Daniel 3:8-13
Daniel 3:8-13 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond dyma rai o’r dynion doeth yn mynd at y brenin, a dechrau lladd ar yr Iddewon. “O frenin! Boed i chi fyw am byth!” medden nhw. “Roeddech chi wedi gorchymyn fod pawb i blygu i lawr ac addoli’r ddelw aur pan oedden nhw’n clywed y gerddoriaeth yn dechrau. A bod pwy bynnag sy’n gwrthod plygu ac addoli’r ddelw, i gael eu taflu i mewn i ffwrnais o dân. Ond mae yna Iddewon yma – Shadrach, Meshach ac Abednego – gafodd eu penodi yn rheolwyr talaith Babilon gynnoch chi. Maen nhw wedi gwrthod gwrando, eich mawrhydi. Dŷn nhw ddim yn addoli eich duwiau chi, ac maen nhw’n gwrthod addoli y ddelw aur dych chi wedi’i chodi.” Dyma Nebwchadnesar yn gwylltio’n lân, ac yn gorchymyn dod â Shadrach, Meshach ac Abednego o’i flaen. Felly dyma nhw’n dod â’r tri o flaen y brenin.
Daniel 3:8-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dyna'r adeg y daeth rhai o'r Caldeaid â chyhuddiad yn erbyn yr Iddewon, a dweud wrth y Brenin Nebuchadnesar, “O frenin, bydd fyw byth! Rhoddaist orchymyn, O frenin, fod pawb a glywai sŵn y corn, y pibgorn, y delyn, y trigon, y crythau, a'r bagbib, a phob math o offeryn, i syrthio ac addoli'r ddelw aur, a bod pob un sy'n gwrthod syrthio ac addoli i'w daflu i ganol ffwrnais o dân poeth. Y mae rhyw Iddewon a benodaist yn llywodraethwyr yn nhalaith Babilon—Sadrach, Mesach ac Abednego—heb gymryd dim sylw ohonot, O frenin. Nid ydynt yn gwasanaethu dy dduwiau, nac yn addoli'r ddelw aur a wnaethost,” Yna, mewn tymer wyllt, anfonodd Nebuchadnesar am Sadrach, Mesach ac Abednego. Pan ddygwyd hwy o flaen y brenin
Daniel 3:8-13 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
O ran hynny yr amser hwnnw y daeth gwŷr o Caldea, ac a gyhuddasant yr Iddewon. Adroddasant a dywedasant wrth Nebuchodonosor y brenin, Bydd fyw, frenin, yn dragywydd. Ti, frenin, a osodaist orchymyn, ar i bwy bynnag a glywai sain y cornet, y chwibanogl, y delyn, y dulsimer, y saltring, a’r symffon, a phob rhyw gerdd, syrthio ac ymgrymu i’r ddelw aur: A phwy bynnag ni syrthiai ac nid ymgrymai, y teflid ef i ganol ffwrn o dân poeth. Y mae gwŷr o Iddewon a osodaist ti ar oruchwyliaeth talaith Babilon, Sadrach, Mesach, ac Abednego; y gwŷr hyn, O frenin, ni wnaethant gyfrif ohonot ti; dy dduwiau nid addolant, ac nid ymgrymant i’r ddelw aur a gyfodaist. Yna Nebuchodonosor mewn llidiowgrwydd a dicter a ddywedodd am gyrchu Sadrach, Mesach, ac Abednego. Yna y ducpwyd y gwŷr hyn o flaen y brenin.