Daniel 3:24-25
Daniel 3:24-25 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond yna’n sydyn dyma’r Brenin Nebwchadnesar yn neidio ar ei draed mewn braw. “Onid tri dyn wnaethon ni eu rhwymo a’u taflu i’r tân?” meddai wrth ei gynghorwyr. “Ie, yn sicr,” medden nhw. “Ond edrychwch!” gwaeddodd y brenin. “Dw i’n gweld pedwar o bobl yn cerdded yn rhydd yng nghanol y tân. A dŷn nhw ddim wedi cael unrhyw niwed! Ac mae’r pedwerydd yn edrych fel petai’n fod dwyfol.”
Daniel 3:24-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna neidiodd Nebuchadnesar ar ei draed mewn syndod a dweud wrth ei gynghorwyr, “Onid tri dyn a daflwyd gennym yn rhwym i ganol y tân?” “Gwir, O frenin,” oedd yr ateb. “Ond,” meddai yntau, “rwy'n gweld pedwar o ddynion yn cerdded yn rhydd ynghanol y tân, heb niwed, a'r pedwerydd yn debyg i un o feibion y duwiau.”
Daniel 3:24-25 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yna y synnodd ar Nebuchodonosor y brenin, ac y cyfododd ar frys, atebodd hefyd a dywedodd wrth ei gynghoriaid, Onid triwyr a fwriasom ni i ganol y tân yn rhwym? Hwy a atebasant ac a ddywedasant wrth y brenin, Gwir, O frenin. Atebodd a dywedodd yntau, Wele fi yn gweled pedwar o wŷr rhyddion yn rhodio yng nghanol y tân, ac nid oes niwed arnynt; a dull y pedwerydd sydd debyg i Fab DUW.