Daniel 3:16-18
Daniel 3:16-18 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond dyma Shadrach, Meshach ac Abednego yn ateb y brenin, “Does dim pwynt i ni eich ateb chi. Os ydy’r Duw dŷn ni’n ei addoli yn bodoli, bydd e’n gallu’n hachub ni o’r ffwrnais dân ac o’ch gafael chi, o frenin. Ond hyd yn oed os ydy e ddim yn gwneud hynny, sdim gwahaniaeth. Does gynnon ni ddim bwriad addoli eich duwiau chi, na’r ddelw aur dych chi wedi’i chodi.”
Daniel 3:16-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Atebodd Sadrach, Mesach ac Abednego y brenin, “Nid oes angen i ni dy ateb ynglŷn â hyn. Y mae'r Duw a addolwn ni yn alluog i'n hachub, ac fe'n hachub o ganol y ffwrnais danllyd ac o'th afael dithau, O frenin; a hyd yn oed os na wna, yr ydym am i ti wybod, O frenin, na wasanaethwn ni dy dduwiau nac addoli'r ddelw aur a wnaethost.”
Daniel 3:16-18 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Sadrach, Mesach, ac Abednego a atebasant ac a ddywedasant wrth y brenin, Nebuchodonosor, nid ydym ni yn gofalu am ateb i ti yn y peth hyn. Wele, y mae ein DUW ni, yr hwn yr ydym ni yn ei addoli, yn abl i’n gwared ni allan o’r ffwrn danllyd boeth: ac efe a’n gwared ni o’th law di, O frenin. Ac onid e, bydded hysbys i ti, frenin, na addolwn dy dduwiau, ac nad ymgrymwn i’th ddelw aur a gyfodaist.