Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Daniel 2:24-47

Daniel 2:24-47 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Yna aeth Daniel at Arioch, a benodwyd gan y brenin i ladd doethion Babilon, a dweud wrtho, “Paid â difa doethion Babilon. Dos â fi at y brenin, a mynegaf y dehongliad iddo.” Brysiodd Arioch i fynd â Daniel at y brenin, a dweud wrtho, “Cefais ddyn ymhlith alltudion Jwda a all roi'r dehongliad i'r brenin.” Meddai'r brenin wrth Daniel, a alwyd yn Beltesassar, “A fedri di ddweud wrthyf beth oedd y freuddwyd a welais, a'i dehongli?” Atebodd Daniel, “Nid oes doethion na swynwyr na dewiniaid na brudwyr a fedr ddehongli i'r brenin y dirgelwch y mae'n holi yn ei gylch; ond y mae Duw yn y nefoedd sy'n datguddio dirgelion, ac ef sy'n dangos i'r Brenin Nebuchadnesar beth a ddigwydd yn y dyfodol. Dyma'r freuddwyd a'r gweledigaethau a gefaist yn dy wely: Meddwl am y dyfodol yr oeddit ti, O frenin, yn dy wely; a mynegodd datguddiwr dirgelion iti beth sydd i ddod. Ond rhoddwyd datguddiad o'r dirgelwch i mi, nid am fy mod yn ddoethach na neb arall, ond er mwyn mynegi'r dehongliad i'r brenin, a pheri iti ddeall dy feddyliau. O frenin, delw fawr a welaist yn y weledigaeth, ac yr oedd yn sefyll o'th flaen yn fawr ac yn llachar, a'i golwg yn codi arswyd. Yr oedd pen y ddelw yn aur coeth, ei bron a'i breichiau'n arian, ei bol a'i chluniau'n bres, ei choesau'n haearn, a'i thraed yn gymysgedd o haearn a chlai. Tra oeddit yn edrych, naddwyd carreg heb gymorth llaw; trawodd hon y ddelw yn ei thraed o haearn a chlai, a'u malurio. Yna drylliwyd yr haearn, y clai, y pres, yr arian a'r aur gyda'i gilydd, nes eu bod fel us llawr dyrnu yn yr haf. Chwythodd y gwynt hwy i ffwrdd, ac nid oedd golwg ohonynt. Ond tyfodd y garreg a faluriodd y ddelw yn fynydd mawr, a llenwi'r holl ddaear. “Dyna'r freuddwyd, ac yn awr fe rown y dehongliad i'r brenin. Yr wyt ti, O frenin, yn frenin y brenhinoedd; rhoddodd Duw'r nefoedd i ti frenhiniaeth, awdurdod, nerth a gogoniant, a'th ethol i lywodraethu ar bobl ac anifeiliaid y maes ac adar yr awyr ple bynnag y bônt. Ti yw'r pen aur. Ar dy ôl daw brenhiniaeth arall, wannach na thi. Yna trydedd frenhiniaeth, un o bres, yn teyrnasu dros yr holl ddaear. Wedyn pedwaredd frenhiniaeth, a fydd cyn gryfed â haearn. Ac fel y mae haearn yn malurio ac yn dryllio popeth, bydd hithau'n malurio ac yn dryllio'r rhain i gyd. Fel y gwelaist y traed a'r bysedd yn gymysgedd o glai crochenydd a haearn, felly bydd brenhiniaeth ranedig; bydd peth ohoni'n gryf fel haearn, yn union fel y gwelaist yr haearn yn gymysg â'r pridd cleiog. Ac fel yr oedd bysedd y traed yn gymysg o haearn ac o glai, felly y bydd rhan o'r frenhiniaeth yn gryf a rhan yn wan. Fel y gwelaist yr haearn yn gymysg â'r pridd cleiog, felly y byddant hwy'n priodi trwy'i gilydd; ond ni lŷn y naill wrth y llall, fel nad yw haearn a phridd yn glynu. Yn nyddiau'r brenhinoedd hynny bydd Duw'r nefoedd yn sefydlu brenhiniaeth nas difethir byth, brenhiniaeth na chaiff ei gadael i eraill. Bydd hon yn dryllio ac yn rhoi terfyn ar yr holl freniniaethau eraill, ond bydd hi ei hun yn para am byth, fel y garreg a welaist yn cael ei naddu o'r mynydd heb gymorth llaw ac yn malurio'r haearn, y pres, y clai, yr arian, a'r aur. Dangosodd y Duw mawr i'r brenin beth sydd i ddigwydd ar ôl hyn. Y mae'r freuddwyd yn ddilys, a'i dehongliad yn sicr.” Yna plygodd y Brenin Nebuchadnesar i lawr ac ymgrymu i Daniel, a gorchymyn offrymu iddo aberth ac arogldarth. Dywedodd y brenin wrth Daniel, “Yn wir, Duw y duwiau ac Arglwydd y brenhinoedd yw eich Duw chwi, a datguddiwr dirgelion; oherwydd medraist ddatrys y dirgelwch hwn.”

Daniel 2:24-47 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Felly dyma Daniel yn mynd at Arioch, oedd wedi cael y gwaith o ladd dynion doeth Babilon i gyd. Dwedodd wrtho, “Paid lladd dynion doeth Babilon. Dos â fi i weld y brenin. Gwna i ddweud wrtho beth ydy ystyr y freuddwyd.” Felly’n syth bin dyma Arioch yn mynd â Daniel i weld y brenin, a dweud wrtho, “Dw i wedi dod o hyd i ddyn, un o gaethion Jwda, sy’n gallu dweud wrth y brenin beth ydy ystyr ei freuddwyd!” Dyma’r brenin yn gofyn i Daniel (oedd yn cael ei alw yn Belteshasar), “Ydy hyn yn wir? Wyt ti’n gallu dweud beth oedd y freuddwyd, a dweud wrtho i beth mae’n ei olygu?” Dyma Daniel yn ateb y brenin, “Does neb ar wyneb daear – dynion doeth, swynwyr, dewiniaid na chonsurwyr – yn gallu datrys y dirgelwch yma i’r brenin. Ond mae yna Dduw yn y nefoedd sy’n gallu dangos ystyr pob dirgelwch. Mae’r Duw yma wedi dangos i Nebwchadnesar beth sy’n mynd i ddigwydd yn y dyfodol. “Dyma beth welsoch chi’n eich breuddwyd: Tra oedd y brenin yn cysgu yn ei wely cafodd freuddwyd am bethau yn y dyfodol. Dangosodd yr Un sy’n datrys pob dirgelwch bethau sy’n mynd i ddigwydd. Dw i ddim wedi cael yr ateb i’r dirgelwch am fy mod i’n fwy doeth na phawb arall, ond am fod Duw eisiau i’r brenin ddeall y freuddwyd gafodd e. “Eich mawrhydi, beth welsoch chi oedd cerflun anferth – roedd yn aruthrol fawr ac yn disgleirio’n llachar. Roedd yn ddigon i ddychryn unrhyw un. Roedd pen y cerflun wedi’i wneud o aur, ei frest a’i freichiau yn arian, ei fol a’i gluniau yn bres, ei goesau yn haearn, a’i draed yn gymysgedd o haearn a chrochenwaith. Tra oeddech chi’n edrych arno dyma garreg yn cael ei thorri o ochr mynydd gan law anweledig. Dyma’r garreg yn taro’r cerflun ar ei draed, ac yn eu malu nhw’n ddarnau. A dyma’r cerflun anferth yn syrthio’n ddarnau – yr haearn, crochenwaith, pres, arian ac aur. Roedd y cwbl yn ddarnau mân, fel us ar lawr dyrnu. A chafodd y cwbl ei chwythu i ffwrdd gan y gwynt. Doedd dim sôn amdano. Ond wedyn dyma’r garreg wnaeth daro’r cerflun yn troi yn fynydd enfawr oedd i’w weld yn amlwg drwy’r byd i gyd. “Dyna oedd y freuddwyd. A nawr, fe esbonia i beth ydy ystyr y cwbl i’r brenin: Eich mawrhydi, dych chi’n frenin ar frenhinoedd lawer. Mae Duw’r nefoedd wedi rhoi awdurdod, pŵer, grym ac anrhydedd i chi. Dych chi’n teyrnasu ar y byd i gyd – ble bynnag mae pobl, anifeiliaid gwyllt ac adar yn byw. Chi ydy’r pen o aur. Ond bydd teyrnas arall yn dod ar eich ôl chi; fydd hi ddim mor fawr â’ch ymerodraeth chi. Ar ôl hynny, bydd trydedd teyrnas yn codi i reoli’r byd i gyd – dyma’r un o bres. Wedyn bydd y bedwaredd deyrnas yn codi. Bydd hon yn gryf fel haearn. Yn union fel mae haearn yn malu popeth mae’n ei daro, bydd y deyrnas yma yn dinistrio a sathru popeth aeth o’i blaen. Ac wedyn y traed a’r bodiau welsoch chi (oedd yn gymysgedd o haearn a chrochenwaith) – bydd hon yn deyrnas ranedig. Bydd ganddi beth o gryfder yr haearn ynddi, ond haearn wedi’i gymysgu â chrochenwaith ydy e. Cymysgedd o gryfder yr haearn a breuder y crochenwaith. Mae’r cymysgedd hefyd yn dangos y bydd pobloedd yn cymysgu drwy briodas, ond ddim yn aros gyda’i gilydd – yn union fel haearn a chrochenwaith, sydd ddim yn cymysgu gyda’i gilydd. “Yn amser y brenhinoedd yna bydd Duw’r nefoedd yn sefydlu teyrnas fydd byth yn cael ei dinistrio. Fydd y deyrnas yma byth yn cael ei choncro a’i chymryd drosodd gan bobl eraill. Bydd yn chwalu’r teyrnasoedd eraill, ac yn dod â nhw i ben. Ond bydd y deyrnas hon yn aros am byth. Dyna ystyr y garreg gafodd ei thorri o ochr mynydd gan law anweledig, a malu’r cwbl yn ddarnau – yr haearn, y pres, y crochenwaith, yr arian a’r aur. Mae’r Duw mawr wedi dangos i’r brenin beth fydd yn digwydd yn y dyfodol. Dyna oedd y freuddwyd, ac mae’r esboniad yn gywir hefyd.” Dyma’r brenin Nebwchadnesar yn plygu o flaen Daniel â’i wyneb ar lawr, a gorchymyn cyflwyno aberthau a llosgi arogldarth iddo. Dwedodd wrth Daniel, “Ti ydy’r unig un sydd wedi gallu datrys y dirgelwch. Felly, does dim amheuaeth fod dy Dduw di yn Dduw ar y duwiau i gyd, ac yn feistr ar bob brenin. Mae e’n gallu datguddio pob dirgelwch!”

Daniel 2:24-47 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Oherwydd hyn yr aeth Daniel at Arioch, yr hwn a osodasai y brenin i ddifetha doethion Babilon: efe a aeth, ac a ddywedodd wrtho fel hyn; Na ddifetha ddoethion Babilon; dwg fi o flaen y brenin, a mi a ddangosaf i’r brenin y dehongliad. Yna y dug Arioch Daniel o flaen y brenin ar frys, ac a ddywedodd wrtho fel hyn; Cefais ŵr o blant caethiwed Jwda, yr hwn a fynega i’r brenin y dehongliad. Atebodd y brenin, a dywedodd wrth Daniel, yr hwn yr oedd ei enw Beltesassar, A elli di fynegi i mi y breuddwyd a welais, a’i ddehongliad? Atebodd Daniel o flaen y brenin, a dywedodd, Ni all doethion, astronomyddion, dewiniaid, na brudwyr, ddangos i’r brenin y dirgelwch y mae y brenin yn ei ofyn: Ond y mae DUW yn y nefoedd yn datguddio dirgeledigaethau, ac a fynegodd i’r brenin Nebuchodonosor beth a fydd yn y dyddiau diwethaf. Dy freuddwyd a gweledigaethau dy ben yn dy wely ydoedd hyn yma: Ti frenin, dy feddyliau a godasant yn dy ben ar dy wely, beth oedd i ddyfod ar ôl hyn: a’r hwn sydd yn datguddio dirgeledigaethau, a fynegodd i ti beth a fydd. Minnau hefyd, nid oherwydd y doethineb sydd ynof fi yn fwy na neb byw, y datguddiwyd i mi y dirgelwch hwn: ond o’u hachos hwynt y rhai a fynegant y dehongliad i’r brenin, ac fel y gwybyddit feddyliau dy galon. Ti, frenin, oeddit yn gweled, ac wele ryw ddelw fawr: y ddelw fawr hon, yr oedd ei disgleirdeb yn rhagorol, oedd yn sefyll gyferbyn â thi; a’r olwg arni ydoedd ofnadwy. Pen y ddelw hon ydoedd o aur da, ei dwyfron a’i breichiau o arian, ei bol a’i morddwydydd o bres, Ei choesau o haearn, ei thraed oedd beth ohonynt o haearn, a pheth ohonynt o bridd. Edrych yr oeddit hyd oni thorrwyd allan garreg, nid trwy waith dwylo, a hi a drawodd y ddelw ar ei thraed o haearn a phridd, ac a’u maluriodd hwynt. Yna yr haearn, y pridd, y pres, yr arian, a’r aur, a gydfaluriasant, ac oeddynt fel mân us yn dyfod o’r lloriau dyrnu haf; a’r gwynt a’u dug hwynt ymaith, ac ni chaed lle iddynt; a’r garreg yr hon a drawodd y ddelw a aeth yn fynydd mawr, ac a lanwodd yr holl ddaear. Dyma y breuddwyd: dywedwn hefyd ei ddehongliad o flaen y brenin. Ti, frenin, wyt frenin brenhinoedd: canys DUW y nefoedd a roddodd i ti frenhiniaeth, gallu, a nerth, a gogoniant. A pha le bynnag y preswylia plant dynion, efe a roddes dan dy law fwystfilod y maes, ac ehediaid y nefoedd, ac a’th osododd di yn arglwydd arnynt oll: ti yw y pen aur hwnnw. Ac ar dy ôl di y cyfyd brenhiniaeth arall is na thi, a thrydedd frenhiniaeth arall o bres, yr hon a lywodraetha ar yr holl ddaear. Bydd hefyd y bedwaredd frenhiniaeth yn gref fel haearn: canys yr haearn a ddryllia, ac a ddofa bob peth: ac fel haearn, yr hwn a ddryllia bob peth, y maluria ac y dryllia hi. A lle y gwelaist y traed a’r bysedd, peth ohonynt o bridd crochenydd, a pheth ohonynt o haearn, brenhiniaeth ranedig fydd; a bydd ynddi beth o gryfder haearn, oherwydd gweled ohonot haearn wedi ei gymysgu â phridd cleilyd. Ac fel yr ydoedd bysedd y traed, peth o haearn, a pheth o bridd; felly y bydd y frenhiniaeth, o ran yn gref, ac o ran yn frau. A lle y gwelaist haearn wedi ei gymysgu â phridd cleilyd, ymgymysgant â had dyn; ond ni lynant y naill wrth y llall, megis nad ymgymysga haearn â phridd. Ac yn nyddiau y brenhinoedd hyn, y cyfyd DUW y nefoedd frenhiniaeth, yr hon ni ddistrywir byth: a’r frenhiniaeth ni adewir i bobl eraill; ond hi a faluria, ac a dreulia yr holl freniniaethau hyn, a hi a saif yn dragywydd. Lle y gwelaist dorri carreg o’r mynydd, yr hon ni thorrwyd â llaw, a malurio ohoni yr haearn, y pres, y pridd, yr arian, a’r aur; hysbysodd y DUW mawr i’r brenin beth a fydd wedi hyn: felly y breuddwyd sydd wir, a’i ddehongliad yn ffyddlon. Yna y syrthiodd Nebuchodonosor y brenin ar ei wyneb, ac a addolodd Daniel; gorchmynnodd hefyd am offrymu iddo offrwm ac arogl-darth. Atebodd y brenin a dywedodd wrth Daniel, Mewn gwirionedd y gwn mai eich DUW chwi yw DUW y duwiau, ac Arglwydd y brenhinoedd, a datguddydd dirgeledigaethau, oherwydd medru ohonot ddatguddio y dirgelwch hwn.