Daniel 3:19-25
Daniel 3:19-25 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Roedd Nebwchadnesar yn lloerig gyda Shadrach, Meshach ac Abednego. Roedd ei wyneb yn dweud y cwbl! Rhoddodd orchymyn fod y ffwrnais i gael ei thanio saith gwaith poethach nag arfer. Yna gorchmynnodd i ddynion cryf o’r fyddin rwymo Shadrach, Meshach ac Abednego a’u taflu nhw i mewn i’r ffwrnais. A dyma’r tri yn cael eu rhwymo a’u taflu i’r ffwrnais heb hyd yn oed dynnu eu dillad. Roedden nhw’n dal i wisgo’r cwbl – clogyn, trowsus, twrban, a phob dilledyn arall. Am fod y brenin wedi gorchymyn gwneud y ffwrnais mor eithafol o boeth, dyma’r fflamau’n llamu allan o’r ffwrnais a lladd y milwyr wrth iddyn nhw daflu Shadrach, Meshach ac Abednego i’r tân. Felly dyma Shadrach, Meshach ac Abednego yn syrthio, wedi’u rhwymo’n dynn, i ganol y tân yn y ffwrnais. Ond yna’n sydyn dyma’r Brenin Nebwchadnesar yn neidio ar ei draed mewn braw. “Onid tri dyn wnaethon ni eu rhwymo a’u taflu i’r tân?” meddai wrth ei gynghorwyr. “Ie, yn sicr,” medden nhw. “Ond edrychwch!” gwaeddodd y brenin. “Dw i’n gweld pedwar o bobl yn cerdded yn rhydd yng nghanol y tân. A dŷn nhw ddim wedi cael unrhyw niwed! Ac mae’r pedwerydd yn edrych fel petai’n fod dwyfol.”
Daniel 3:19-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna cynddeiriogodd Nebuchadnesar, a newid ei agwedd tuag at Sadrach, Mesach ac Abednego. Gorchmynnodd dwymo'r ffwrnais yn seithwaith poethach nag arfer, ac i filwyr praff o'i fyddin rwymo Sadrach, Mesach ac Abednego a'u taflu i'r ffwrnais dân. Felly rhwymwyd y tri yn eu dillad—cotiau, crysau a chapiau—a'u taflu i ganol y ffwrnais dân. Yr oedd gorchymyn y brenin mor chwyrn, a'r ffwrnais mor boeth, yswyd y dynion oedd yn cario Sadrach, Mesach ac Abednego gan fflamau'r tân, a syrthiodd y tri gwron, Sadrach, Mesach ac Abednego, yn eu rhwymau i ganol y ffwrnais dân. Yna neidiodd Nebuchadnesar ar ei draed mewn syndod a dweud wrth ei gynghorwyr, “Onid tri dyn a daflwyd gennym yn rhwym i ganol y tân?” “Gwir, O frenin,” oedd yr ateb. “Ond,” meddai yntau, “rwy'n gweld pedwar o ddynion yn cerdded yn rhydd ynghanol y tân, heb niwed, a'r pedwerydd yn debyg i un o feibion y duwiau.”
Daniel 3:19-25 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yna y llanwyd Nebuchodonosor o lidiowgrwydd, a gwedd ei wyneb ef a newidiodd yn erbyn Sadrach, Mesach, ac Abednego; am hynny y llefarodd ac y dywedodd am dwymo y ffwrn seithwaith mwy nag y byddid arfer o’i thwymo hi. Ac efe a ddywedodd wrth wŷr cryfion nerthol, y rhai oedd yn ei lu ef, am rwymo Sadrach, Mesach, ac Abednego, i’w bwrw i’r ffwrn o dân poeth. Yna y rhwymwyd y gwŷr hynny yn eu peisiau, eu llodrau, a’u cwcyllau, a’u dillad eraill, ac a’u bwriwyd i ganol y ffwrn o dân poeth. Gan hynny, o achos bod gorchymyn y brenin yn gaeth, a’r ffwrn yn boeth ragorol, fflam y tân a laddodd y gwŷr hynny a fwriasant i fyny Sadrach, Mesach, ac Abednego. A’r triwyr hyn, Sadrach, Mesach, ac Abednego, a syrthiasant yng nghanol y ffwrn o dân poeth yn rhwym. Yna y synnodd ar Nebuchodonosor y brenin, ac y cyfododd ar frys, atebodd hefyd a dywedodd wrth ei gynghoriaid, Onid triwyr a fwriasom ni i ganol y tân yn rhwym? Hwy a atebasant ac a ddywedasant wrth y brenin, Gwir, O frenin. Atebodd a dywedodd yntau, Wele fi yn gweled pedwar o wŷr rhyddion yn rhodio yng nghanol y tân, ac nid oes niwed arnynt; a dull y pedwerydd sydd debyg i Fab DUW.