Goruchaf frenhiniaeth a mawredd a gogoniant ac urddas i'th dad Nebuchadnesar. Ac oherwydd y mawredd a roed iddo, yr oedd yr holl bobloedd, cenhedloedd ac ieithoedd yn crynu mewn ofn o'i flaen. Gallai ladd neu gadw'n fyw, dyrchafu neu ddarostwng y neb a fynnai. Ond pan ymffrostiodd a mynd yn falch, fe'i diorseddwyd a chymerwyd ei ogoniant oddi arno. Gyrrwyd ef o ŵydd pobl, rhoddwyd iddo galon anifail, ac yr oedd ei gartref gyda'r asynnod gwylltion. Yr oedd yn bwyta gwellt fel ych, ac yr oedd ei gorff yn wlyb gan wlith y nefoedd, nes iddo wybod mai'r Duw Goruchaf sy'n rheoli teyrnasoedd pobl ac yn eu rhoi i'r sawl a fyn. Ond amdanat ti, ei fab Belsassar, er iti wybod hyn oll, ni ddarostyngaist dy hun. Yr wyt wedi herio Arglwydd y Nefoedd trwy ddod â llestri ei dŷ ef o'th flaen, a thithau a'th dywysogion a'th wragedd a'th ordderchwragedd yn yfed gwin ohonynt. Yr wyt wedi moliannu duwiau o arian ac aur, o bres a haearn, o bren a charreg, nad ydynt yn clywed dim, nac yn gweld nac yn gwybod; ac nid wyt wedi mawrhau'r Duw y mae d'einioes a'th ffyrdd yn ei law. Dyna pam yr anfonwyd y llaw i ysgrifennu'r geiriau hyn. Fel hyn y mae'r ysgrifen yn darllen: ‘Mene, Mene, Tecel, Wparsin.’ A dyma'r dehongliad. ‘Mene’: rhifodd Duw flynyddoedd dy deyrnasiad, a daeth ag ef i ben. ‘Tecel’: pwyswyd di yn y glorian, a'th gael yn brin. ‘Peres’: rhannwyd dy deyrnas, a'i rhoi i'r Mediaid a'r Persiaid.” Yna, ar orchymyn Belsassar, cafodd Daniel wisg borffor, a chadwyn o aur am ei wddf, a'i benodi yn drydydd llywodraethwr yn y deyrnas. A'r noson honno lladdwyd Belsassar, brenin y Caldeaid. A derbyniodd Dareius y Mediad y deyrnas, yn ŵr dwy a thrigain oed.
Daniel 5:1-31 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Belsassar y brenin a wnaeth wledd fawr i fil o’i dywysogion, ac a yfodd win yng ngŵydd y mil. Wrth flas y gwin y dywedodd Belsassar am ddwyn y llestri aur ac arian, a ddygasai Nebuchodonosor ei dad ef o’r deml yr hon oedd yn Jerwsalem, fel yr yfai y brenin a’i dywysogion, ei wragedd a’i ordderchadon, ynddynt. Yna y dygwyd y llestri aur a ddygasid o deml tŷ DDUW, yr hwn oedd yn Jerwsalem: a’r brenin a’i dywysogion, ei wragedd a’i ordderchadon, a yfasant ynddynt. Yfasant win, a molianasant y duwiau o aur, ac o arian, o bres, o haearn, o goed, ac o faen. Yr awr honno bysedd llaw dyn a ddaethant allan, ac a ysgrifenasant ar gyfer y canhwyllbren ar galchiad pared llys y brenin; a gwelodd y brenin ddarn y llaw a ysgrifennodd. Yna y newidiodd lliw y brenin, a’i feddyliau a’i cyffroesant ef, fel y datododd rhwymau ei lwynau ef, ac y curodd ei liniau ef y naill wrth y llall. Gwaeddodd y brenin yn groch am ddwyn i mewn yr astronomyddion, y Caldeaid, a’r brudwyr: a llefarodd y brenin, a dywedodd wrth ddoethion Babilon, Pa ddyn bynnag a ddarlleno yr ysgrifen hon, ac a ddangoso i mi ei dehongliad, efe a wisgir â phorffor, ac a gaiff gadwyn aur am ei wddf, a chaiff lywodraethu yn drydydd yn y deyrnas. Yna holl ddoethion y brenin a ddaethant i mewn; ond ni fedrent ddarllen yr ysgrifen, na mynegi i’r brenin ei dehongliad. Yna y mawr gyffrôdd y brenin Belsassar, a’i wedd a ymnewidiodd ynddo, a’i dywysogion a synasant. Y frenhines, oherwydd geiriau y brenin a’i dywysogion, a ddaeth i dŷ y wledd: a llefarodd y frenhines, a dywedodd, Bydd fyw byth, frenin; na chyffroed dy feddyliau di, ac na newidied dy wedd. Y mae gŵr yn dy deyrnas, yr hwn y mae ysbryd y duwiau sanctaidd ynddo; ac yn nyddiau dy dad y caed ynddo ef oleuni, a deall, a doethineb fel doethineb y duwiau: a’r brenin Nebuchodonosor dy dad a’i gosododd ef yn bennaeth y dewiniaid, astronomyddion, Caldeaid, a brudwyr, sef y brenin dy dad di. Oherwydd cael yn y Daniel hwnnw, yr hwn y rhoddes y brenin iddo enw Beltesassar, ysbryd rhagorol, a gwybodaeth a deall, deongl breuddwydion, ac egluro damhegion, a datod clymau: galwer Daniel yr awron, ac efe a ddengys y dehongliad. Yna y ducpwyd Daniel o flaen y brenin: a llefarodd y brenin, a dywedodd wrth Daniel, Ai tydi yw Daniel, yr hwn wyt o feibion caethglud Jwda, y rhai a ddug y brenin fy nhad i o Jwda? Myfi a glywais sôn amdanat, fod ysbryd y duwiau ynot, a chael ynot ti oleuni, a deall, a doethineb rhagorol. Ac yr awr hon dygwyd y doethion, yr astronomyddion, o’m blaen, i ddarllen yr ysgrifen hon, ac i fynegi i mi ei dehongliad: ond ni fedrent ddangos dehongliad y peth. Ac mi a glywais amdanat ti, y medri ddeongl deongliadau, a datod clymau; yr awr hon os medri ddarllen yr ysgrifen, a hysbysu i mi ei dehongliad, tydi a wisgir â phorffor, ac a gei gadwyn aur am dy wddf, ac a gei lywodraethu yn drydydd yn y deyrnas. Yna yr atebodd Daniel, ac y dywedodd o flaen y brenin, Bydded dy roddion i ti, a dod dy anrhegion i arall; er hynny yr ysgrifen a ddarllenaf i’r brenin, a’r dehongliad a hysbysaf iddo. O frenin, y DUW goruchaf a roddes i Nebuchodonosor dy dad di frenhiniaeth, a mawredd, a gogoniant, ac anrhydedd. Ac oherwydd y mawredd a roddasai efe iddo, y bobloedd, y cenhedloedd, a’r ieithoedd oll, oedd yn crynu ac yn ofni rhagddo ef: yr hwn a fynnai a laddai, a’r hwn a fynnai a gadwai yn fyw; hefyd y neb a fynnai a gyfodai, a’r neb a fynnai a ostyngai. Eithr pan ymgododd ei galon ef, a chaledu o’i ysbryd ef mewn balchder, efe a ddisgynnwyd o orseddfa ei frenhiniaeth, a’i ogoniant a dynasant oddi wrtho: Gyrrwyd ef hefyd oddi wrth feibion dynion, a gwnaethpwyd ei galon fel bwystfil, a chyda’r asynnod gwylltion yr oedd ei drigfa: â gwellt y porthasant ef fel eidion, a’i gorff a wlychwyd gan wlith y nefoedd, hyd oni wybu mai y DUW goruchaf oedd yn llywodraethu ym mrenhiniaeth dynion, ac yn gosod arni y neb a fynno. A thithau, Belsassar ei fab ef, ni ddarostyngaist dy galon, er gwybod ohonot hyn oll; Eithr ymddyrchefaist yn erbyn Arglwydd y nefoedd, a llestri ei dŷ ef a ddygasant ger dy fron di, a thithau a’th dywysogion, dy wragedd a’th ordderchadon, a yfasoch win ynddynt; a thi a foliennaist dduwiau o arian, ac o aur, o bres, haearn, pren, a maen, y rhai ni welant, ac ni chlywant, ac ni wyddant ddim: ac nid anrhydeddaist y DUW y mae dy anadl di yn ei law, a’th holl ffyrdd yn eiddo. Yna yr anfonwyd darn y llaw oddi ger ei fron ef, ac yr ysgrifennwyd yr ysgrifen hon. A dyma yr ysgrifen a ysgrifennwyd: MENE, MENE, TECEL, UFFARSIN. Dyma ddehongliad y peth: MENE; DUW a rifodd dy frenhiniaeth, ac a’i gorffennodd. TECEL; Ti a bwyswyd yn y cloriannau, ac a’th gaed yn brin. PERES: Rhannwyd dy frenhiniaeth, a rhoddwyd hi i’r Mediaid a’r Persiaid. Yna y gorchmynnodd Belsassar, a hwy a wisgasant Daniel â phorffor, ac â chadwyn aur am ei wddf; a chyhoeddwyd amdano, y byddai efe yn drydydd yn llywodraethu yn y frenhiniaeth. Y noson honno y lladdwyd Belsassar brenin y Caldeaid. A Dareius y Mediad a gymerodd y frenhiniaeth, ac efe yn ddwy flwydd a thrigain oed.