Daniel 3:19-30
Daniel 3:19-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna cynddeiriogodd Nebuchadnesar, a newid ei agwedd tuag at Sadrach, Mesach ac Abednego. Gorchmynnodd dwymo'r ffwrnais yn seithwaith poethach nag arfer, ac i filwyr praff o'i fyddin rwymo Sadrach, Mesach ac Abednego a'u taflu i'r ffwrnais dân. Felly rhwymwyd y tri yn eu dillad—cotiau, crysau a chapiau—a'u taflu i ganol y ffwrnais dân. Yr oedd gorchymyn y brenin mor chwyrn, a'r ffwrnais mor boeth, yswyd y dynion oedd yn cario Sadrach, Mesach ac Abednego gan fflamau'r tân, a syrthiodd y tri gwron, Sadrach, Mesach ac Abednego, yn eu rhwymau i ganol y ffwrnais dân. Yna neidiodd Nebuchadnesar ar ei draed mewn syndod a dweud wrth ei gynghorwyr, “Onid tri dyn a daflwyd gennym yn rhwym i ganol y tân?” “Gwir, O frenin,” oedd yr ateb. “Ond,” meddai yntau, “rwy'n gweld pedwar o ddynion yn cerdded yn rhydd ynghanol y tân, heb niwed, a'r pedwerydd yn debyg i un o feibion y duwiau.” Yna aeth Nebuchadnesar at geg y ffwrnais a dweud, “Sadrach, Mesach ac Abednego, gweision y Duw Goruchaf, dewch allan a dewch yma.” A daeth Sadrach, Mesach ac Abednego allan o ganol y tân. Pan ddaeth tywysogion, penaethiaid, pendefigion a chynghorwyr y brenin at ei gilydd, gwelsant nad oedd y tân wedi cyffwrdd â chyrff y tri. Nid oedd gwallt eu pen wedi ei ddeifio, na'u dillad wedi eu llosgi, ac nid oedd arogl tân arnynt. A dywedodd Nebuchadnesar, “Bendigedig yw Duw Sadrach, Mesach ac Abednego, a anfonodd ei angel i achub ei weision, a ymddiriedodd ynddo a herio gorchymyn y brenin, a rhoi eu cyrff i'r tân yn hytrach na gwasanaethu ac addoli unrhyw dduw ond eu Duw eu hunain. Yr wyf yn gorchymyn fod unrhyw un, beth bynnag fo'i bobl, ei genedl, neu ei iaith, sy'n cablu Duw Sadrach, Mesach ac Abednego yn cael ei rwygo'n ddarnau, a bod ei dŷ i'w droi'n domen. Nid oes duw arall a all waredu fel hyn.” Yna parodd y brenin lwyddiant i Sadrach, Mesach ac Abednego yn nhalaith Babilon.
Daniel 3:19-30 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Roedd Nebwchadnesar yn lloerig gyda Shadrach, Meshach ac Abednego. Roedd ei wyneb yn dweud y cwbl! Rhoddodd orchymyn fod y ffwrnais i gael ei thanio saith gwaith poethach nag arfer. Yna gorchmynnodd i ddynion cryf o’r fyddin rwymo Shadrach, Meshach ac Abednego a’u taflu nhw i mewn i’r ffwrnais. A dyma’r tri yn cael eu rhwymo a’u taflu i’r ffwrnais heb hyd yn oed dynnu eu dillad. Roedden nhw’n dal i wisgo’r cwbl – clogyn, trowsus, twrban, a phob dilledyn arall. Am fod y brenin wedi gorchymyn gwneud y ffwrnais mor eithafol o boeth, dyma’r fflamau’n llamu allan o’r ffwrnais a lladd y milwyr wrth iddyn nhw daflu Shadrach, Meshach ac Abednego i’r tân. Felly dyma Shadrach, Meshach ac Abednego yn syrthio, wedi’u rhwymo’n dynn, i ganol y tân yn y ffwrnais. Ond yna’n sydyn dyma’r Brenin Nebwchadnesar yn neidio ar ei draed mewn braw. “Onid tri dyn wnaethon ni eu rhwymo a’u taflu i’r tân?” meddai wrth ei gynghorwyr. “Ie, yn sicr,” medden nhw. “Ond edrychwch!” gwaeddodd y brenin. “Dw i’n gweld pedwar o bobl yn cerdded yn rhydd yng nghanol y tân. A dŷn nhw ddim wedi cael unrhyw niwed! Ac mae’r pedwerydd yn edrych fel petai’n fod dwyfol.” Dyma Nebwchadnesar yn mynd mor agos ag y gallai at ddrws y ffwrnais, a gweiddi: “Shadrach, Meshach, Abednego, gweision y Duw Goruchaf. Dewch allan! Dewch yma!” A dyma’r tri yn cerdded allan o’r tân. Dyma benaethiaid y taleithiau, yr uchel-swyddogion, y llywodraethwyr a chynghorwyr y brenin i gyd yn casglu o’u cwmpas nhw. Doedd y tân ddim wedi’u llosgi nhw o gwbl, dim un blewyn. Doedd dim niwed i’w dillad. Doedd dim hyd yn oed arogl llosgi arnyn nhw! Ac meddai Nebwchadnesar, “Moliant i Dduw Shadrach, Meshach ac Abednego! Anfonodd angel i achub ei weision oedd yn trystio ynddo. Roedden nhw’n fodlon herio gorchymyn y brenin, a hyd yn oed marw cyn addoli unrhyw dduw ond eu Duw eu hunain. Felly dw i am ei wneud yn ddeddf fod neb o unrhyw wlad neu iaith i ddweud unrhyw beth yn erbyn Duw Shadrach, Meshach ac Abednego. Os gwnân nhw, bydd eu cyrff yn cael eu rhwygo’n ddarnau, a’u cartrefi yn cael eu troi’n domen sbwriel! Achos does yr un Duw arall yn gallu achub fel yma.” A dyma’r brenin yn rhoi dyrchafiad a swyddi gwell fyth yn nhalaith Babilon i Shadrach, Meshach ac Abednego.
Daniel 3:19-30 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yna y llanwyd Nebuchodonosor o lidiowgrwydd, a gwedd ei wyneb ef a newidiodd yn erbyn Sadrach, Mesach, ac Abednego; am hynny y llefarodd ac y dywedodd am dwymo y ffwrn seithwaith mwy nag y byddid arfer o’i thwymo hi. Ac efe a ddywedodd wrth wŷr cryfion nerthol, y rhai oedd yn ei lu ef, am rwymo Sadrach, Mesach, ac Abednego, i’w bwrw i’r ffwrn o dân poeth. Yna y rhwymwyd y gwŷr hynny yn eu peisiau, eu llodrau, a’u cwcyllau, a’u dillad eraill, ac a’u bwriwyd i ganol y ffwrn o dân poeth. Gan hynny, o achos bod gorchymyn y brenin yn gaeth, a’r ffwrn yn boeth ragorol, fflam y tân a laddodd y gwŷr hynny a fwriasant i fyny Sadrach, Mesach, ac Abednego. A’r triwyr hyn, Sadrach, Mesach, ac Abednego, a syrthiasant yng nghanol y ffwrn o dân poeth yn rhwym. Yna y synnodd ar Nebuchodonosor y brenin, ac y cyfododd ar frys, atebodd hefyd a dywedodd wrth ei gynghoriaid, Onid triwyr a fwriasom ni i ganol y tân yn rhwym? Hwy a atebasant ac a ddywedasant wrth y brenin, Gwir, O frenin. Atebodd a dywedodd yntau, Wele fi yn gweled pedwar o wŷr rhyddion yn rhodio yng nghanol y tân, ac nid oes niwed arnynt; a dull y pedwerydd sydd debyg i Fab DUW. Yna y nesaodd Nebuchodonosor at enau y ffwrn o dân poeth, ac a lefarodd ac a ddywedodd, O Sadrach, Mesach, ac Abednego, gwasanaethwyr y DUW goruchaf, deuwch allan, a deuwch yma. Yna Sadrach, Mesach, ac Abednego a ddaethant allan o ganol y tân. A’r tywysogion, dugiaid, a phendefigion, a chynghoriaid y brenin, a ymgasglasant ynghyd, ac a welsant y gwŷr hyn, y rhai ni finiasai y tân ar eu cyrff, ac ni ddeifiasai flewyn o’u pen, ni newidiasai eu peisiau chwaith, ac nid aethai sawr y tân arnynt. Atebodd Nebuchodonosor a dywedodd, Bendigedig yw DUW Sadrach, Mesach, ac Abednego, yr hwn a anfonodd ei angel, ac a waredodd ei weision a ymddiriedasant ynddo, ac a dorasant orchymyn y brenin, ac a roddasant eu cyrff, rhag gwasanaethu nac ymgrymu ohonynt i un duw, ond i’w DUW eu hun. Am hynny y gosodir gorchymyn gennyf fi, Pob pobl, cenedl, a iaith, yr hon a ddywedo ddim ar fai yn erbyn DUW Sadrach, Mesach, ac Abednego, a wneir yn ddrylliau, a’u tai a wneir yn domen: oherwydd nad oes duw arall a ddichon wared fel hyn. Yna y mawrhaodd y brenin Sadrach, Mesach, ac Abednego, o fewn talaith Babilon.